Mae dynes o Gaernarfon sy’n defnyddio Boardmarkers i gyfathrebu â’i mab yn dweud ei fod yn “rhodd gan Dduw”.
Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd wedi gosod meddalwedd Boardmaker ar rai o gyfrifiaduron cyhoeddus llyfrgelloedd y sir, fel bod modd i unigolion a theuluoedd greu taflenni cyfathrebu gan ddefnyddio rhaglen symbolau cyfathrebu, i greu taflenni unigryw i’w plentyn neu aelod o’r teulu.
Casgliad o luniau a symbolau yw Boardmaker, ac fe gaiff ei ddefnyddio gan rieni ac oedolion eraill i gyfathrebu â dysgwyr gweledol cryf neu unigolion di-eiriau.
Mae hyn yn cynnwys rheini plant sydd â chyflyrau anhwylderau sbectrwm awtistiaeth, anableddau dysgu, anhwylderau lleferydd ac iaith, ac anhwylderau ymddygiad.
Y gallu i gyfathrebu
Mae Ysgol Pendalar yn un sefydliad sy’n manteisio ar Boardmarker.
Mae hynny’n golygu y gall Catherine Roberts gyfathrebu â’i mab Aled, sy’n ddeg oed, a deall ei anghenion.
“Mae’n gallu cyfathrebu â mi,” meddai Catherine Roberts wrth golwg360.
“Rwy’n gwybod ei anghenion a beth mae o eisiau.
“Mae’n llai rhwystredig.
“Pan mae’n defnyddio Boardmarker, mae’n gallu dweud wrtha i pryd mae o eisiau mynd allan o’r tŷ.
“Mae’n llawer llai o straen, a dweud y gwir.
“Ond mi ddywedaf un peth – mai Ysgol Pendalar sydd wedi dysgu Aled i’w ddefnyddio.
“Maen nhw’n parhau i’w ddefnyddio fo bob dydd gyda fo.
“Mae’n gwneud bywyd yn llawer haws i mi ac iddo fo.”
Sut mae’n gweithio?
Yn ôl Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Plant a Phobol Ifanc Cyngor Gwynedd, trwy ddefnyddio lluniau mae’r rhai sy’n methu defnyddio geiriau llafar yn atgyfnerthu eu sgiliau cyfathrebu.
“Mae boardmaker yn gweithio fel cardiau,” meddai wrth golwg360.
“Ti’n gallu printio nhw, neu dyddiau yma mae’n eithaf posib dy fod ti’n gallu’u cael nhw ar dy ffôn clyfar.
“Y syniad yw, oni bai bo chdi’n defnyddio geiriau i gyfathrebu, ti’n gallu defnyddio lluniau.
“Mae rhai pobol yn defnyddio Makaton, ond dydy rhai pobol yn methu defnyddio Makaton am amryw o resymau, felly mae lluniau’n gweithio’n well.
“Mae Boardmakers yn gweithio efo PECS (picture exchange communication scheme).
“Y syniad ydy bo ti’n dysgu plentyn sydd ag awtistiaeth neu anhwylder iaith a chyfathrebu, byddet ti’n dysgu nhw i roi’r llun i chdi i wybod beth maen nhw angen.
“Efo Boardmaker, mae gennyt ti luniau o bob math o bethau.
“Byddet ti’n dysgu person i drosglwyddo cerdyn gyda llun diod i ti, ac maen nhw’n gallu gofyn am ddiod, ti’n dweud “diod” ac mae o’n atgyfnerthu’r sgiliau iaith.
“Dydy o ddim yn tynnu oddi wrth sgiliau iaith.
“Mae’n eu hategu nhw ac yn eu hatgyfnerthu nhw.”
Defnyddio’r cardiau
Yn ôl Elin Walker Jones, mae’n bwysig i rieni gael mynediad at y cardiau i wneud yr un fath â’r ysgolion arbennig.
Weithiau, wrth i anghenion plentyn newid, mae angen y cardiau ar frys.
