Mae’r Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Dai ar Gyngor Gwynedd yn beio Llywodraeth Cymru a gwleidyddion yn San Steffan am beidio gweithredu ar fater oedi datblygiadau tai oherwydd ansawdd afonydd.
Yn ystod cyfarfod y Cyngor llawn yr wythnos ddiwethaf, cododd Huw Rowlands, cynghorydd Llanwnda, bryderon am oedi cyn bwrw ymlaen â datblygiadau tai yng Ngwynedd oherwydd pryderon am ansawdd y dŵr yn afon Gwyrfai, ac mae’n poeni y gall gael effaith ehangach.
Oherwydd cyfyngiadau ar allyriadau ffosfforws mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig gafodd eu gosod gan Gyfoeth Naturiol Cymru, mae gwaith trin Dŵr Cymru yn Llanfaglan yn cael effaith negyddol ar ansawdd dŵr afon Gwyrfai.
Mae’r broses o drin dŵr a gwaredu gwastraff i’r afon yn codi lefel y ffosfforws, sy’n andwyol i’r amgylchedd.
Pryderon
Yn ôl Craig ab Iago, mae cryn bryder am ddatblygiadau tai er nad yw’n credu bod y broblem yn yr afon yn deillio o’r sector tai.
Mae’n gweld bai ar y Llywodraeth yng Nghaerdydd a’r gwleidyddion yn San Steffan am beidio gweithredu.
“Oes, mae pryder,” meddai wrth golwg360.
“Dim gymaint â llefydd fel Caerfyrddin, lle basically dydyn nhw ddim yn cael adeiladu dim byd.
“Mae yna issues yng Ngwynedd.
“Byswn i’n dweud bod ffosffadau a nitradau yn effeithio ar natur, yn effeithio ar yr amgylchfyd, a’n bod ni’n gorfod stopio hynny.
“Mae yna atebion i’r problemau yna’n barod.
“Dydy’r prif reswm pam fod ffosffadau a nitradau yn yr afonydd ddim yn dod o’r sector tai.
“Mae yna atebion iddyn nhw, a bysa unrhyw wlad aeddfed yn gweithredu arnyn nhw.
“Yn anffodus, rydym yn cael ein rhedeg gan extreme right wingers yn Llundain, a phlaid arall yng Nghaerdydd sydd ddim eisiau eu herio nhw ar ddim byd.
“Mae’n golygu bo ni ddim actually yn ateb y broblem go iawn fel rydym yn gallu’i ateb o.
“Yn hytrach na hynny, rydym jest yn stopio pobol adeiladu tai.
“Dydy o ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.
“You get what you vote for.”
Methu cartrefu pobol
Yn ôl Craig ab Iago, effaith yr oedi ydy eu bod nhw’n methu cartrefu pobol yn yr ardal dan sylw.
Nid rhoi’r gorau i adeiladu tai yw’r ateb i’r broblem, meddai, ond mae’n teimlo nad ydy’r gwleidyddion yn San Steffan yn poeni, oherwydd yn eu cyfoeth dydy adeiladu tai ddim yn effeithio arnyn nhw.
“Effaith yr oedi oherwydd y dŵr yw’r ffaith bo ni’n methu cartrefu pobol,” meddai.
“Dyna yn y bôn ydy o.
“Dydyn ni ddim yn cartrefu pobol, a dydyn ni ddim yn datrys y broblem.
“Dydy peidio adeiladu’r tai ddim am ddatrys y broblem.
“Yr oll mae o’n gwneud ydy creu problem arall, lle dydyn ddim yn cartrefu pobol sydd angen cartref.
“Wrth gwrs, dydy hyn ddim yn effeithio ar y gwleidyddion sy’n gwneud y penderfyniadau yma.
“Maen nhw i gyd efo tai lyfli, mae eu plant nhw efo tai lyfli, maen nhw efo ceir lyfli, maen nhw efo chauffeurs.
“Dydy’r issue yma ddim yn effeithio arnyn nhw, felly dydyn nhw ddim yn bothered amdano fo.
“Maen nhw’n bothered am sut maen nhw am gael y bleidlais nesaf.
“Dydy peidio adeiladu tai ddim yn datrys y broblem yn yr afon, a dydy o ddim yn datrys y sefyllfa rydym ynddi nawr, sef yr argyfwng tai.”
Datblygu tai yn y fantol
Yn ôl y Cynghorydd Huw Rowlands, mae datblygu tai yn y fantol hyd nes bod lefel y ffosfforws wedi ei datrys.
“Yma yn lleol, mae’r broblem yn effeithio ar stad o dai newydd yn y ward yn Dinas,” meddai.
“Mae rhan gyntaf y stâd newydd o 26 tŷ yn Gwêl y Foel wedi’i gwblhau, ond mae ail ran y datblygiad ar stop ar hyn o bryd nes y bydd lefel y ffosfforws wedi’i datrys.
