Huw Prys Jones yn rhybuddio y gallai’r ffordd yr aeth Plaid Cymru ati i ddewis darpar arglwyddi yr wythnos ddiwethaf fod yn arwydd o’r hyn fyddai’n digwydd mewn etholiad i senedd Cymru o dan drefn rhestrau caëedig…


Cynhaliodd Plaid Cymru ryw fath o etholiad mewnol yr wythnos ddiwethaf. Y bwriad oedd dewis ymgeiswyr i’w henwebu fel darpar aelodau o Dŷ’r Arglwyddi. Mae hyn yn dilyn penderfyniad Dafydd Wigley i ymddeol ar ôl blynyddoedd o wasanaeth clodwiw yno, lle mae wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol eithriadol.

Mae’n ymddangos nad oes sicrwydd y bydd Plaid Cymru’n cael rhywun arall yn ei le. Os bydd, mae’n annhebygol y byddai’n cael mwy nag un, er bod y blaid yn honni y dylai gael hyd at dri aelod.

Tri ymgeisydd oedd yn y ras – Elfyn Llwyd, Carmen Smith ac Ann Griffith. Er nad yw hyn wedi cael ei gyhoeddi’n swyddogol, Elfyn Llwyd oedd ymhell ar y blaen ar ôl cipio dros 60% o’r pleidleisiau, yn ôl gwybodaeth a ddaeth i law’r newyddiadurwr gwleidyddol Martin Shipton. O ystyried mai craffu ar ddeddfau ydi un o brif swyddogaethau Tŷ’r Arglwyddi, efallai nad oedd yn syndod bod cymaint o aelodau Plaid Cymru o’r farn mai Elfyn Llwyd, a’i flynyddoedd o brofiad ym myd y gyfraith, oedd fwyaf cymwys ar gyfer y gwaith.

Ddyddiau wedi’r ‘etholiad’, fodd bynnag, cafodd aelodau Plaid Cymru wybod mai’r ‘canlyniad’ oedd mai Carmen Smith fyddai ar frig y rhestr, wedyn Elfyn Llwyd ac wedyn Ann Griffith.

Mae’n ymddangos bod hyn oherwydd penderfyniad blaenorol gan un o bwyllgorau Plaid Cymru mai dynes fyddai’n cael ei gosod ar frig y rhestr, beth bynnag fyddai canlyniad unrhyw bleidlais ar y mater.

Beth bynnag fyddai barn rhywun o’r dadleuon a allai fod o blaid neu yn erbyn penderfyniad o’r fath, roedd cwestiwn go sylfaenol yn codi: Os mai dyma oedd y penderfyniad a wnaed, beth oedd diben camarwain aelodau Plaid Cymru i gredu y byddai eu pleidlais yn cyfrif?

Pam rhoi cyfle iddyn nhw bleidleisio dros Elfyn Llwyd os na fyddai’n cael ennill p’run bynnag?

Yr esboniad tebycaf ydi bod ffraeo mewnol o fewn y blaid yn arwain at ddiffyg rhesymeg ac at benderfyniadau nad ydyn nhw’n cael eu hystyried yn ddigon trylwyr. Os oedd unrhyw rai a oedd yn ymwneud â threfniadau’r etholiad yn credu bod modd cadw’r canlyniad yn gyfrinachol, y cwbl y gellir ei ddweud ydi eu bod nhw’n anhygoel o naïf.

Rhestrau caëedig

Mae’r mater hwn yn ymwneud â llawer mwy na Phlaid Cymru a Thŷ’r Arglwyddi yn unig. Mae’n dangos yn glir beth fydd yn digwydd os mai trwy restrau caëedig yn unig y bydd aelodau i Senedd Cymru’n cael eu hethol yn y dyfodol.

O dan y drefn sy’n cael ei chynnig yn y mesur Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd, bydd yr holl aelodau’n cael eu dewis drwy restrau caeedig. Ystyr hyn ydi mai pleidiau, ac nid etholwyr, sy’n cael penderfynu pwy fydd yn cael eu cynrychioli.

