Mae’n bwysig dod â thai gwag Gwynedd a chadarnleoedd eraill y Gymraeg yn ôl i ddefnydd “i achub ein hiaith, ein diwylliant a’n hunaniaeth”, yn ôl un o gynghorwyr Gwynedd.

Mae nifer y bobol sy’n ddigartref neu sydd ar y gofrestr ar gyfer tai cymdeithasol yn y sir yn cynyddu’n gyflym, yn ôl Craig ab Iago, sydd â chyfrifoldeb dros dai ar Gabinet Cyngor Gwynedd.

Mae’r Cyngor wedi prynu tir yng Nghaernarfon, Llanystumdwy a Mynytho i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn y sir, a sicrhau bod pobol leol yn cael mynediad at dai o safon, sy’n fforddiadwy ac sy’n gwella ansawdd eu bywydau.

Mae’r Cyngor wedi prynu’r tiroedd yn Llanystumdwy a Mynytho dros y misoedd diwethaf, gyda’r bwriad o adeiladu tai yno.

Mae rhain yn ychwanegol i gynlluniau Tŷ Gwynedd sydd ar y gweill ym Mangor, Llanberis a Morfa Nefyn, gyda’r nod o adeiladu 90 o gartrefi o’r fath erbyn 2027.

Pe bai’r ceisiadau cynllunio’n llwyddiannus, byddai’r tai newydd ar gael naill ai i’w rhentu ar rent fforddiadwy neu i’w prynu trwy gynllun rhannu ecwiti.

Eu bwriad yw darparu cartrefi i bobol leol sy’n methu prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored, ond sy’n annhebygol o fod yn gymwys am dai cymdeithasol.

Bydd holl dai Tŷ Gwynedd yn glynu at egwyddorion dylunio penodol, sef eu bod yn fforddiadwy, yn addasadwy, yn gynaliadwy, yn ynni-effeithlon ac yn gwella llesiant preswyliaid.

Cafodd darn arall o dir ger Frondeg yng Nghaernarfon ei brynu’n ddiweddar, ac mae trafodaethau ynghylch ei ddatblygu ar y gweill.

Mae’r prosiectau hyn i gyd yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai gwerth £140m gan Gyngor Gwynedd, i ateb prinder tai yn y sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy yn eu cymunedau eu hunain.

Argyfwng

Yn ôl Craig ab Iago, mae Cyngor Gwynedd yn gwneud cymaint â phosib i geisio mynd i’r afael â’r argyfwng tai yn y sir.

“Mae’n hysbys nad oes digon o gartrefi addas i bobol Gwynedd yn ein sir ar hyn o bryd, ac mae’r angen yn dal i fod yn uwch na’r cyflenwad,” meddai Craig ab Iago wrth golwg360.

“Mae gennym ni dros 5,000 o unigolion ar y gofrestr tai cymdeithasol ac rydym yn wynebu argyfwng digartrefedd lle mae’r Cyngor yn gorfod lleoli’r nifer uchaf erioed o bobol mewn llety brys.

“Rydan ni fel Cyngor yn gwneud cymaint ag y gallwn ni i fynd i’r afael â’r argyfwng yma, trwy brynu eiddo preifat a chynnig cymhellion i ddod â thai gwag yn ôl i ddefnydd.

“Ochr yn ochr â chynlluniau i ddod â thai yn ôl i ddwylo trigolion Gwynedd, mae’n hollbwysig bod cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu, a phrynu tir datblygu yw’r cam cyntaf i wireddu hynny.

“Bydd y datblygiadau yma’n angenrheidiol i ddarparu’r hawl dynol sylfaenol o gartrefi diogel ac addas i bobl y sir.”

Tai gwag

Yn ôl Craig ab Iago, y rheswm pam fod cynifer o dai yn wag yw cynllun Hawl i Brynu Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig.

“Y rheswm cyntaf mae tai yn wag yw oherwydd, yn yr wythdegau, creodd Margaret Thatcher Hawl i Brynu,” meddai.

“Gwnaeth hynny olygu bod y cynghorau yn gorfod gwerthu tai cyngor yn rhad iawn iawn.

“Doedden nhw ddim yn cael adeiladu mwy o dai cymdeithasol a mwy o dai cyngor.

“Ar un adeg, roedden nhw’n adeiladu degau o filoedd o dai cymdeithasol bob blwyddyn. Gwnaeth hynny stopio.

“Yr unig dai oedd pobol yn eu hadeiladu oedd tai preifat; doedden nhw ddim yn y lle iawn, ddim y mathau iawn o dai.

“Yn y diwedd, roedd y tai cyngor roedden nhw’n eu gwerthu yn mynd i bobol yn breifat, oedd yn eu gwerthu nhw ymlaen i gwmnïau mawr.

“Rŵan, mae llawer o hen dai cyngor yn nwylo cwmnïau mawr.

“Mab gwleidydd wnaeth ddod fyny efo’r cynllun ‘Hawl i Brynu’, sydd jest yn egluro sut mae’r system yn gweithio’n gyfangwbl.”

