Mae galwadau a gwaith ar y gweill i Gymreigio’r diwydiant twristiaeth yn Llŷn ac Eifionydd.

Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, mae Cyfeillion Llŷn am weld yr ardal yn dod yn Gyrchfan Wyliau Gymraeg lle bydd twristiaeth gynaliadwy yn gweithio ochr yn ochr â’r iaith.

Nod y diweddar Phil Wyman oedd mynd ar daith ‘Dim Saesneg’ o amgylch Cymru yn gobeithio ysgogi trafodaeth am sut i warchod yr hawl i fyw yn Gymraeg, tra’n croesawu mwy o siaradwyr newydd a pheidio troi at y Saesneg ar yr un pryd.

Bwriad yr Americanwr, oedd wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon, oedd dechrau ar y daith yn y Brifwyl, gan siarad dim byd ond Cymraeg am flwyddyn gyfan. Yn anffodus, bu farw fis Mai cyn gallu gwireddu’r freuddwyd honno.

Ond, mae ei neges wedi gwneud argraff ym Mhen Llŷn ac mae gwaddol ei bregeth ‘Dim Saesneg’ i’w gweld yno – boed yn ddamweiniol ai pheidio.

Sian Parri, artist o bentref Llangwnnadl, ydy cadeirydd Cyfeillion Llŷn ac ar ôl clywed am fwriad Phil Wyman, cysylltodd ag ef a ffilmio’i neges:

“Dw i wedi dysgu Cymraeg achos dw i eisiau cerdded dros y wlad yn siarad uniaith Cymraeg ac weithiau pan oeddwn i’n trio dysgu, pobol eraill eisiau siarad Saesneg efo fi,” medd Phil.

“Os ti’n newid i siarad yn Saesneg, dydy o ddim help i fi nag unrhyw un arall sy’n dysgu Cymraeg i ddysgu.

“Felly, plîs, dim Saesneg efo fi.

“Os ti’n byw ym Mhen Llŷn ac yng Ngwynedd, plîs defnyddia dy eiriau Cymraeg gyda phobol sy’n ymweld yma i helpu nhw i wybod bod Cymru’n lle hyfryd iawn.”

Cafodd y ffilm ei dangos yn ystod cyfarfod cyhoeddus wedi’i drefnu gan Gyfeillion Llŷn ddechrau Gorffennaf yn galw ar lywodraethau lleol a chenedlaethol i gyfrannu canran o arian trethi diwydiant twristiaeth Llŷn yn ôl i’w wario ar hyrwyddo’r Gymraeg.

Ymysg y siaradwyr, roedd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd, Llywydd yr Eisteddfod Liz Saville Roberts, Howard Huws o Gylch yr Iaith, ac Anna a Bryn Fôn yn sôn am eu cyfnod yn rhedeg caffi uniaith Gymraeg.

Dangoswyd ffilm hefyd o ddysgwyr yr ardal yn adleisio neges Phil Wyman, yn eu mysg, Martyn Croydon, enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod yn 2013 sydd bellach yn diwtor Cymraeg i oedolion.

“Dw i’n siarad Cymraeg diolch i’r rhai wnaeth ddal ati i siarad Cymraeg efo fi pan wnes i ddechrau dysgu’r iaith ryw bymtheg mlynedd yn ôl,” meddai Martyn, sy’n byw yn Llannor ger Pwllheli.

“Erbyn hyn dw i’n cael y fraint o weithio fel tiwtor Cymraeg a rhannu’r iaith efo pobol eraill ac mae eu neges nhw’r un â fy neges i pan wnes i ddechrau dysgu – plîs peidiwch â throi i Saesneg efo siaradwyr Cymraeg newydd.”

Agor drysau a’r rheol iaith

Wedi’r ddadl ddiweddar am y rheol Gymraeg yn yr Eisteddfod, hanfod darn Myrddin ap Dafydd yn y cyfarfod oedd amddiffyn yr angen am greu cynefin i’r Gymraeg. Mae’r angen hwnnw, meddai, yn ymestyn tu hwnt i faes yr Eisteddfod am wythnos y flwyddyn.

Drwy ei rôl fel Archdderwydd, mae’r Prifardd wedi hen arfer croesawu ymwelwyr o du hwnt i Gymru i’r Eisteddfod. Dywedodd bod bob un ohonyn nhw’n dotio at y Brifwyl, a’r hyn sy’n eu rhyfeddu nhw yw’r ffordd mae pob agwedd ar y genedl yn dod ynghyd.

