Mae dyfodol rhai o ganolfannau ymwelwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn y fantol wrth i’r corff geisio dorri costau.

Maen nhw wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynnal adolygiad o’u tair canolfan ymwelwyr, sef Ynyslas ger y Borth, Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth, a Choed y Brenin ger Dolgellau.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, yn dweud ei bod hi a Mabon ap Gwynfor, yr Aelod o’r Senedd yn yr un etholaeth, wedi gofyn am gyfarfod brys gyda Chyfoeth Naturiol Cymru.

“Pryderus iawn deall fod dyfodol canolfan #CoedyBrenin yn ansicr,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Dyma adnodd sy’n dod a chyfoeth o fanteision hamdden ac economaidd i’r ardal.

“Mae @mabonapgwynfor a minnau wedi gofyn am gyfarfod brys â Chyfoeth Naturiol Cymru i drafod hyn.”

Mae deiseb ar-lein hefyd wedi’i sefydlu er mwyn i bobol allu mynegi eu gwrthwynebiad, ac mae wedi denu dros 2,000 o lofnodion hyd yn hyn.

Y pryder yw fod y canolfannau yn cael eu defnyddio i addysgu pobol am fywyd gwyllt, a byddai eu colli yn peri risg i ecosystemau.

‘Cyllid cyhoeddus tynn’

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae’r canolfannau’n boblogaidd gyda phobol leol ac ymwelwyr.

“Mae ein canolfannau ymwelwyr yn adnodd sy’n cael ei garu’n fawr ymhlith pobl leol ac ymwelwyr o ymhellach i ffwrdd ac mae’r staff sy’n eu gweithredu yn cael eu hystyried, yn gwbl briodol, fel wyneb Cyfoeth Naturiol Cymru,” medden nhw.

Fodd bynnag, maen nhw’n dweud bod cyllid cyhoeddus yn “eithriadol o dynn” ar draws y Deyrnas Unedig.

“Oherwydd hyn mae’n rhaid inni edrych ar draws ein holl gylch gwaith ac adolygu’n feirniadol, ac y mae’n rhaid i ni barhau i adolygu pa brosiectau rydym yn dirwyn i ben a pha brosiectau sydd yn cael eu harafu,” medden nhw.

“Nid yw hyn yn wahanol i unrhyw gorff sector cyhoeddus arall ar hyn o bryd.

“Mae ein canolfannau ymwelwyr yn rhan o’r adolygiad hwn, ond nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ar sut y byddant yn gweithredu yn y dyfodol.”

Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod nhw am edrych ar opsiynau ac argymhellion ar gyfer y dyfodol dros y misoedd nesaf, ac bydd y penderfyniadau terfynol ar gyfer y flwyddyn 2024/25 yn cael eu gwneud gan y Bwrdd cyn diwedd mis Mawrth.