Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n galw am greu Gweinidog ar gyfer Babanod, Plant a Phobol Ifanc i helpu i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru.
Wrth siarad yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Mai 14), dywedodd Jane Dodds, arweinydd y blaid, fod ymdrechion presennol Cymru i ddileu tlodi plant “heb unrhyw fath o arweinyddiaeth ddifrifol”.
Yn ôl ymchwil y blaid, mae lefelau tlodi plant mewn gwledydd lle mae Gweinidog Plant penodedig – fel Iwerddon, Seland Newydd a Norwy – yn is nag yng Nghymru.
- Cyfradd tlodi plant o 14.3% yn Iwerddon – Gweinidog Plant, Cydraddoldeb, Anabledd, Integreiddio ac Ieuenctid
- Cyfradd tlodi plant o 2.6% yn Seland Newydd – Gweinidog Plant ac Atal Trais Teuluol a Rhywiol
- Cyfradd tlodi plant o 11.3% yn Norwy – Gweinidog Plant a Theuluoedd
- Cyfradd tlodi plant o 29% yng Nghymru – dim Gweinidog ar hyn o bryd.
“Mae’n sefyllfa drist pan fo dros chwarter ein plant yn byw mewn tlodi, ystadegyn ddylai fod yn staen ar record y llywodraeth hon,” meddai Jane Dodds.
“Nid oes gan ein hymdrech bresennol yng Nghymru unrhyw fath o arweinyddiaeth ddifrifol na chydlyniant strategol, gyda chyfrifoldebau wedi’u gwasgaru rydym yn wynebu brwydr hir.
“Rhaid i ni ddysgu gan wledydd sy’n llwyddo yn y frwydr yn erbyn tlodi plant – fel Iwerddon, Seland Newydd, a Norwy.
“Mae gan bob un Gweinidog Plant ymroddedig sy’n arwain eu strategaeth tlodi plant uchel ei pharch ac, yn hollbwysig, maen nhw i gyd yn perfformio’n well na Chymru gyda chyfraddau tlodi llawer is.
“Heb Weinidog ymroddedig yn arwain ymdrechion i ddileu tlodi, byddwn ni yma yng Nghymru yn parhau i syfrdanu’n ddi-glem yn y tywyllwch.”