Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am gosbau llymach i gwmnïau dŵr am ollwng carthion yn afonydd Cymru.
Fis Hydref, datgelodd ymchwiliad gan y BBC fod cwmnïau dŵr wedi bod yn gollwng carthion yn anghyfreithlon ledled y wlad, a bod 40-50% o’r cwmnïau’n gweithredu’n groes i’w trwyddedau.
Y cwmni gwaethaf am ollwng carthion yw safle yn Aberteifi ger traeth Poppit.
Yn ôl data gan Surfers Against Sewage, fe wnaeth y safle ollwng carthion 24 o weithiau dros gyfnod o ddwy flynedd.
‘Dim arlliw o gosb’
“Am yn rhy hir o lawer rŵan, mae Dŵr Cymru wedi cael llygru ein hafonydd a’n moroedd heb arlliw o gosb yn dod iddyn nhw,” meddai Jane Dodds.
“Ers y datgeliad syfrdanol fis Hydref fod 40-50% o safleoedd trin dŵr gwastraff wedi bod yn gollwng carthion yn anghyfreithlon yn ein dyfroedd ers blynyddoedd, does dim byd wedi’i wneud i gosbi’r sawl sy’n gyfrifol.
“Rydyn ni wedi clywed digon o sŵn gan Lywodraeth Cymru’n addo gweithredu ar sail y llygrwyr hyn.
“Ond dw i’n ofni mai dyna’r cyfan gawson ni – sŵn yn unig, heb ddilyn i fyny ar hynny.
“Os ydyn ni am fod o ddifrif am fynd i’r afael â llygredd dŵr, yna mae’n rhaid i ni sicrhau bod yna ganlyniadau difrifol i’r sawl sy’n euog o niweidio’n dyfroedd hyfryd.”