Mae fferm wynt alltraeth allai bweru mwy na hanner cartrefi Cymru wedi sicrhau ei holl gymeradwyaeth gynllunio angenrheidiol.

Gall y cynlluniau ar gyfer fferm wynt alltraeth Awel y Môr, sydd oddi ar arfordir sir Conwy, symud yn eu blaenau erbyn hyn, wedi iddyn nhw dderbyn trwyddedau morol gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Dyma fuddsoddiad ynni adnewyddadwy mwyaf Cymru’ yn ystod y degawd hwn, ac fe dderbyniodd ganiatâd datblygu gan Claire Coutinho, Ysgrifennydd Gwladol y Deyrnas Unedig dros Ddiogelwch Ynni a Net Sero, fis Medi.

Mae disgwyl y bydd gan Awel y Môr uchafswm o 50 tyrbin gydag uchderau hyd at 332m.

Y bwriad yw fod y fferm wynt alltraeth yn weithredol erbyn 2030.

‘Cyflawniad arwyddocaol’

Dywed Tamsyn Rowe, arweinydd y prosiect, fod y newyddion yn “gyflawniad arwyddocaol i’r tîm” ar ôl pum mlynedd o waith ymgynghori a chasglu data.

“Maen nhw bellach yn gweithio’n galed i fireinio’r cynlluniau ar gyfer adeiladu ar y môr ac ar y tir, ac yn cymryd y camau angenrheidiol i’n galluogi i wneud Penderfyniad Buddsoddi Terfynol,” meddai.

Dywed eu bod nhw hefyd yn parhau i ddatblygu cynlluniau i gefnogi cwmnïau sydd yn awyddus i ymuno â’r gadwyn gyflenwi.

“Yn ogystal, rydym yn edrych i sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol yn y gweithlu er mwyn adeiladu, gweithredu a chynnal yr hyn a fydd fferm wynt fwyaf Cymru pan fydd wedi’i chwblhau,” meddai.

Cynyddu pris streic

Yn ddiweddar, cynyddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y pris streic, sef y pris sydd wedi ei warantu ar gyfer ynni sydd wedi ei gynhyrchu’n adnewyddadwy, ar gyfer ynni gwynt ar y môr.

Cafodd yr uchafswm pris streic ei gynyddu 66% ar gyfer prosiectau ynni gwynt ar y môr – o £44/MWh i £73/MWh.

Roedd hyn yn cael ei ystyried yn gam arall cadarnhaol i ddatblygiad Awel y Môr.