Mae Gwynedd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor sy’n destun premiwm treth gyngor y sir dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae ymchwil gan y Cyngor wedi datgelu bod 500 yn llai o ail gartrefi yn y sir yn destun treth ym mis Tachwedd eleni o gymharu â mis Tachwedd y llynedd.
Er bod nifer yr eiddo fel pe bai wedi gostwng, doedd “dim digon o dystiolaeth i ddweud bod hynny o ganlyniad i’r premiwm ei hun”, meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Gyllid, wrth gyfarfod llawn y Cyngor ddydd Iau (Rhagfyr 9).
Ac fe adroddodd Dewi Owen, pennaeth cyllid y Cyngor, eu bod nhw wedi gweld mwy o eiddo’n “symud” o fod yn destun treth y cyngor i fod yn unedau gwyliau hunanarlwyo.
Dywed eu bod nhw’n “amlach na heb yn osgoi treth gan eu bod nhw’n derbyn rhyddhad treth busnesau bach” wrth newid.
Dim newid
Cafodd penderfyniad ei wneud yn y cyfarfod i beidio â gwneud unrhyw newid i drefniadau’r premiwm treth gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25.
Cytunodd y Cyngor yn ffurfiol i barhau i gadw’r premiwm ar 150% ar gyfer ail gartrefi, a 100% ar gyfer eiddo gwag hirdymor.
Dywedodd y Cynghorydd Ioan Thomas fod y Cyngor yn ceisio adnabod y rhesymau am y gostyngiad yn nifer yr ail gartrefi.
Fe wnaeth Dewi Owen hefyd ddisgrifio sut mae mwy o eiddo wedi symud yn ôl i mewn i’r system dreth gyngor yn 2023 o gymharu â 2022.
Roedd cynyddu’r trothwy ar gyfer symud i gyfraddau busnes, ddaeth i rym ar Ebrill 1, “yn sicr yn debygol o fod wedi cadel effaith ar hyn”, meddai.
“Os ydi llety gwyliau’n dod yn ôl i mewn i’r system dreth gyngor, pam fod nifer yr ail gartrefi’n gostwng hefyd?” gofynnodd.
“A yw’r eiddo hyn yn cael eu gwerthu neu eu rhoi ar osod fel prif gartrefi, yn unol â bwriad Cyngor Gwynedd a pholisi Llyworaeth Cymru, neu oes yna rywbeth arall yn digwydd?
“Dyna mae’r ymchwil, sydd wedi nodi patrymau gwahanol mewn cyfnodau gwahanol, yn ceisio’i ddarganfod.”
Cwymp gyson
Cyn y pandemig, roedd nifer yr ail gartrefi at bwrpas treth yn “cwympo’n gyson” mewn ardaloedd â niferoedd uchel a chyfran sylweddol o ail gartrefi, ond yn cynyddu mewn ardaloedd â niferoedd bychain, meddai.
“Roedd y mwyafrif o ostyngiadau yn yr ardaloedd poblogaidd yn ganlyniad uniongyrchol i drosglwyddo’r system dreth fusnes, megis newidiadau i lety gwyliau ac unedau hunanarlwyo, cyn y pandemig,” meddai.
Rhwng Mehefin a Thachwedd 2020, roedd y darlun “wedi newid yn sylweddol” unwaith eto, gyda nifer yr ail gartrefi’n cynyddu.
“Byddai wedi bod yn uwch pe bai rhai tai heb barhau i drosglwyddo i dreth fusnes,” meddai.
Newidiodd “nifer sylweddol” o dai o fod yn brif breswylfa i fod yn ail gartrefi yn y cyfnod hwn hefyd, meddai.
“Yn y ddwy flynedd wedyn, o Dachwedd 2020 i Dachwedd 2022, fe wnaethon ni ddychwelyd at y patrwm blaenorol o niferoedd ail gartrefi yn gostwng,” meddai.
“Yr hyn sydd wedi’i nodi gan y tîm ymchwil ydy mai dim ond 37% o’r rhain oedd yn drosglwyddiadau net i’r systemau treth fusnes fel llety gwyliau, ac roedd hyn yn ganran is na chyn y pandemig.”
Yn y cyfnod rhwng 2020 a 2022, roedd mwy o ail gartrefi hefyd wedi dod yn “dai normal” yn nhermau eu trin at ddibenion treth fel prif breswylfa.
Roedd patrymau ers Rhagfyr 2022 yn “wahanol eto”, gyda gostyngiad mewn ail gartrefi ac unedau gwyliau hunanarlwyo mewn “grwpiau ardal” gyda niferoedd uwch o ail gartrefi.
‘Newid y darlun’
“Fe wnaeth tynhau’r rheolau newid y darlun,” meddai wedyn.
“Doedd 500 o dai ddim bellach yn ail gartrefi o bersbectif treth, ac o leiaf maen nhw i’w gweld wedi dod yn ôl fel prif breswylfa ers Rhagfyr 2022.”
Ond mae gwaith parhaus ar y gweill er mwyn sicrhau bod newidiadau i statws eiddo’n cael eu hadrodd yn gywir wrth y Cyngor, gyda gwaith i wirio hynny’n cael ei gwblhau gan y gwasanaeth trethi, yn annibynnol o’r uned wybodaeth.
“Yr hyn mae angen i ni ei wybod ydy a ydy newid defnydd yn gysylltiedig â gwerthu tai ar yr un pryd, neu’n newid defnydd gan yr un perchnogion yn symud i mewn.”
Dydy’r data llawn ar gyfer 2023 ddim ar gael eto.
“Ond mae patrwm yn dechrau ymddangos; fedrwn ni ddim dweud â sicrwydd a ydy newidiaau’n ganlyniad uniongyrchol i’r premiwm, ac mae’r gwaith ar y gweill.
“Yn nhermau’r penderfyniad sydd wedi’i wneud, does dim tystiolaeth wedi dod i law sy’n cyfiawnhau newid cyfradd y premiwm treth gyngor ar hyn o bryd.”