Byddwch chi’n sylwi yn ystod y dydd heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 11) na fydd ein tîm yn diweddaru’r wefan hon â straeon newyddion.

Mae rheswm da iawn am hynny, gyfeillion – mae golwg360 yn nodi ac yn dathlu Diwrnod Llywelyn Ein Llyw Olaf. Fe gawson ni i gyd gynnig diwrnod i ffwrdd adeg Coroni Brenin Lloegr, wrth gwrs. Ond safbwynt y cwmni ar y pryd – ac yn dal i fod – yw fod yn llawer gwell gennym, fel gwasanaeth newyddion annibynnol Cymraeg sy’n canolbwyntio ar Gymru, nodi a dathlu diwrnodau o bwys Cymraeg a Chymreig.

Darllenwch ragor am Lywelyn Ein Llyw Olaf.

Felly dyma ni’n datgan nad ydyn ni wrth ein desgiau heddiw.

Sut bynnag fyddwch chi’n dathlu heddiw – mwynhewch, lle bynnag y byddwch chi yng Nghymru a thu hwnt!

Wrth i’r flwyddyn dynnu tua’i therfyn, ga’i ddiolch yn fawr i’n holl ddarllenwyr a dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol am eich holl gefnogaeth yn ystod y flwyddyn.

Diolch,

Alun, Golygydd golwg360


Dilynwch ni:

Facebook

X / Twitter

Instagram

TikTok