Llywelyn ap Gruffydd, neu Llywelyn ein Llyw Olaf, oedd Tywysog Cymru rhwng 1258 a 1282, ac mae’n cael ei gofio fel gwir Dywysog olaf Cymru.
Bob blwyddyn, caiff ei fywyd ei ddathlu ar Ragfyr 11, y diwrnod pan gafodd ei ladd yng Nghilmeri gan filwyr Lloegr.
Dyma ychydig o hanes yr arwr hanesyddol…
Pwy oedd Llywelyn ein Llyw Olaf?
Cafodd Llywelyn ap Gruffydd ei eni tua 1223, yn fab i Gruffydd ap Llywelyn Fawr a’r Dywysoges Senana.
Roedd yn ŵyr i Lywelyn Fawr, fu’n teyrnasu dros Wynedd a Chymru, drwy ei fab anghyfreithlon Gruffydd.
Gan fod mab cyfreithlon Llywelyn Fawr wedi marw heb blant, roedd y grym yn disgyn yn nwylo plant Gruffydd.
Roedd Llywelyn ein Llyw Olaf yn bennaeth ar Deyrnas Gwynedd, a’i nod oedd uno Cymru gyfan.
Mae’n cael ei alw’n Llywelyn ein Llyw Olaf gan mai ef oedd tywysog olaf Cymru.
Yn dilyn marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd, fe fu Edward I, brenin Lloegr, yn teyrnasu dros Gymru.
Cefndir
Roedd Harri III, brenin Lloegr, eisiau cyfyngu ar rym wyrion Llywelyn Fawr drwy eu gwneud yn arglwyddi cyffredin o fewn teyrnas Lloegr.
Wedi marwolaeth ei ewyrth Dafydd ap Llywelyn yn 1246, Llywelyn ap Gruffydd oedd yr olynydd amlwg.
Yn 1247, cafodd Gwynedd ei hollti rhwng Llywelyn a’i frodyr, Owain a Dafydd.
Bu Llywelyn yn teyrnasu dros Wynedd gyda’i frawd hynaf, Owain, am gyfnod, ond yn 1255 trodd ei frodyr yn ei erbyn, felly gorchfygodd Llywelyn nhw gan sefydlu ei hun yn unig reolwr Gwynedd Uwch Conwy.
Ymhen dwy flynedd, roedd y mwyafrif o Gymru frodorol, neu Pura Wallia, o dan ei arweinyddiaeth.
Er ei fod yn Dywysog Cymru, roedd yn rhaid i Lywelyn ennill dylanwad y Mers, sef y tiriogaethau Normanaidd rhwng y Gymru annibynnol a Lloegr yn yr Oesoedd Canol.
Felly yn 1263, arweiniodd ei luoedd i ganol y Mers lle cafodd groeso gan Gymry Brycheiniog, y Fenni a Blaenau Morgannwg.
Yn 1264, ffurfiodd gynghrair gydag arweinydd Gwrthryfel y Barwniaid yn Lloegr, sef Simon de Montford.
Yn ddiweddarach, priododd ei ferch, Eleanor de Montford.
Cytundeb Trefaldwyn
Yn 1267, cafodd Llywelyn ei gydnabod yn Dywysog Cymru gan Harri III, drwy Gytundeb Trefaldwyn.
Roedd Llywelyn yn arweinydd dros 75% o dir Cymru rhwng 1267 a 1277.
Ond fel rhan o Gytundeb Trefaldwyn, roedd yn rhaid i Lywelyn godi trethi uchel ar ei bobol a’u rhoi i’r brenin.
Roedd hyn yn un o’r gwendidau niferus yn y cytundeb oedd yn gwneud ei bobol yn anhapus.
Roedd tywysogion Cymreig eraill yn anfodlon gyda theyrn Llywelyn, ynghyd a’i frawd ei hun, Dafydd.
Bu Dafydd a’i fab yn ceisio lladd Llywelyn, ond methodd eu cynllwyn.
Cafodd Dafydd loches gan y brenin newydd, Edward I.
Cytundeb Aberconwy
Yn 1276, cyhoeddodd Edward nad oedd Llywelyn wedi talu gwrogaeth iddo.
Cipiodd y brenin Eleanor de Montford.
Blwyddyn yn ddiweddarach, roedd lluoedd y Brenin yng Ngwynedd.
Ildiodd Llywelyn, a chafodd Cytundeb Aberconwy ei sefydlu gan gyfyngu awdurdod Llywelyn i Wynedd Is-Conwy, gyda Dafydd hefyd yn cael cyfran o Wynedd Is-Conwy.
Wedi hynny, cafodd Eleanor ei rhyddhau a phriododd hi a Llywelyn.
Parhau i frwydro…
Er iddo Ildio, doedd uchelgais Llywelyn o uno Cymru heb ddiflannu.
Roedd rhan helaeth o Eryri a mannau eraill yng Nghymru yn parhau i fod yn deyrngar iawn iddo.
Er mwyn ceisio atgyfnerthu gweddill ei Dywysogaeth, cytunodd Llywelyn i dalu gwrogaeth i’r brenin, ynghyd â’r arian gafodd ei gytuno o dan Gytundeb Trefaldwyn.
O ganlyniad, roedd perthynas well rhwng Llywelyn a’r Brenin Edward.
Cynyddodd chwerwder mewn rhannau o Gymru, wrth i faterion Cymreig gael eu penderfynu yn unol â chyfraith Lloegr yn hytrach na chyfraith Cymru.
Y frwydr olaf
Dafydd, brawd Llywelyn, sbardunodd y gwrthryfel olaf ar Sul y Blodau 1282.
Dyma’r gwrthryfel ddaeth â llinach frenhinol Llywelyn a’i frawd i ben.
Wnaeth Llywelyn ddim ymuno â’r gwrthryfel yn wreiddiol.
Fodd bynnag, newidiodd hynny fis Mehefin 1282 wedi i’w briod, Eleanor de Montfort, farw ar enedigaeth eu hunig blentyn, Gwenllian.
Roedd Edward, Brenin Lloegr, eisiau buddugoliaeth lwyr ac roedd yn brwydro i gael gwared ar deitl Tywysog Cymru.
Yn y pen draw, cafodd Llywelyn ei ladd gan wŷr y brenin yng Nghilmeri ger Llanfair-ym-muallt.
Er mai lladd Llywelyn oedd eu nod, doedd y gwŷr ddim yn gwybod pwy roedden nhw wedi ei ladd ar y pryd.
Ar ôl marw
Wedi ei farwolaeth, cafodd pen Llywelyn ei anfon at y Brenin yn Llundain, lle cafodd ei adael i bydru ar bolyn ger Tŵr Llundain.
Cafodd Gwenllian ei chipio gan y brenin a’i hanfon i leiandy er mwyn sicrhau diwedd llinach Llywelyn.
Mabwysiadodd brawd Llywelyn, Dafydd, deitl Tywysog Cymru ond cafodd yntau ei gipio ar Ebrill 25, 1283, a’i ddienyddio yn Amwythig.
Wedi ei farwolaeth, roedd pob rhan o Gymru dan lywodraeth frodorol Gymreig yn atebol i Frenin Lloegr.
Yn 1284, cyhoeddodd Edward fod Cymru bellach o dan reolaeth Lloegr.
Yn 1301, cafodd mab Edward ei arwisgo’n Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon.
Heddiw, mae cofeb i fywyd Llywelyn ein Llyw Olaf i’w gweld yng Nghilmeri.