Nid yw’r gystadleuaeth newydd, ‘Brwydr y Bandiau Gwerin’ yn addas i unawdwyr offerynnol sydd am gystadlu, yn ôl yr athro telyn Rhiain Bebb…

Mae cerddorion gwerin wedi datgan eu siom ar ôl i’r Eisteddfod Genedlaethol ddiddymu cystadleuaeth i unawdwyr offerynnol gwerin yn y Tŷ Gwerin, sef Tlws Goffa John Weston Thomas.