Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Owen John Thomas, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, sy’n cael ei gofio am ei “frwdfrydedd a’i ymroddiad”.
Bu farw Owen John Thomas, oedd yn un o sylfaenwyr Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd hefyd, yn 84 oed.
Dysgodd Gymraeg yn oedolyn, gan weithio’n ddyfal dros addysg Gymraeg yn y brifddinas wedi hynny.
Bu’n Aelod o’r Cynulliad dros Ganol De Cymru rhwng 1999 a 2007, gan dreulio cyfnod yn Weinidog yr Wrthblaid dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon.
Treuliodd ei oes yn byw a gweithio yng Nghaerdydd, gan symud i gartref gofal yno yn 2019, ar ôl bod yn byw â dementia ers rhai blynyddoedd.
Roedd yn awdur llyfr am hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd, The Welsh Language In Cardiff: A History of Survival.
Er bod Cynog Dafis, cyn-Aelod Cynulliad Canolbarth a Gorllewin Cymru, ac Owen John Thomas wedi’u hethol i’r Cynulliad cyntaf yn 1999 dros Blaid Cymru, roedd y ddau’n adnabod ei gilydd ers eu hugeiniau.
Fe wnaeth y ddau gyfarfod am y tro cyntaf yng nghynhadledd ac Ysgol Haf Plaid Cymru cyn i Owen John Thomas ddysgu Cymraeg.
“Roedd e’n amlwg wedi cael ei feddiannu’n llwyr gan frwdfrydedd dros Gymru, yr achos cenedlaethol a Phlaid Cymru,” meddai Cynog Dafis wrth golwg360.
“Roedd e’n sefyll yn unionsyth iawn â rhyw falchder naturiol – ond dim byd ffroenuchel nac unrhyw fath o drahaustra, dim ond hyder cyfeillgar.”
Roedd 1979 yn flwyddyn o “siom ddifrifol” i aelodau Plaid Cymru wedi i’r refferendwm datganoli cyntaf fethu, ond tua’r flwyddyn honno y daeth y syniad i sefydlu Clwb Ifor Bach, wnaeth agor yn 1983.
“Dw i’n cofio am [Owen John Thomas] yn dweud yn y Pwyllgor Gwaith bod yna gynllun i Gaerdydd, ac roedd e’n ddylanwadol iawn gyda’r cynllun yma, i sefydlu clwb – a Chlwb Ifor Bach oedd hwnna.
“Roedd Owen yn gweld sefydlu Clwb Ifor Bach fel cam pwysig er mwyn meithrin brwdfrydedd gwladgarol ymysg yr ifanc.
“Roeddwn i’n meddwl ar y pryd, ‘Pam fod peth fel hyn yn cael ei drafod mewn cyfarfod plaid wleidyddol?’, ond roedd Owen yn gallu gweld ymhell. Roedd e’n meddwl yn y tymor hir.
“Yn 1979, er y siom i gyd, doedd Owen ddim wedi colli gobaith. Roedd e’n llawn penderfyniad ar gyfer y dyfodol, ac am osod sylfeini ar gyfer twf.”
Yn 1981, bu trafodaeth o fewn Plaid Cymru ynglŷn â sosialaeth ac roedd Owen John Thomas yn un o’r rhai oedd yn benderfynol y dylai’r Blaid arddel sosialaeth fel rhan o’i hamcanion.
Treuliodd Cynog Dafis ac Owen John Thomas bedair blynedd yn Aelodau o’r Cynulliad efo’i gilydd, ac mae gan Cynog Dafis gof arbennig o falchder ei gyd-aelod o’r etholiad.
“Pan oedd e’n siarad o’r llawr, roedd e’n siaradwr huawdl, yn gadarn ei farn ac yn hyderus ynghylch yr achos cenedlaethol ac achos Plaid Cymru,” meddai.
“Roedd e’n un o hoelion wyth Plaid Cymru, wedi gwneud gwaith gwych iawn, iawn, ac wedi dal ati ar hyd ei oes nes bod e yr hen ddementia wedi mynd arno fe yn y diwedd.”
