Mae arolwg wedi datgelu bod naw ym mhob deg o bobol yn teimlo bod gwasanaethau bws yn y gorllewin wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Cafodd yr arolwg ei gynnal gan Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, rhwng Awst a diwedd Tachwedd eleni, gyda dros 200 o ymatebion wedi’u derbyn gan ddefnyddwyr bysiau rheolaidd ar y cyfan.

Dywedodd:

  • 93% o’r rhai wnaeth ateb fod ganddyn nhw farn wael am amserlenni bysiau presennol
  • 76% fod ganddyn nhw farn wael am yr amrywiaeth o lwybrau sydd ar gael
  • 92%fod gwasanaethau bysiau wedi gwaethygu dros y flwyddyn ddiwethaf
  • 92% eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel ar y bws, naill ai drwy’r amser neu ran fwya’r amser

Pryderon

Mae Sioned Williams wedi codi pryderon yn y gorffennol gyda’r Prif Weinidog Mark Drakeford, sy’n dweud ei fod yn “dymuno” i fwy o bobol ddefnyddio bysiau, ond fod cwymp mewn niferoedd teithwyr a “blaenoriaethau sy’n cystadlu” sy’n golygu nad oes cyllid ar gael ar hyn o bryd.

“Mae’r toriadau i gyllid ar gyfer gwasanaethau bysiau yn gadael cymunedau ledled Cymru mewn sefyllfa ofnadwy – ac mae’n amlwg bod pobol yn fy rhanbarth i wedi cael eu heffeithio’n wael,” meddai Sioned Williams.

“Mae etholwyr wedi dweud wrtha i eu bod wedi gorfod gadael eu swyddi oherwydd y toriadau hyn, ac mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod cannoedd mwy wedi cael eu heffeithio.

“Mae toriadau bws yn drychinebus i lawer – yn enwedig pobol hŷn, grwpiau bregus, cymunedau tlotach, a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd fel cymunedau cymoedd fy rhanbarth sy’n dibynnu ar y bws i deithio o gwmpas.

“Yr hyn sy’n waeth yw, unwaith y bydd barn negyddol wedi ffurfio am fysiau – ac mae fy arolwg yn dangos bod hyn eisoes yn wir – ac unwaith y bydd pobol wedi canfod ffyrdd amgen o gyrraedd lle mae angen iddyn nhw fod, mae’r gwaith i gael pobol yn ôl ar y bws yn gymaint anoddach.

“Mae mor bwysig bod pobol yn cael dewis arall gwirioneddol i’r car i gyrraedd lle mae angen iddyn nhw fod.

“Nid yw llawer o bobol yn fy rhanbarth yn byw ger lein drên, heb sôn am orsaf reilffordd, ac nid oes ganddyn nhw fynediad at gar, felly mae hyn yn gwneud bysiau yn wasanaeth hanfodol y mae’n rhaid ei ddiogelu.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau i ddiogelu, blaenoriaethu ac ehangu gwasanaethau bysiau, oherwydd mae’r bobol mae bysiau yn wasanaeth hanfodol ar eu cyfer yn mynnu hynny.”