“Mae’r argyfwng tai yn effeithio ar drigolion yr ardal.
“Felly, mae cael unrhyw weithred sy’n rhoi stop ar ddatblygiadau i gartrefu pobl leol yn bryderus.
“Dim ond un rhan o’r sir yw hon, faint o ardaloedd eraill o fewn Gwynedd all hyn effeithio arnyn nhw?”
Effaith ehangach
Does dim penderfyniad wedi’i wneud ar naw cais cynllunio yng Ngwynedd oherwydd ffosffadau, ac mae nifer hefyd wedi’u gwrthod.
Mae ceisiadau am 26 o dai – sy’n gyfuniad o dai marchnad agored a thai fforddiadwy – yn Bontnewydd, a datblygiad o 16 tŷ fforddiadwy yn Ninas, Caernarfon wedi eu gohirio ar hyn o bryd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal adolygiad o drwyddedau cwmnïau dŵr yn erbyn y targedau ffosfforws sydd wedi’u diwygio, ac mae targed i gwblhau’r gwaith erbyn Gorffennaf 2024.
Mae Cyfoeth Naturiol yn rhyddhau’r trwyddedau diwygiedig wedi’u cwblhau, ond does dim dyddiadau targed ar gyfer afonydd unigol.
Hyd yma, does dim trwyddedau diwygiedig wedi eu cyhoeddi yng Ngwynedd.
Effaith y ffosffadau
Yn ôl Dafydd Meurig, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros Gynllunio ar Gyngor Gwynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio lleihau allyriadau ffosffad i’n hafonydd, ond mae’r targedau allyriadau ar gyfer y canolfannau trin gwastraff wedi’u haddasu.
Er hyn, mae’n dweud bod rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried effaith y ffosfforws all ddeillio o ddatblygiadau newydd ar ansawdd dŵr o fewn dalgylch afonydd.
“Rydym fel cyngor yn cael ein dal rhwng dwy stôl yn y mater yma,” meddai.
“Ar un llaw, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio lleihau allyriadau ffosffad i’n hafonydd, ac ar y llaw arall mae’r targedau allyriadau ar gyfer y canolfannau trin gwastraff wedi’u haddasu.
“Unwaith y bydd y trwyddedau wedi eu hadolygu a’u cyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gall Dŵr Cymru drafod cysylltiadau a chapasiti’r gwaith trin dŵr gyda ni, fel Cyngor, yn yr ardaloedd penodol.
“Nes bydd hynny wedi digwydd, mae ein dwylo fel awdurdod cynllunio wedi’u clymu.
“Y cysur sydd gennym ni, ar hyn o bryd, yw fod lefelau ffosffad yn Afon Gwyrfai a Glaslyn, o fewn y trothwy ar hyn o bryd.
“Mae tua 80% o ffosfforws yn deillio o waith trin Dŵr Cymru yn y Gwyrfai, gyda 16% o ddefnydd tir gwledig.
“Ond wrth edrych ar geisiadau newydd, mae’r Rheoliadau Cynefinoedd yn nodi’n glir bod rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried effaith y ffosfforws all ddeillio o ddatblygiadau newydd ar ansawdd dŵr o fewn dalgylch afonydd.”
Awdurdod Cynllunio
Mae Craig ab Iago yn hyderus y bydd awdurdodau cynllunio’n rhoi ystyriaeth iawn i’r ffosffadau.
“Mae Adran Gynllunio Cyngor Gwynedd yn effeithiol iawn,” meddai.
“Dydw i ddim yn cytuno efo’r penderfyniadau maen nhw’n gorfod eu gwneud weithiau, ond maen nhw’n gorfod gwneud y penderfyniadau yna oherwydd maen nhw’n gorfod dilyn y rheolau sy’n dod o’n Llywodraeth yng Nghaerdydd.
“Rwy’n hyderus iawn bod yr Adran Gynllunio am gyfodi’r rheolau.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae sicrhau bod ein dŵr o’r ansawdd uchaf yn rhan hanfodol o wneud Cymru’n lle ffyniannus, hapus ac iach i fyw a gweithio, ac mae’n chwarae rhan ganolog yn ein hymateb i’r argyfyngau natur a’r hinsawdd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Edrychodd yr uwchgynhadledd ddiweddaraf ar y cynnydd hyd yma o ran cyflawni yn erbyn y Cynllun Gweithredu Ffosffad.
“Mae angen i ni barhau i weithio gyda phob sector i leihau gormod o faetholion yn afonydd pridd ac ACA Cymru, a chaniatáu i ddatblygiadau tai yn nalgylchoedd afonydd ACA yr effeithir arnynt barhau.”