“Mae’n bwysig bod pobol yn gallu creu cardiau eu hunain oherwydd y gwasanaethau maen nhw’n defnyddio yn yr ysgolion arbennig yng Ngwynedd ac yn y siroedd eraill,” meddai.
“Mae’n bwysig bod y rhieni’n gallu gwneud yr un math o beth gartref ag maen nhw’n gwneud yn yr ysgol.
“Hefyd, mae anghenion y plentyn yn gallu newid.
“Yn yr hen ddyddiau, efallai byddet ti’n darparu’r cardiau i’r plentyn ac efallai ddim yn gweld y plentyn am bythefnos neu fis.
“Efallai byddai anghenion y plentyn wedi newid.
“Mae gennyt ti gardiau ar gyfer afal, diod a chreision ac ati.
“Mae’n bwysig bod y rhieni yn gallu gwneud newidiadau’n syth cyn apwyntiad arall gan therapydd iaith a lleferydd neu seicolegydd.”
Angen ei ymestyn i lyfrgelloedd eraill
Gyda Boardmakers ar gael yng Nghaernarfon, Dolgellau a Porthmadog, dyhead Elin Walker Jones yw iddo fod ar gael mewn llyfrgelloedd eraill yng Ngwynedd.
“Mae’r cynllun Boardmaker wedi bod ar gael yn siroedd Conwy, Ddinbych, Wrecsam a Fflint ers rhyw ddeng mlynedd,” meddai.
“Maen nhw ar gael am ddim, felly os wyt ti’n rhiant i blentyn awtistig neu blentyn sydd ag anhwylder iaith neu gyfathrebu, byset ti’n gallu mynd mewn i’r llyfrgell a gofyn i un o’r staff dy helpu di brintio’r cardiau rwyt ti eu hangen.
“Mae ar gael am ddim i deuluoedd neu unrhyw un sydd eu hangen nhw, ac mae’n cydweithio gyda’r gwaith maen nhw’n ei wneud yn yr ysgolion arbennig neu gyda therapyddion iaith a lleferydd. Yr un cardiau maen nhw’n eu defnyddio.
“Mae hynny’n golygu bod y plentyn yn gallu defnyddio’r cardiau i gyfathrebu â’r teulu yn ogystal ag yn yr ysgol, a gyda therapyddion iaith a lleferydd.
“Dim ond yn y tri mis diwethaf maen nhw ar gael mewn tair llyfrgell yng Ngwynedd.
“Fy nyhead i yw eu gweld nhw ym mhob llyfrgell yng Ngwynedd yn y pen draw.
“Bydd rhaid i ni gael gafael ar yr arian i gael y math yna o wasanaeth.
“Mae’n wasanaeth gwych.”
Diolchgar
Mae Elin Walker Jones yn hynod ddiolchgar i Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd am y Boardmaker mewn tair llyfrgell, meddai, gan ychwanegu ei bod hi’n awyddus i bobol hyfforddi i’w defnyddio.
“Rwy’n hynod, hynod ddiolchgar i Gwasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd am fod mor flaengar â mabwysiadu’r system Boardmaker yn y llyfrgelloedd,” meddai.
“Rwy’n annog rhieni a theuluoedd i ddefnyddio’r gwasanaeth yn y llyfrgelloedd.
“Maen nhw ar gael yn llyfrgelloedd Dolgellau, Porthmadog a Chaernarfon.
“Mae’n wasanaeth penigamp i ni gael dangos ei werth o.
“Os ydy unrhyw un eisiau hyfforddiant ar sut i ddefnyddio Boardmaker, cysylltwch.
“Mae hynny’n rywbeth y byddwn i’n hoffi gweithio arno.”
Cysylltwch:
Llyfrgell Caernarfon: LlCaernarfon@gwynedd.llyw.cymru 01286 679463
Llyfrgell Porthmadog: LlPorthmadog@gwynedd.llyw.cymru 01766 514091
Llyfrgell Dolgellau: LlDolgellau@gwynedd.llyw.cymru 01341 422771