‘Un o’r canfaswyr gorau’
Un arall oedd yno yn yr un cyfnod oedd Rhodri Glyn Thomas, cyn-Aelod Cynulliad dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Bu’n Aelod rhwng 1999 a 2016.
“Mae rhywun yn cofio Owen John oherwydd, yn bennaf, ei frwdfrydedd,” meddai wrth golwg360.
“Roedd e’n frwdfrydig iawn dros ddysgwyr, ac i sicrhau bod pobol yn cael cyfle i ddysgu’r Gymraeg, yn enwedig rhoi cyfleoedd i bobol ifanc.
“Fe oedd un o’r bobol sefydlodd Clwb Ifor Bach, ac roedd e’n aelod brwdfrydig iawn o Blaid Cymru – yn un o’r canfaswyr gorau mae rhywun wedi cael cyfle i gydweithio gyda fe erioed.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n cofio’r brwdfrydedd a’r ymroddiad hwnnw gan Gymro oedd wedi dysgu’r iaith ei hun, ond oedd am rannu honno gyda chynifer o bobol â phosib.”
‘Brwdfrydedd heintus’
Un fu’n ymwneud â dysgwyr yn yr un cyfnod yw Heini Gruffudd, sydd yn edmygu gwaith Owen John Thomas ym maes iaith a’r Gymraeg.
“Roeddwn i’n ei adnabod e ers blynyddoedd maith yn ôl drwy’r Blaid, a gwybod amdano fe fel cenedlaetholwr o Gaerdydd ag acen Caerdydd yn drwm ar ei lefaredd – a hefyd brwdfrydedd cwbl heintus a chred hollol ddiysgog yng Nghymru a’r Gymraeg a’r hyn oedd angen ei wneud,” meddai cadeirydd Dyfodol i’r Iaith wrth golwg360.
“Bydde fe wedi dysgu’r iaith, wrth gwrs, ac yn perthyn i genhedlaeth newydd o rai di-Gymraeg oedd yn rhoi i Gymru.
“Fysen i, fel un oedd yn ymwneud â dysgwyr hefyd yn y cyfnod yna, yn ei edmygu fe’n enfawr am yr hyn oedd e’n ei wneud.
“[Roeddwn i wedi] dod i wybod am ei waith e am hanes y Gymraeg yng Nghaerdydd, a’r ysfa ynddo fe i bawb i wybod bod gan Gaerdydd hanes gwahanol i’r hanes o Seisnigo mawr.”
Rhoddodd ei fywyd dros Gymru a’r iaith yng Nghaerdydd, meddai wedyn.
“Wedyn roedd e’n un o aelodau cynnar y Blaid yn y Senedd, ac yn perthyn i do arbennig iawn yn y blynyddoedd cynnar.
“Roedd gyda chi Owen John Thomas oedd yn arbennig am ei frwdfrydedd heintus a’i allu fe i gyfathrebu gyda’r werin a’r dosbarth gweithiol, a’r Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd.”
‘Gweithio’n ddiflino’ dros Addysg Gymraeg’
Cyn mynd yn Aelod Cynulliad, roedd Owen John Thomas yn Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gynradd Gladstone yng Nghaerdydd, a bu’n gadeirydd cangen Caerdydd o undeb addysg UCAC.
Yn ogystal â bod yn ymgyrchydd dros addysg Gymraeg yn y brifddinas, Owen John Thomas oedd yn gyfrifol am enwi nifer o ysgolion Caerdydd, diolch i’w wybodaeth am ei hanes.
“Roedd e’n ddiflino’n gweithio, ac fe gaethon ni sawl ymgyrch ar gyfer gwahanol ysgolion,” meddai Michael Jones, fu’n gweithio gydag Owen John Thomas ar ymgyrchoedd Rhieni Dros Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, wrth golwg360.
“Am ei fod e’n wleidydd yn ogystal â gweithiwr dros addysg, roedd ganddo gysylltiadau ac roedd e’n gallu cael dylanwad ar bobol i wneud pethau.
“Doedd y Cyngor Sir ddim yn licio bod e’n ymdrechu a fe’n was iddyn nhw fel Dirprwy Brifathro, ond doedd hynny ddim yn mennu dim arno fe.
“Roedd e’n ymladd ta beth!”