Mae Vaughan Gething wedi cadarnhau y bydd yn sefyll i fod yn arweinydd nesaf Llafur Cymru.

Daw’r neges ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gadarnhau ddoe (dydd Mercher, Rhagfyr 13) nad yw am barhau yn y swydd ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog gamu o’r neilltu ym mis Mawrth, pan fydd y ras am yr arweinyddiaeth yn cychwyn.

“Dros y bum mlynedd mae Cymru wedi delio â chynni, Brexit, pandemig Covid, argyfwng yr hinsawdd, rhyfeloedd yn Wcráin a’r Dwyrain Canol a phedwar Prif Weinidog – hyd yn hyn – felly bydd digon i adlewyrchu arno,” meddai Mark Drakeford wrth gyhoeddi ei benderfyniad.

“Am nawr, byddai’n parhau i weithio gyda fy holl nerth ar yr addewidion wnaethon i bobol Cymru.

“Mae hi wedi bod fraint fawr arwain Llafur Cymru a Llywodraeth Cymru.

“Rwyf hefyd wedi cael y fraint enfawr i chwarae rhan yng ngwleidyddiaeth Cymru yn ystod chwarter canrif gyntaf datganoli.

“Nawr yw’r amser i edrych ymlaen at y bum mlynedd nesaf dros y Deyrnas Unedig, a’r pum-mlynedd-ar-hugain nesaf o ddatganoli yng Nghymru.”

‘Byddaf yn sefyll’

Bellach, mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cadarnhau y bydd yn taflu ei enw i’r het i olynu Mark Drakeford yn arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru.

Ynghlwm wrth y neges mae datganiad sy’n ymhelaethu ar ei benderfyniad.

Cefnogaeth i Jeremy Miles

Yn y cyfamser, mae dwy o weinidogion Llywodraeth Cymru – Julie James a Lesley Griffiths – wedi datgan eu cefnogaeth i Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn y llywodraeth, pe bai’n penderfynu sefyll.

Does dim cadarnhad o hynny eto, ond mae disgwyl y bydd e’n cyflwyno’i enw dros y dyddiau nesaf.

“Wrth i ni ddechrau’r drafodaeth am y dyfodol nawr, mae angen arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog newydd sy’n uchelgeisiol dros Gymru a’n holl gymunedau,” meddai Julie James.

“Fy ngalwad gyntaf yn dilyn cyhoeddiad Mark oedd Jeremy Miles, i’w annog e i sefyll am arweinyddiaeth ein plaid.”

‘Apelio i bobol ar draws y wlad’

“Dw i’n gwybod sut beth yw brwydro etholiadau anodd,” meddai Lesley Griffiths.

“Doedd hi ddim yn hawdd adennill Wrecsam i Lafur Cymru yn 2007.

“Er mwyn sicrhau bod gennym ni ddwy lywodraeth yn cydweithio dros Wrecsam a’r gogledd, mae angen i ni adennill y sedd yn Senedd y Deyrnas Unedig yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

“Er mwyn trechu’r Torïaid yn 2024, mae angen i arweinydd a Phrif Weinidog nesaf Llafur Cymru apelio i bobol ledled y wlad, cydweithio â Keir Starmer i ennill mewn seddi ymylol, a chydweithio i weithredu dros ddyfodol Cymru.

“Dyna pam dw i’n cefnogi Jeremy Miles i fod yn arweinydd a Phrif Weinidog nesaf Llafur Cymru.

“Ar ôl gwasanaethu â Jeremy yn y llywodraeth, dw i’n gwybod fod ganddo fo’r hyn sydd ei angen i ennill dros Lafur a thros ogledd Cymru.

“Gallwch fod yn sicr y bydd Llywodraeth Lafur Cymru dan arweiniad Jeremy Miles yn gwrando ar leisiau a phryderon yma yn y gogledd, ac yn sicrhau bod Llywodraeth Lafur Cymru’n parhau i weithio drosom i gyd.”

Pwy fydd arweinydd nesaf Llafur Cymru?

Catrin Lewis

Mae Mark Drakeford wedi cadarnhau y bydd yn gadael ei swydd fel arweinydd Llafur Cymru, ond pwy fydd yn ei olynu?