“Pawb yn rhoi eu gwahaniaethau o’r neilltu er mwyn y Gymraeg. Dyna’r Eisteddfod fodern, ond dim felly mae pethau wedi bod ar hyd y blynyddoedd.”

Tan ddiwedd y 1930au, doedd fawr neb yn cwestiynu faint o gystadlaethau ac areithiau’r Eisteddfod oedd yn cael eu cynnal yn Saesneg. Yn y pendraw, wedi cryn ymgyrchu, cafwyd yr Eisteddfod Gymraeg gyntaf yn 1951 yn Llanrwst.

“Mae’r rheol Gymraeg yn creu wythnos lle mae llond y maes o ddigwyddiadau Cymraeg, tua mil o ddigwyddiadau, bob math o bethau yn digwydd a’r cyfan yn digwydd yn gyfan gwbl drwy Gymraeg,” meddai’r Archdderwydd.

“Un maes am un wythnos, mae’r Gymraeg yn iaith naturiol ac rydyn ni’n gweld be sy’n bosib pan mae gennym ni gynefin go iawn i’r Gymraeg.

“Mae yna hen ddadl wedi codi’i phen eto sef bod y rheol Gymraeg yn yr Eisteddfod yn hiliol, a gadewch i ni rannu ychydig bach o wybodaeth wrth rannu hyn.

“Mae’r Cenhedloedd Unedig ac UNESCO yn nodi’n eglur bod gwarchod ac amddiffyn iaith sydd dan bwysau yn hawl ddynol sylfaenol, mae yna un o ieithoedd y byd yn marw bob pythefnos. Mae gennym ni gyd gyfrifoldeb i sicrhau nad ydy hynny’n digwydd i’r Gymraeg. Mae gennym ni gyfrifoldeb i greu cynefin i’r Gymraeg.

“Mae yna groeso mawr i siaradwyr Cymraeg newydd yn yr Eisteddfod a’r Orsedd, ac mae ymweliad â’r Orsedd wedi ysbrydoli llawer o bobol i fynd ati i ddysgu’r iaith – agor drysau, bod yn gynhwysol ydy holl hanfod yr Eisteddfod. Croesawu pobol at yr iaith, dyna’r bwriad. Un maes, un wythnos, dyna i gyd mae’r rheol Gymraeg yn ei hawlio.”

Tu hwnt i faes y Steddfod

Mae ymdrechion yn Llŷn i greu cynefin i’r Gymraeg, ymysg pobol leol ac ymwelwyr, ers degawdau.

Ymysg rheiny, mae creu gwefan uniaith Gymraeg sy’n cynnwys 40 o deithiau cylchol yn yr ardal, efo gwybodaeth leol ar bob un. Ar wefan Crwydro.co.uk, mae opsiwn i weld y wefan yn gyfan gwbl Gymraeg neu weld fersiynau mewn 16 iaith arall, gan gynnwys Catalaneg ac Wcraineg, ynghyd â Saesneg. Mae hanes hir tu ôl i sefydlu’r wefan, gwaith a ddechreuodd yn 1996. Ar y pryd, roedd yr unig wybodaeth am Lŷn ar y we yn Saesneg.

Oherwydd y diffyg gwybodaeth, sefydlodd Simon Jones o’r cwmni Argraff wefan Penllŷn.com gyda chymorth Gruffudd Parry, awdur y gyfrol Crwydro Llŷn ac Eifionydd. Ar ei newydd wedd, mae Crwydro.co.uk yn dilyn yr hanes ar hyd hen lwybrau Llŷn fel y gwnaeth Gruffudd Parry yn 1960.

Ond yn rhan o’r gwaith paratoi i groesawu’r Eisteddfod, bu Sian Parri yn ysbrydoli plant rhai o ysgolion Llŷn ac Eifionydd drwy drafod dylanwad Cymru a hanes yr iaith ar waith celf. Bwriad y sgyrsiau oedd annog y plant i wneud ‘Celf Beca’, sef celf yn ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Draw yn Abererch, trodd hynny’n rhywbeth mwy.

Yn dilyn sgwrs Sian, mae disgyblion yr ysgol gynradd wedi bod yn cydweithio ag un o archfarchnadoedd Pwllheli er mwyn annog siopwyr i ddefnyddio mymryn o Gymraeg. Drwy weithio â Jo Scott, sy’n gyswllt cymunedol yn Asda Pwllheli, mae’r plant wedi cychwyn ymgyrch i ddysgu pawb i ddweud ‘diolch’ a ‘croeso’.

