Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio i godi arian ar gyfer wyth prosiect bwyd yn ardal Arfon yng Ngwynedd.

Mae’r apêl wedi’i lansio gan Siân Gwenllian a Hywel Williams, Aelod Senedd ac Aelod Seneddol yr ardal.

Bu cynnydd sylweddol yn y defnydd o fanciau bwyd eleni, ac yn ôl Ymddiriedolaeth Trussell roedd bron i dair miliwn o barseli bwyd wedi’u rhoi i bobol fu’n wynebu anawsterau ariannol rhwng Ebrill y llynedd a Mawrth eleni.

Mae hyn dros ddwywaith y nifer gafodd eu dosbarthu yn ystod yr un cyfnod bum mlynedd yn ôl, a chynnydd o 37% o gymharu â’r llynedd.

‘Arian hanfodol’

Y llynedd, llwyddodd yr ymgyrch i godi £4,765 tuag at fanciau bwyd yr etholaeth.

Maen nhw’n gobeithio efelychu rhywfaint o’r llwyddiant hwnnw eleni, a darparu cefnogaeth i brosiectau bwyd ledled yr etholaeth.

Y prosiectau fydd yn elwa ar yr apêl eleni yw:

  • Banc Bwyd Arfon
  • Banc Bwyd Coed Mawr
  • Bwyd i Bawb Bangor
  • Cynllun Bwyd Yr Orsaf Penygroes
  • Porthi Dre yng Nghaernarfon
  • Pantri Pesda
  • Cynllun bwyd Llanrug a Chwm-y-glo
  • Banc Bwyd Eglwys Gadeiriol Bangor.

“Mae’r apêl yn cael ei chynnal eleni ar adeg arbennig o bwysig,” meddai Siân Gwenllian wrth drafod yr apêl.

“Gwta fis yn ôl, mynegodd banc bwyd yng Nghoed Mawr yn fy etholaeth bryder am gostau a galw cynyddol.

​“Roedd y gefnogaeth gafodd yr apêl y llynedd yn aruthrol.

“Dw i’n siŵr mai tua £500 oedd y targed gafodd ei osod yn wreiddiol, ond roedd y cyfraniadau’n tyfu a thyfu.

“Rydan ni’n gobeithio efelychu rhywfaint o’r llwyddiant hwnnw eleni, a chodi arian hanfodol i brosiectau bwyd ar draws yr etholaeth.

“Mae’r ffaith fod y rhan fwyaf o’r prosiectau hyn wedi’u sefydlu ers dechrau’r pandemig yn dangos pa mor ansicr oedd sefyllfa ariannol nifer o bobol, a sut bod teuluoedd prin yn goroesi o ddydd i ddydd.”

​’Gwn y bydd pobol leol yn dod i’r adwy’

“Diolch i haelioni’r cyhoedd, yn ogystal ag ymroddiad gwirfoddolwyr, mae’r rhai sydd angen cymorth yn gallu rhoi bwyd ar y bwrdd y Nadolig hwn,” meddai Hywel Williams.

“Mae cefnogaeth y gymuned yn Arfon yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr.

“Gwn y bydd pobol leol yn dod i’r adwy ac yn garedig yn eu cyfraniadau i’n hymgyrch eto eleni, a thrwy hynny’n sicrhau na fydd banciau bwyd lleol yn cael trafferth cynnig cymorth i bobol y Nadolig hwn.

“Mae’r Llywodraeth yn San Steffan yn parhau i ymosod ar y bobol fwyaf bregus mewn cymdeithas, ac o’r herwydd bydd mwy o bobol yn ddibynnol ar haelioni prosiectau bwyd.

“Serch hynny, gwn y bydd pobol Arfon yn gwneud eu rhan i gefnogi gwaith gwych y prosiectau hyn.”

Ar flaen y gad

“Dw i’n falch fod Plaid Cymru ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn tlodi bwyd, wedi inni sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd erbyn 2024,” meddai Siân Gwenllian wedyn.

“Mae rhagor o waith i’w wneud, ond dw i’n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn chwarae rhan fechan yn yr ymdrech honno.”

Mae modd i’r rhai sy’n dymuno gyfrannu.