Y bwriad fydd rhannu Cymru’n 16 o etholaethau (pob un ohonynt yn cyfateb i ddwy o’r etholaethau newydd ar gyfer San Steffan), gyda chwe aelod yn cael ei ethol o bob un o’r 16. Pe bai’r etholwyr yn cael pleidleisio i chwe gwahanol ymgeisydd o’u dewis, byddai’n gam sylweddol ymlaen i ddemocratiaeth yng Nghymru. Yn lle hynny, yr hyn fydd yn cael ei gynnig fydd un bleidlais, a hynny i blaid yn unig. Y blaid honno fydd wedi cael dewis yr ymgeiswyr, a’r nifer o bob plaid a fydd yn cael eu hethol yn dibynnu ar ddull tebyg i’r un a ddefnyddir ar hyn o bryd ar gyfer aelodau rhestr y Senedd.

Po fwyaf y mae rhywun yn meddwl am y drefn sy’n cael ei chynnig, y mwyaf annerbyniol y mae’n ymddangos. Un o hanfodion democratiaeth ydi un aelod, un bleidlais. O dan y drefn hon, dim ond un bleidlais fydden ni’n ei chael ar gyfer chwe aelod. Sy’n gyfystyr yn yr achos hwn â’n hamddifadu o bump allan o’r chwe phleidlais y dylem ei chael!

Mae pwy bynnag a feddyliodd am drefn o’r fath yn dangos agwedd ddirmygus a thrahaus tuag at etholwyr. Bydd pleidleisiau’n cael eu cyfrif ar sail tybiaeth, a allai fod yn gwbl anghywir, mai dymuniad pawb a fyddai wedi pleidleisio dros Blaid Cymru, neu’r Blaid Lafur neu unrhyw blaid arall, fyddai bod pob un o’r chwe phleidlais y dylai fod ganddo fo neu hi yn mynd i’r blaid honno.

Canlyniadau niweidiol

Yn ogystal â’r diffygion amlwg ar sail egwyddor, mae hefyd angen meddwl ymhellach beth fyddai canlyniadau niweidiol tebygol trefn o’r fath.

I ddechrau, byd rhestrau caëedig yn sicr o arwain at ddryswch ymhlith yr etholwyr fyddai’n cyfrannu at eu hymddieithrio o’r broses wleidyddol.

Yn eironig, gwelwyd enghraifft glir o hyn yn etholiad 2007 i Senedd Cymru pan gafodd Dafydd Wigley ei amddifadu o fod ar frig rhestr y gogledd Plaid Cymru – er iddo gael y mwyafrif llethol o bleidleisiau mewn cyfarfod dewis. Roedd hyn unwaith eto oherwydd rheol a gafodd ei basio gan ryw bwyllgor neu gynhadledd neu’i gilydd. Pan ddaeth yr etholiad, daeth yn amlwg fod nifer o etholwyr cyffredin yn y gogledd wedi pleidleisio dros Blaid Cymru oherwydd fod Dafydd Wigley ar y rhestr. Y canlyniad oedd iddyn nhw gael eu siomi a’u drysu a’u peri i holi pam fod dynes nad oedden nhw erioed wedi clywed amdani wedi ei hethol dros Blaid Cymru yn ei le.

Mae’n anochel hefyd y bydd rhestrau caëedig yn mygu annibyniaeth barn ac unrhyw feddwl gwreiddiol, gan y byddai’r pleidiau’n sicr o ffafrio gwleidyddion ufudd a fyddai’n glynu’n ddigwestiwn at y parti-lein.

Yn waeth na dim, byddai’r ymddieithrio cyffredinol yn sgil hyn yn sicr o amharu ar hygrededd ac enw da Senedd Cymru. Pe codai anghydfod rhwng Aelodau Seneddol San Steffan Cymru ac aelodau rhestrau caëedig y Senedd ar unrhyw fater, fyddai ASau San Steffan ddim yn brin o edliw eu bod nhw wedi cael sêl bendith bersonol yr etholwyr. Ar adeg pan fo pwerau’r Senedd o dan fygythiad unoliaethwyr Prydeinig, mae hyn yn berygl gwirioneddol.

