Mae’r dyddiad cau i bobol ddweud eu dweud ar safleoedd posib i Sipsiwn a Theithwyr yn Sir Fynwy yn agosáu.

“Mae lleoliad safleoedd Teithwyr awdurdodedig ac anawdurdodedig yn fater dilys ar gyfer dadl a chraffu cyhoeddus, a dyna pam ei bod hi mor bwysig i drigolion wybod am yr ymgynghoriad hwn ac i sicrhau eu bod nhw’n dweud eu dweud,” meddai David TC Davies, Aelod Seneddol Mynwy ar drothwy’r dyddiad cau ddydd Gwener, Rhagfyr 22.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi adnabod tri darn o dir, a gall pob un gael ei ddefnyddio ar gyfer hyd at chwe lle, ar gyfer safleoedd parhaol awdurdodedig ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr maen nhw wedi’u hasesu fel rhai sydd angen tai yn y sir.

Mae’r rhain ar fferm Oak Grove yng Nghrug ar ffordd B4245 oddeutu milltir o ymyl Cil-y-coed; fferm Bradbury, Crug oddi ar Heol Crug; a Chlôs Langley, Magwyr gyda mynediad oddi ar Heol Santes Brid, gyda thai preswyl i’r de a’r M4 i’r gogledd. Mae pob un yn rhan o ystadau ffermydd y sir ar hyn o bryd.

Gwrthwynebiad

Ond mae David TC Davies, gafodd ei feirniadu am daflenni wnaeth e eu dosbarthu yn yr haf yn ystod cam cynharach wrth i’r Cyngor chwilio am safleoedd posib – ond y dywedodd Heddlu Gwent na fydden nhw’n cymryd camau pellach yn ei gylch – wedi tynnu sylw at y gwrthwynebiad i bob safle posib.

“Mae Clôs Langley ger yr M4 wedi cael ei gwestiynu gan y cyhoedd a chynghorwyr ynghylch effeithiau posib llygredd aer posib,” meddai’r Ceidwadwyr sydd hefyd yn Ysgrifennydd Cymru yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae hefyd yn agos iawn at gartrefi sydd yno eisoes.

“Yn wir, yr adborth gan y gymuned Sipsiwn a Theithwyr oedd nad ydyn nhw am gael eu lleoli ger ardaloedd prysur.”

Dywedodd hefyd, gan y gallai cynllun datblygu’r Cyngor arwain y ffordd ar gyfer hyd at 735 o gartrefi newydd hefyd, yn ogystal ag eraill sydd ar y gweill, y gallai’r ardal i’r dwyrain o Gil-y-coed gael ei “gorboblogi”.

“Mae’r safleoedd sydd wedi’u cynnig yn ffermydd Bradbury ac Oak Grove yn amhriodol o ganlyniad i faint o gartrefi sydd eisoes wedi’u hadeiladu, a gellid dyrannu’r 750 i 1,400 o dai y gallai Porthysgewin eu cael yn y dyfodol, gan beryglu ei hunaniaeth fel pentref.

“Mae hyn i gyd yn ormod mewn ardal sy’n cael ei gorddatblygu.”

Diogelwch ar y ffyrdd

Dywed Lisa Dymock, cynghorydd Ceidwadol Porthysgewin sydd wedi cofrestru e-ddeiseb gyda Chyngor Sir Fynwy yn galw am dynnu’r safleoedd yn ôl, ei bod hi’n gofidio am ddiogelwch ar y ffyrdd.

“Mae’r ddau le ym Mhorthysgewin wedi’u lleoli ar heolydd 50m.y.a. â chorneli dall,” meddai.

“Mae’n beryglus i rywun dynnu allan ar ffordd B4245, heb sôn am gerdded arni.

“Dw i ddim yn meddwl eu bod nhw’n addas ar gyfer y gymuned Sipsiwn a Theithwyr, nac ar gyfer datblygiad o unrhyw fath.

“Does dim llwybrau diogel i gyrraedd cyfleusterau lleol, a fydd plant ddim yn gallu cerdded yn ddiogel i’r ysgol.”

Ymateb y Cyngor

Mae Cyngor Sir Fynwy eisoes wedi dweud y byddai’r safleoedd Sipsiwn a Theithwyr, pe baen nhw’n cael mynd yn eu blaenau, yn cael eu datblygu ochr yn ochr â thai newydd sydd wedi’u clustnodi ar gyfer yr ardal ac a fyddai’n gwella’r ffyrdd.

Dywed y Cyngor, sydd wedi cynnal digwyddiadau gwybodaeth ers dechrau’r ymgynghoriad fis Tachwedd, y bydd gwybodaeth yn cael ei hystyried gan y Cabinet pan gaiff ei chasglu, ac y byddan nhw’n penderfynu pa safleoedd ddylid eu cynnwys yn y cynllun datblygu lleol newydd.

Bydd y cynllun hwnnw, sy’n amlinellu sut ddylid defnyddio tir ledled y sir ar gyfer tai a chyflogaeth hyd at 2033, wedyn yn destun ymgynghoriad pellach a byddai ymgynghoriadau hefyd fel rhan o unrhyw gais cynllunio ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr fydd yn gorfod cael eu gwneud yn y ffordd arferol.

Darllenwch y wbyodaeth sydd ar gael ar wefan y Cyngor Sir.