Pobol ddŵad

Rheswm arall am dai gwag, yn ôl Craig ab Iago, yw fod pobol o’r tu allan i’r sir yn prynu tai yno.

“Rydym ni yng Ngwynedd yn gorfod cystadlu efo pobol sydd efo mwy o arian na ni,” meddai.

“Maen nhw’n prynu’n tai ni oherwydd bo nhw’n gweld ein tai ni fel tai rhad.

“Mae’n golygu ein bod ni’n methu prynu’r tai.

“Rŵan, rydym ar y pwynt lle does yna ddim tai ar gael i’w prynu.

“Bum mlynedd yn ôlm roedd y tai yn anfforddiadwy; rŵan does yna ddim tai.”

‘Heb gartrefi, does dim cymunedau’

Yn ôl Craig ab Iago, mae angen gwneud tai gwag yn brif gartref er mwyn sicrhau digon o gartrefi i bawb sydd eu hangen, ac er mwyn gwneud yr hyn sy’n “foesol” gywir.

Mae hynny’n mynd law yn llaw ag achub y Gymraeg, ein diwylliant a’n hunaniaeth fel cenedl, meddai.

“Rydym efo gymaint o bobol sydd ddim efo tai, sydd ddim yn gallu fforddio tai,” meddai.

“Wedyn, rydym efo llawer o dai gwag.

“Pan dw i’n sôn am dai gwag, dw i’n sôn am dai sydd ddim yn brif breswylfa rhywun, dw i’n sôn am ail dŷ gwag oherwydd does neb yn byw ynddo fo o gwbl, neu AirBnB. Maen nhw i gyd yn wag.

“Maen nhw’n ased yn fwy na maen nhw’n gartrefi.

“Rydyn ni angen newid sut rydyn ni’n gweld tai, rydyn ni angen gweld tai fel cartrefi.

“Heb y cartrefi, does dim cymunedau.

“Heb y cymunedau, does yna ddim Cymraeg, does dim diwylliant Cymraeg, does yna ddim hunaniaeth.

“Byddwn ni’n colli bob dim os ydyn ni’n methu cartrefu pobol.

“Dw i ddim yn dweud bod pob person sy’n berchen tŷ gwag yn berson anfoesol – mae llawer o bobol yn y sefyllfa yna, a does dim byd maen nhw’n gallu gwneud amdano fo.

“Dyna pam rydyn ni fel cyngor yn ceisio cynnig cymaint o bethau â phosib i helpu pobol sydd efo tai gwag, i ddod â nhw’n ôl i ddefnydd.”

Tai anaddas i fyw ynddyn nhw

Yn ôl Craig ab Iago, er bod nifer o dai gwag yng Ngwynedd, dydy llawer ohonyn nhw ddim yn addas i bobol fyw ynddyn nhw.

Ond dywed fod Cyngor Gwynedd wedi cymryd camau i ddod â thai addas yn ôl i ddefnydd.

“Mae yna bobol sy’n dweud, ‘Does dim angen adeiladu mwy o dai, oherwydd mae yna dai gwag ym mhob man’,” meddai.

“Dydy’r tai gwag ddim yn y llefydd iawn.

“Dydyn nhw ddim y math o dai rydyn ni eu hangen.

“Dw i ddim yn dweud hynny am bob tŷ gwag, oherwydd dydy o ddim.

“Does dim pwynt dweud, ‘Rydyn ni efo cymaint o dai gwag’.

“Rydyn ni angen dod â nhw’n ôl i ddefnydd, a dim adeiladu mwy o dai, oherwydd nid dyna’r ateb.

“Un ateb ydy mynd ar ôl y tai gwag; rydyn ni wedi gwneud hynny.

“Rydyn ni wedi penodi person i fynd ar ôl y tai gwag a chydweithio’n drawsadrannol ar hyd y Cyngor, i wneud yn siŵr ein bod ni’n cael y tai gwag yn ôl i ddefnydd.

“Dydy o ddim yn bosib bob tro, mae’n broses hir iawn ac mae’n gallu costio llawer o arian.

“Rydym yn gwneud hynny fel un peth i daclo’r broblem.

“Y peth arall ydy, mae pobol eisiau tai yn y lle iawn, maen nhw eisiau tai newydd, maen nhw eisiau tai addas.

“Yng Ngwynedd, rydyn ni efo’r tai gwlypaf, lleiaf ac oeraf yn Ewrop.

“Dydy dod â phob un ohonyn nhw yn ôl i ddefnydd ddim yn mynd i ddarparu’r math o dai mae pobol yng Ngwynedd yn eu haeddu.

“Beth rydyn ni ei angen yw dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd lle mae’n bosib a lle mae’n addas, a hefyd adeiladu tai newydd, tai efo gerddi, tai pan mae pobol yn eu cael nhw maen nhw eisiau aros yno, lle mae ‘Waw-ffactor’ – y math o dai roedden ni’n eu hadeiladu ar un adeg ar ôl yr Ail Ryfel Byd – tai cyngor da, dim jest rabbit hutches lle wyt ti jest yn dympio pobol.

