Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud ei bod hi wedi’i “ffieiddio’n llwyr” gan sylwadau Boris Johnson am bobol yng Nghymru yn ystod y pandemig Covid-19.

Fe ddaeth i’r amlwg yn nyddiaduron Syr Patrick Vallance, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig adeg y pandemig, fod y Prif Weinidog ar y pryd wedi beio ‘canu a gordewdra’ am ffigurau Covid-19 uchel yng Nghymru.

Ac fe ddywedodd fod yn rhaid “dysgu marw” wrth i nifer y rhai fu farw gynyddu’n ddyddiol pan oedd y pandemig yn ei anterth.

Mae Boris Johnson yn cael ei holi ar hyn o bryd fel rhan o ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig, sy’n ystyried y ffordd y gwnaeth Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig ymateb i’r pandemig.

Mae’r Ceidwadwyr dan y lach am lu o bartïon roedden nhw’n rhan ohonyn nhw pan oedd rhannau helaeth o’r Deyrnas Unedig dan gyfyngiadau llym, oedd yn cynnwys gwahardd pobol rhag dod ynghyd mewn grwpiau mawr, a chadw draw o ysbytai a chartrefi gofal.

‘Adeg mor anodd i nifer o bobol ledled y wlad’

“Dw i wedi ffieiddio’n llwyr gan y sylwadau hyn, gafodd eu gwneud ar adeg mor anodd i gynifer o bobol ledled y wlad,” meddai Jane Dodds.

“Mae hi tu hwnt i’m hamgyffred i pam fod Boris Johnson wedi penderfynu gwneud y sylwadau gwarthus hyn ar adeg mor bryderus, ond eto i gyd, ar sail ei record ddylen ni ddim bod wedi’n synnu.

“Wedi’r cyfan, dyma’r union ddyn benderfynodd ddweud celwydd a chamarwain ei ffordd drwy gydol ei gyfnod yn Rhif 10.

“Dyma’r union ddyn gefnodd ar ei gyfrifoldebau i’r genedl yn ystod y pandemig.”

 

‘Canu, gordewdra, a rhaid dysgu marw’

Mae rhai o sylwadau Boris Johnson wedi’u datgelu yn nyddiadur Prif Swyddog Gwyddonol Llywodraeth y Deyrnas Unedig adeg y pandemig