Fydd Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, ddim yn cael ei chosbi am ei pharti pen-blwydd yn ystod cyfyngiadau Covid-19.
Cafodd y parti ei gynnal yn San Steffan fis Rhagfyr 2020, pan oedd y Deyrnas Unedig dan gyfyngiadau o ganlyniad i’r feirws.
Cafodd ei drefnu gan y Fonesig Eleanor Laing, Dirprwy Lefarydd Tŷ’r Cyffredin, pan oedd Llundain dan gyfyngiadau Haen 2, oedd yn gosod cyfyngiadau ar gymdeithasu dan do.
Mae Syr Bernard Jenkin, aelod o’r panel trawsbleidiol oedd wedi cynnal yr ymchwiliad, wedi cael ei gyhuddo o ragrith am fynd i’r parti oedd wedi cael ei wadu gan Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar y pryd.
Dydy’r digwyddiad ddim yn deilwng o ddirwy, yn ôl Heddlu Llundain, sy’n dweud na fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd.
Bydd ymchwiliad goruchwyliwr safonau Tŷ’r Cyffredin yn parhau â’u hymchwiliad nhw i’r mater.