Mae criw sy’n anelu at warchod y Gymraeg yn Llŷn yn “gweld gobaith” petaen nhw’n medru gwneud y Gymraeg yn brif reswm dros annog pobol i ymweld â’r ardal.
Ar hyn o bryd, mae cynghorau cymuned Pen Draw Llŷn a Chyfeillion Llŷn yn cymryd rhan mewn gwaith ymchwil ac ymgynghori drwy brosiect i gryfhau’r iaith yno.
Mae’r prosiect Perthyn yn un o gynlluniau Llywodraeth Cymru i warchod cymunedau Cymraeg sydd â nifer uchel o ail gartrefi.
Ar ddiwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 11), fe wnaeth y cynghorau cymuned ddynodi Pen Draw Llŷn yn Ardal o Arwyddocâd Ieithyddol (Dwysedd Uwch), ar sail tystiolaeth Llywodraeth Cymru ac argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Cafodd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwneud argymhellion polisi cyhoeddus i gryfhau’r Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg.
‘Dioddef waethaf’
Mae papur safbwynt gan y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn argymell dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol fel bod modd i bolisi roi pwyslais ar y Gymraeg fel iaith gymunedol yn yr ardaloedd hyn.
“Rydyn ni’n gwybod mai Llŷn sydd wedi dioddef waethaf o effaith ail gartrefi a thai gwyliau, efo’r effaith i weld ar ei waethaf yn Abersoch, ond os ydy Botwnnog yn poeni fydd yna ddim cymunedau Cymraeg ar ôl,” meddai Siân Parri, sy’n gweinyddu’r prosiect Perthyn yn Llŷn.
“Mae ffigurau Cyfrifiad 2021 yn dangos mai yn Aberdaron, Botwnnog a Thudweiliog mae’r canran uchaf o siaradwyr Cymraeg a’r ganran uchaf o dai haf hefyd.
“Felly yma mae’r bygythiad mwyaf.
“Ond mi ydyn ni’n gweld gobaith tasa ni’n medru gwneud y Gymraeg yn brif reswm unigryw i bobl ddŵad i ymweld.
“Rhoi’r un croeso i’r ymwelwyr eleni ac a gafodd yr Eisteddfod yn 2023.”
Nodau prosiect Perthyn yn Llŷn ydy:
- cryfhau’r Gymraeg yn yr ardal a chyflwyno ei hanes i Gymru a’r byd
- datblygu cynlluniau tai fforddiadwy fyddai’n cryfhau’r iaith yn Llŷn
- creu cyfleoedd i’r Gymraeg
- sefydlu twristiaeth gynaliadwy ffyniannus fyddai’n cael effaith gadarnhaol ar yr iaith
Mae un cyngor cymuned yn Llŷn wedi datgan pryder am allu Cyngor Gwynedd i warchod y Gymraeg yn yr ardal hefyd.
“Mae’r iaith Gymraeg yn gwanio yma bob dydd, tra mae arweinwyr Cyngor Gwynedd yn gwadu realiti’r sefyllfa,” meddai Siôn Williams, cadeirydd Cyngor Cymuned Botwnnog, sy’n cefnogi prosiect Perthyn.
‘Cyrchfan Wyliau Gymraeg’
Cyn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, fe wnaeth Cyfeillion Llŷn alw am weld yr ardal yn dod yn Gyrchfan Wyliau Gymraeg, lle bydd twristiaeth gynaliadwy yn gweithio ochr yn ochr â’r iaith.
Amcan y diweddar Phil Wyman oedd mynd ar daith ‘Dim Saesneg’ o amgylch Cymru, gan obeithio ysgogi trafodaeth am sut i warchod yr hawl i fyw yn Gymraeg, tra’n croesawu mwy o siaradwyr newydd a pheidio troi at y Saesneg ar yr un pryd.
Bwriad yr Americanwr, oedd wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, oedd dechrau ar y daith yn y Brifwyl, gan siarad dim ond Cymraeg am flwyddyn gyfan. Ond bu farw fis Mai cyn gallu gwireddu’r freuddwyd honno.
Ond gwnaeth ei genhadaeth argraff ar Siân Parri, sydd hefyd yn gadeirydd Cyfeillion Llŷn.
Nid mater i unigolion yn y cymunedau ddylai gwarchod y Gymraeg fod bellach, meddai Siân Parri wrth Golwg dros yr haf, gan ychwanegu bod gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd gyfrifoldeb statudol i hyrwyddo’r Gymraeg, yng Nghymru heddiw.
“Er mwyn i Gymru dyfu’n genedl o bobl ddwyieithog gyfartal, mae’n rhaid i ni wrando a gweithredu ar neges Phil Wyman a siaradwyr newydd.
“Rhaid sicrhau mwy o gyfleoedd uniaith Gymraeg, er mwyn croesawu miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg newydd, i sefyll efo ni yn y bwlch, erbyn 2050.”
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Gwynedd.