Mae ymgyrch trigolion pentref Cribyn yn Nyffryn Aeron i brynu’r ysgol leol wedi cael hwb arall, wrth iddyn nhw benodi Swyddog Datblygu.

Daw’r datblygiad o ganlyniad i gymorth grant ‘Perthyn’ gan Cwmpas a Llywodraeth Cymru.

Mae Elliw Dafydd yn hanu o Lanilar, ac mae hi’n wyneb cyfarwydd i ymwelwyr â swyddfa’r Ffermwyr Ifanc yn Felin-fach, a hithau’n Swyddog Marchnata a Gweinyddu yno.

Ymgyrch Merched Beca oedd ei phwnc pan oedd yn fyfyrwraig hanes ym Mhrifysgol Bangor, ac mae’r ymgyrch yn gobeithio y bydd egni, cyffro a llwyddiant yr ymgyrch honno yn ysbrydoliaeth iddi hi a phobol Cribyn wrth iddyn nhw fwrw ati i siapio’u dyfodol eu hunain.

O fis Ionawr, bydd gweddill ei hamser yn mynd ar arwain y gwaith o sefydlu Cymdeithas Fudd Cymunedol Ysgol Cribyn.

Ei phrif swyddogaeth fydd sicrhau bod cynifer o bobol â phosib yn cael y cyfle i brynu cyfranddaliadau yn y gymdeithas gydweithredol, sef y gymdeithas fydd yn berchen ar yr ysgol yn y pen draw ar ran y gymdogaeth.

‘Ased bwysig’

“Mae sicrhau help ac arweiniad person ifanc sydd mor frwdfrydig am ddyfodol ein cymunedau cefn gwlad yn gyffrous iawn,” medd Alan Henson, cadeirydd Cymdeithas Clotas.

“Ers cau’r ysgol yn 2009, mae Clotas wedi bod yn aros am y cyfle i ddatblygu’r ased bwysig hon ar ran y gymdeithas gyfan.

“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at gydweithio â hi yn fawr.”

Yn ôl Elliw Dafydd, mae’n bwysig cael cynifer â phosib o gyn-ddisgyblion yn aelodau o’r gymdeithas.

“Wrth ddenu cefnogaeth y Loteri Cenedlaethol a chyrff tebyg, mi fydd creu cymdeithas gydweithredol gref yn dangos yn glir iddyn nhw gymaint yw’r brwdfrydedd a’r penderfyniad yn lleol.”