Mae cynlluniau i ddatblygu cabanau gwyliau mewn pentref ym Môn wedi cael eu beirniadu fel rhai “gwarthus”, yn sgil pryderon fod yr ynys yn dod yn “faes chwarae i ymwelwyr”.

Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Ynys Môn wrthod cynlluniau i newid tir amaethyddol yn Lôn Fein, Dwyran yn safle cabanau gwyliau.

Byddai’r cynigion wedi gweld 13 o gabanau gwyliau’n cael eu datblygu ochr yn ochr ag adeiladu ffordd newydd ar y safle, newidiadau i fynedfeydd i gerbydau, a gwaith tirlunio.

Fe wnaeth naw aelod o’r pwyllgor bleidleisio yn erbyn y cynllun yn ystod cyfarfod ddydd Mercher (Rhagfyr 6), er bod penaethiaid cynllunio yn y Cyngor wedi argymell ei fod yn cael ei gymeradwyo.

‘Un o’r safleoedd cais mwyaf hurt’

Dywedodd Arfon Wyn, cynghorydd Aberffraw, fod y cynllun hwn yn “un o’r safleoedd cais mwyaf hurt” roedd erioed wedi’i weld, gan ddweud y bu 53 llythyr o wrthwynebiad.

Fe ddisgrifiodd “faterion llifogydd difrifol” yn yr ardal, gan honni bod y datblygiad yn peri “risg” i gartrefi.

Dywedodd y byddai hefyd yn cael effaith ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol a threftadaeth yr ardal a draenio carthffosiaeth, a’i fod yn teimlo bod torri polisi wedi bod.

Mae’r cynllun “mor beryglus i’r rhan yma o Fôn”, meddai, ac mae trigolion “wedi digalonni” ar ôl wynebu llifogydd.

“Dros y blynyddoedd, mae o wedi’i weld mewn ffotograffau yn y cyfryngau, pobol i fyny at eu pengliniau mewn dŵr llifogydd,” meddai.

“Gallai’r datblygiad hwn wneud pethau’n waeth.

“Mae’n warthus.”

‘O fudd i’r datblygwr’

Ychwanega Arfon Wyn na fyddai codi 13 o unedau pren ar y safle yn “helpu’r ardal hon o gwbl na’r harddwch naturiol”, ac na fyddai ond “o fudd i’r datblygwr”.

“Onid oes gennym ni ddigon o’r datblygiadau hyn, neu a ydyn ni ond yn troi’r ynys hon yn faes chwarae i ymwelwyr?” meddai.

“Mae tri safle tebyg lai na milltir o’r safle.”

Dywedodd David Chadwick, uwch warden llifogydd gyda grŵp partneriaeth llifogydd Dwyran, nad oedd adroddiad system ddraenio gynaliadwy gyda’r cais.

“Does bosib fod hyn o bwysigrwydd enfawr yn yr ardal lifogydd hon,” meddai, gan ychwanegu ei fod yn teimlo ei bod yn “hanfodol” ei fod yn cael ei baratoi.

Dywedodd hefyd ei fod yn teimlo y gall fod cynnydd mewn llif dŵr allai “yn sicr fod yn broblem”, gan honni y gallai amsugno dŵr o 13 o gabanau gael effaith ar systemau draenio.

Gwrthwynebiadau

Fe wnaeth y Cynghorydd John Ifan Jones o Aberffraw ddisgrifio gwrthwynebiadau gan yr aelodau lleol a’r cyngor cymuned.

Dywedodd eu bod nhw wedi dod gan “bobol sy’n adnabod eu hardal”, gan ychwanegu, “Dydy hi ddim jyst yn fater o bobol leol yn llofnodi deiseb, mae gennych chi 53 o lythyrau wedi’u hanfon i mewn am hyn.”

“Pryd ydyn ni am ddechrau gwrando ar bobol?”

Fe gododd bryderon am lifogydd, pa mor gul yw lonydd, a’r potensial am broblemau traffig ymhlith ymwelwyr nad ydyn nhw’n gyfarwydd â’r ffyrdd.

“Mae 13 o gabanau, er eu bod nhw’n cael eu disgrifio fel rhai ‘bach’ yn dipyn, yn fy marn i, mewn cae mewn ardal wledig agored,” meddai.

Dywedodd Rhys Jones, y swyddog cynllunio, nad yw’r safle o fewn parth llifogydd nac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac nad yw’n weladwy o ffordd A4840 nac ardal gyhoeddus arall.

“Felly dw i ddim yn deall y pryderon hynny,” meddai.

Mae hefyd yn cael ei ystyried yn “ddatblygiad ar raddfa fach” ac yn bodloni’r polisi cynllunio.

“Do, gawson ni 53 llythyr o wrthwynebiad, ond fe fu tri ymgynghoriad ar y cais hwn, mae nifer wedi’u hailadrodd, dydyn nhw ddim yn 53 gwrthwynebiad gwahanol,” meddai.

Dywed ei fod yn “cydymdeimlo”, ond fod rhaid i gynllunwyr “fynd efo’r dystiolaeth”, gan ychwanegu bod “y safle hwn tu allan i’r parth llifogydd a dydy Cyfoeth Naturiol Cymru ddim yn gwrthwynebu”.

‘Cart o flaen y ceffyl’

Byddai’r cynllun yn cael ei ystyried gan gorff cymeradwyo draenio cynaliadwy (SAB), ond dydy hyn “ddim yn rhan o’r broses gynllunio” ond yn hytrach yn broses ar wahân.

Dywedodd y Cynghorydd Ifan Jones ei fod yn teimlo “fel pe bai’r ceffyl yn cael ei roi o flaen y cart”.

Roedd cynghorydd arall yn teimlo bod aelodau’n cael eu “gwthio” i wneud penderfyniad, ac roedd sawl cynghorydd arall yn cytuno.

Daeth cynnig, gafodd ei eilio, i fynd yn erbyn y swyddog i wrthwynebu’r cais yn y bleidlais.

“Pe bai mewn parth llifogydd, mi fydden ni’n medru gofyn am ragor o fanylion – maen nhw’n hyderus y gallan nhw gael cymeradwyaeth SAB – does dim rhaid iddyn nhw ddarparu’r wybodaeth honno i’r broses gynllunio, rydyn ni wedi cyd-fynd â safbwynt Cyfoeth Naturiol Cymru, ac maen nhw’n hapus.

“Dydy hi ddim yn rhesymol gofyn i’r ymgeisydd ddarparu rhagor o wybodaeth.

“Dydy SAB ddim yn rhan o’r broses gynllunio.”

“Mae’n rhaid bod yna ddigon o gabanau a charafanau i gartrefu Ynys Môn gyfan erbyn rŵan,” meddai’r Cynghorydd Robert Llywelyn Jones.

“Mae’n hen bryd fod gennym ni bolisi i ddweud ’digon yw digon’, a chefnogi gwestai lleol.”