“Wrth iddyn nhw drafod pwysigrwydd cadw’r iaith yn fyw a phwysigrwydd yr iaith a phethau felly, mi wnaeth un o’r plant grybwyll bod Anti Jo, sef Jo Scott o Asda Pwllheli, wedi bod yn dod yma flynyddoedd yn ôl,” eglura Annwen Hughes, prifathrawes Ysgol Abererch.

“Roedd hi wedi dysgu Cymraeg ac roedd hi eisiau ymarfer y sgil o siarad Cymraeg i ddatblygu hyder, wedyn mae gennym ni berthynas reit dda efo Asda Pwllheli. Mae Anti Jo yn gefnogol iawn i’r iaith hefyd.”

Syniad un o’r plant oedd ceisio dangos i ymwelwyr sy’n ymweld ag Asda Pwllheli bod gan Gymru ei hiaith ei hun, ac mai cam bach fysa eu hannog nhw i ddweud diolch a chroeso.

“Roedd y plant yn dweud hefyd eu bod nhw’n mynd ar wyliau i wledydd eraill, i Sbaen a Ffrainc a ballu, ac maen nhw’n gwneud ymdrech efo iaith yr ardal felly pam bod pobol ddim yn gwneud yr un fath yn ein hardal ni?

“Mae yna staff yn Asda sydd ddim yn siarad Cymraeg ac ella fysa nhw’n cael yr hyder jyst i ddweud diolch a chroeso fysa hynna’n gwneud iddyn nhw fod eisiau siarad mwy o Gymraeg, ac y bysan nhw’n cario ymlaen i wneud fel mae Jo wedi gwneud ei hun – sef dysgu’r iaith.”

Aeth dau o ddisgyblion blwyddyn 6 yr ysgol i’r archfarchnad gyda phosteri i annog staff a siopwyr i ddefnyddio diolch a chroeso, ac yn ôl Jo, mae’r ymateb ymysg y gweithwyr wedi bod yn gadarnhaol.

“Mae o’n cymryd hyder i fentro efo iaith arall, a’r cam cyntaf ydy hwn – codi ymwybyddiaeth a chael nhw i ddweud ychydig o eiriau yn Gymraeg.

“Mae’r plant wrth eu boddau. Mae gennym ni lot o blant sy’n dod o gartrefi di-Gymraeg yn fan hyn, ac mae’r plant yn falch eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg, eu bod nhw yn ddwyieithog – mae’r neges yna’n dod yn amlwg iawn ganddyn nhw, y balchder sydd ganddyn nhw eu bod nhw wedi dysgu iaith arall. Mae ganddyn nhw neiniau a rhieni sydd wedi dysgu Cymraeg, ac yn gweld pwysigrwydd yn y peth.”

Er mai blynyddoedd 3 i 6 oedd ynghlwm â’r ymgyrch, mae’r ysgol gyfan yn ymwybodol o’r gwaith, meddai Annwen.

“Rydyn ni’n trio rhoi’r balchder iddyn nhw eu bod nhw’n gallu siarad dwy iaith, dyna sut mae’r iaith yn mynd i barhau – bod pobol eisiau siarad hi. A dydyn ni ddim yn trio’i wneud o mewn ffordd ymwthiol, rydyn ni’n trio cael pobol i fwynhau a chael blas arni.”

Gwrando a gweithredu

Nid mater i unigolion yn y cymunedau ddylai gwarchod y Gymraeg fod bellach, meddai Sian Parri, gan ychwanegu bod gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd gyfrifoldeb statudol i hyrwyddo’r Gymraeg, yng Nghymru heddiw.

“Er mwyn i Gymru dyfu’n genedl o bobl ddwyieithog gyfartal, mae’n rhaid i ni wrando a gweithredu ar neges Phil Wyman a siaradwyr newydd,” meddai Sian.

“Rhaid sicrhau mwy o gyfleoedd uniaith Gymraeg, er mwyn croesawu miliwn a mwy o siaradwyr Cymraeg newydd, i sefyll efo ni yn y bwlch, erbyn 2050.”

  • Mae mwy o wybodaeth am y galwadau ar sianel YouTube Cyfeillion Llŷn, a bydd Sian ar stondin ‘Sian Parri – Beca’ gyferbyn â’r Lle Celf ar faes yr Eisteddfod.