Mae rhai wardiau yn Ysbyty Maelor Wrecsam wedi cau i gleifion newydd, yn dilyn cynnydd mewn achosion o’r norofeirws.
Dywed Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod cynnydd wedi bod mewn achosion ar draws ardal y bwrdd iechyd, ond yn enwedig yn Wrecsam.
Maen nhw’n dweud bod “nifer fach” o’r wardiau wedi’u cau, gyda chyfyngiadau wedi’u gosod ar ymweliadau.
Mae symptomau’r norofeirws yn cynnwys:
- chwydu
- dolur rhydd
- poen stumog
- cur pen
Gan fod y feirws yn heintus iawn, mae pobol yn cael eu hannog i osgoi ymweld â’r ysbyty os oes ganddyn nhw symptomau, ac i olchi eu dwylo’n rheolaidd.
Osgoi lleoliadau gofal
Mae sefyllfa debyg hefyd wedi ei hadrodd dros y ffin yn Sir Caer.
Dywed llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei bod hi’n bwysig i’r cyhoedd geisio atal y lledaeniad yng ngogledd Cymru a dros y ffin.
Ychwanega fod y feirws fel arfer yn diflannu o fewn dau neu dri diwrnod wrth orffwys ac ailhydradu.
“Fodd bynnag, mae’n hynod heintus a gall ledaenu’n hawdd trwy gysylltiad â rhywun sydd â’r feirws neu ag arwynebau halogedig,” meddai.
“Gall achosi lledaeniad yn hawdd mewn lleoliadau gofal, ac mae’n fwy difrifol i bobol sydd eisoes yn sâl, yr ifanc iawn a’r henoed.
“Rydym yn gweld cynnydd mewn achosion yn arbennig yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae nifer fechan o wardiau wedi’u cau i dderbyniadau, gydag ymweliadau cyfyngedig yn eu lle.”
Defnyddio dŵr a sebon
Ychwanega Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, nad yw gel dwylo ag alcohol yn lladd y norofeirws, a bod rhaid golchi dwylo gyda dŵr a sebon.
“Peidiwch ag ymweld â ffrindiau a pherthnasau yn yr ysbyty os ydych yn sâl, wedi cael dolur rhydd a/neu chwydu yn y 48 awr flaenorol, neu wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw un sydd wedi cael symptomau o fewn y 48 awr ddiwethaf,” meddai.
“Mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn chwarae rhan mewn lleihau effaith norofeirws ar gleifion, staff ac ymwelwyr.”