“Rydyn ni angen adeiladu tai sy’n mynd i adeiladu balchder, oherwydd rydym yn haeddu hynny.”

Ased, nid cartref

Dywed Craig ab Iago fod gormod o bwyslais erbyn hyn ar brynu tai fel asedau yn hytrach na chartrefi, a bod hynny’n cyfrannu at y broblem yn y sir.

“Mae pobol yn gweld tai fel boltholes, neu ffordd o ennill arian, neu ffordd o wneud arian trwy AirBnB,” meddai.

“Mae pobol o’r tu allan ac o fan hyn yn gweld tai fel ffordd o ennill mwy o arian – ‘Dw i eisiau mynd i Wynedd ar fy ngwyliau ddwywaith y flwyddyn, felly wna’i brynu tŷ yno’, oherwydd eu bod nhw mor rhad o gymharu efo’u tai nhw.

“Hefyd, mae landlordiaid yn gweld bod mwy o arian i’w gael drwy AirBnBs.

“Os ydyn nhw’n rhentu trwyddyn nhw, trwy AirBnB, maen nhw’n gwneud yr un arian mewn deg wythnos â fysen nhw yn rhentu fo i rywun lleol drwy’r flwyddyn.

“Felly mae llawer o incentive i rentu ein tai ni fel AirBnBs.”

Effaith bod yn ddigartref

Mae yna bobol hefyd sy’n colli eu cartrefi am wahanol resymau, a does unman iddyn nhw fynd, meddai.

“Yn amlwg maen nhw’n dod atom ni i ddweud rwy’n ddigartref rŵan.

“Mae yna gysylltiad clir rhwng digartrefedd ac argaeledd tai.

“Pan wyt ti’n gweld tai yn mynd, tai ddim ar gael, tai yn anfforddiadwy, dwy flynedd ar ôl hynny rwyt ti’n disgwyl ton fawr o ddigartrefedd.”

Dywed y gallai bod yn ddigartref achosi problemau i blant pan fyddan nhw’n oedolion hefyd.

“Mae yna adverse childhood experiences,” meddai.

“Un o’r ACES ydy bo chi ddim yn cael eich magu mewn un tŷ, yn symud bob pum munud.

“Mae’n dymhorol, does dim sicrwydd o gwbl, dwyt ti ddim yn siŵr am faint wyt ti am aros mewn lle.

“Os ti efo ACES, mae modd rhagweld trafferthion yn dy fywyd pan wyt ti’n oedolyn.

“Ar hyn o bryd yng Ngwynedd, mae yna 70 o blant mewn llety tymhorol, sy’n golygu ein bod ni’n creu ACES i’n plant ni, sy’n golygu pan maen nhw’n dod yn oedolion, maen nhw am stryglo, bo nhw am ddod at y wladwriaeth am help efo pethau oherwydd dydyn nhw ddim yn gallu ymdopi.

“Os wyt ti’n gweld tai fel cartref yn hytrach nag ased, cartref ydy lle wyt ti’n creu hunaniaeth, lle wyt ti’n creu cymuned, lle wyt ti’n rhoi dy wreiddiau lawr.

“Mae cartref yn creu personoliaeth, mae o’n creu pwy wyt ti fel person.

“Os wyt ti ddim efo cartref a bo ti’n aros mewn B&B neu dŷ tymhorol ac wedyn cael dy symud ymlaen, dwyt ti ddim efo’r cyfle i wneud hynny.

“Mae hynny’n anfoesol oherwydd mae pawb angen hynny.

“Fel pobol, rydym angen y sefyllfa yna.

“Rydym yn y sefyllfa rŵan lle dydy hi ddim yn bosib i gannoedd, miloedd o bobol.”

Ymateb Cyngor Gwynedd

Mae Carys Fôn Williams, Pennaeth Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, yn dweud bod yr adran wedi ymroi i ddarparu tai i bobol.

“Fel adran, rydym yn ymroddedig i adeiladu cartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobol Gwynedd, ac mae’n destun balchder mawr imi weld yr elfennau allweddol hyn o’n Cynllun Gweithredu Tai yn symud ymlaen yn dda,” meddai.

“Os oes gennych ddiddordeb mewn gwerthu tir neu eiddo i’r Cyngor, plîs cysylltwch â datblygutai@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01766 771000.

“Diolch i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â’r pryniannau diweddar.

“Y cam cyntaf i bobol sydd angen cartref fforddiadwy canolraddol yw gwirio os ydyn nhw yn gymwys i ymgeisio gyda Tai Teg, sy’n gweinyddu’r gofrestr ar gyfer y math yma o dai ar ran Cyngor Gwynedd.

“Mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Gwynedd.”

Oedi mewn datblygiadau tai oherwydd ansawdd afonydd

Lowri Larsen

“Yn anffodus, rydym yn cael ein rhedeg gan extreme right wingers yn Llundain a phlaid arall yng Nghaerdydd sydd ddim eisiau eu herio nhw ar ddim byd”