Rhestrau ymgeiswyr

Yn y cyfamser, parhau’n ddirgelwch mae tynged elfen wreiddiol o’r Bil sydd bellach yn cael ei thrin fel mesur ar wahân.

Roedd disgwyl i Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiad) gael ei gyhoeddi’r wythnos yma, ond cafodd ei ohirio ar fyr rybudd.

Y bwriad oedd gorfodi pleidiau i roi dynion a merched bob yn ail ar eu rhestr gaeedig, fel y byddai, mewn theori, nifer tebyg yn cael eu hethol. Mae’n ymddangos bod Llywodraeth Cymru mewn dyfroedd dyfnion yn rhannol oherwydd nad ydyn nhw’n gallu cytuno ar sut mae diffinio merched … ond efallai mai gorau po leiaf a ddywedir am hynny am y tro.

Fodd bynnag, os mai’r bwriad ydi cael nifer tebyg o Aelodau benywaidd a gwrywaidd o’r Senedd, mae’r Bil hwn yn mynd ati mewn ffordd hynod glogyrnaidd.

Yr unig ffordd sicr o gyflawni nod o’r fath fyddai neilltuo nifer penodol o seddau yn y Senedd ar gyfer merched, ac wedyn pob etholwr yn cael pleidlais ychwanegol ar gyfer ethol y merched hynny. Efallai na fyddai cefnogaeth unfrydol i egwyddor o’r fath, ond does dim rheswm ymarferol pam na allai weithio (cyn belled wrth gwrs bod cyd-ddealltwriaeth ynghylch pwy sy’n ferched ai peidio).

Ar y llaw arall, mae cynigion y Bil sydd ar y gweill, sef gorfodi pleidiau i ddewis ymgeiswyr ar sail eu rhyw, yn gwbl annerbyniol. Nid lle’r wladwriaeth ydi gorchymyn pwy mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu dewis fel ymgeiswyr. Mae’n mynd yn groes i hanfodion democratiaeth sy’n ymwneud â hawliau sylfaenol dinasyddion i ddod at ei gilydd ar gyfer sefyll etholiad a cheisio cefnogaeth y cyhoedd.

Os bydd plaid wleidyddol yn dewis rhoi dynion a merched bob yn ail ar restr, mae hynny’n ddigon teg a rhesymol. Mi fyddai’n werth er hynny iddyn nhw ystyried y syniad radical o roi’r lle ar y brig i’r sawl sy’n ennill fwyaf o bleidleisiau, boed yn ddyn neu’n ddynes.

Gwell fyth fyddai mynnu mai hawl etholwyr a neb arall ydi dewis pa ymgeiswyr i’w cefnogi mewn etholiad, ac nad lle pleidiau ydi penderfynu ar eu trefn.

Ei bwyso yn y glorian – a’i gael yn brin

I fynd yn ôl at y prif Fil, dydi o ddim yn haeddu cael ei basio heb wneud newidiadau sylfaenol iddo.

Ffrwyth y cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ydi’r bil, ac mae’n wir bod unrhyw beth sy’n cael ei greu gan bwyllgor wedi golygu cyfaddawdu. Dadl rhai o wleidyddion Plaid Cymru ydi bod rhestrau caëedig yn bris sy’n werth ei dalu er mwyn cael cynyddu nifer aelodau’r Senedd. Er hyn, mae rhywun yn synhwyro bod rhai ohonyn nhw bellach yn dechrau simsanu, ac amau hyn, o weld y gwrthwynebiad cynyddol sydd i’r rhestrau caëedig.

Y gobaith ydi mai po fwyaf y craffu a fydd ar y Bil hwn, y mwyaf amlwg y daw’r angen i’w ddiwygio. Rhaid i aelodau’r Senedd wneud safiad dros ddemocratiaeth a mynnu gwelliannau iddo cyn ei basio. Er cymaint yr angen am fwy o aelodau i’r senedd, ni ddylid gadael i hyn fod ar draul pob ystyriaeth arall.

Yr unig ddyfarniad sy’n addas ar gyfer Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn ei ffurf bresennol ydi: Fe’i pwyswyd yn y glorian, ac fe’i cafwyd yn brin.