Mae cynghorydd yn Sir Benfro sy’n un o drefnwyr digwyddiad nofio blynyddol Dydd Calan Llanusyllt (Saundersfoot), yn ceisio caniatâd i siarad a phleidleisio ar gynnydd posib yn nhreth y cyngor ar gyfer ail gartrefi yn y sir.

Ar hyn o bryd, mae Sir Benfro’n gweithredu premiwm treth gyngor o 100% ar gyfer ail gartrefi.

Yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth Cabinet y Cyngor gefnogi premiwm o 200% ar gyfer ail gartrefi, ynghyd ag eiddo gwag ers dwy flynedd yn wynebu premiwm o 50% fydd yn cynyddu i 200% ar gyfer y rhai fu’n wag ers tair blynedd neu fwy.

Mae cefnogaeth y Cabinet ar ffurf argymhelliad i gyfarfod llawn y Cyngor ar Ragfyr 14, pan fydd penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.

Cyn dadl ymhlith holl aelodau’r Cyngor, mae Chris Williams, cynghorydd sir Llanusyllt, wedi cyflwyno cais am ganiatâd i siarad a phleidleisio ar unrhyw drafodaethau am ardoll twristiaeth neu’r premiwm treth gyngor ar gyfer ail gartrefi, gan ei fod yn gweithio’n rhan amser fel gofalwr ar gyfer ail gartrefi.

‘Cyrchfan gwyliau bywiog’

Yn ei gais i gael ei glywed gan bwyllgor safonau’r Cyngor ar Ragfyr 11, dywed y Cynghorydd Chris Williams, cadeirydd y digwyddiad nofio blynyddol ar Ddydd Calan fod “Llanusyllt yn gyrchfan gwyliau bywiog â 27% o eiddo yn y categori ail gartrefi neu lety gwyliau”.

“Rhan o’m gwaith rhan amser yw bod yn ddeilydd allweddi ac yn ofalwr ar gyfer y fath eiddo,” meddai.

“Er mwyn eglurder, dw i ond yn eu rheoli nhw fel gofalwr at ddibenion yswiriant.

“Dw i’n darparu gwasanaeth sy’n goruchwylio’r eiddo bob pythefnos, a dydy hynny ddim yn cynnwys archebion na thaliadau.

“Dw i’n darparu gwasanaeth i drigolion lleol, yn ogystal ag ambell un nad yw’n lleol sydd angen cynnal a chadw eu heiddo.

“Mae gan fy rhieni-yng-nghyfraith brif breswylfa sy’n unig eiddo iddyn nhw, ac maen nhw’n rhoi hwnnw ar osod o dro i dro.

“Mae rhandy gan fy rhieni yng nhefn yr eiddo maen nhw’n ei roi ar osod yn yr haf.

“Ces i fy ngeni a’m magu yn y pentref, a dw i’n deall yn llwyr effaith twristiaeth ar Lanusyllt.

“Dw i’n credu y byddwn i’n rhoi asesiad gonest a chytbwys pe bawn i’n cael siarad ar y mater.

“Fel trefnydd tri digwyddiad elusennol mawr (digwyddiad nofio Dydd Calan, SaundersFest a digwyddiad nofio Tenfoot), dw i’n deall yn llwyr fod nifer o’m hetholwyr naill ai’n gweithio neu’n rhedeg busnesau yn y diwydiant twristiaeth, a dw i’n teimlo y dylwn i allu cael mynegi eu safbwyntiau nhw yn y ddadl.”