Bydd cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynllun i helpu i amddiffyn plant rhag niwed ysmygu a rhag datblygu dibyniaeth ar nicotin yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mai 15).

Fe wnaeth Deddf Iechyd Cyhoeddus Cymru 2017 baratoi’r ffordd ar gyfer Cofrestr Manwerthu Tybaco a Nicotin i Gymru, ond chafodd y gofrestr mo’i gweithredu erioed.

Yn ôl ASH Cymru, yn y saith mlynedd ers hynny, bydd 20,000 o blant yng Nghymru wedi ysmygu eu sigarét gyntaf.

Ac erbyn hyn, gallai 15,000 ohonyn nhw fod ar eu ffordd i fod yn gaeth i ysmygu yn y tymor hir.

Cefndir

Yng Nghymru, mae busnesau sydd angen trwydded neu gofrestriad ar hyn o bryd er mwyn gweithredu yn cynnwys cwmnïau tacsi, siopau trin gwallt, siopau tatŵ ac unrhyw un sy’n gwerthu alcohol.

Ar hyn o bryd, does dim gofyniad o’r fath ar gyfer y rhai sy’n gwerthu sigaréts neu fêps.

Byddai’n caniatáu monitro a rheoli’r holl fanwerthwyr sy’n gwerthu sigaréts a fêps yng Nghymru yn llawer agosach, gan ei gwneud yn bosib diogelu ardaloedd risg uchel fel ysgolion.

Byddai cofrestr fanwerthu hefyd yn hwyluso cyfathrebu agosach a chyflymach rhwng manwerthwyr tybaco a sigaréts Cymreig gydag asiantaethau fel Safonau Masnach, gan gydweithio i gael gwared ar fasnachu anghyfreithlon, medd yr elusen.

Galwad ‘syml’ ond ‘pwysig’

Bydd y cynnig gan Mabon ap Gwynfor o Blaid Cymru, ar y cyd â John Griffiths (Llafur) ac Altaf Hussein (Ceidwadwyr Cymreig), yn cael ei drafod yn y Senedd heddiw.

“Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno cofrestr manwerthu ar gyfer tybaco a nicotin,” meddai Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.

“Mae’n alwad syml, a phasiwyd y ddeddfwriaeth flynyddoedd yn ôl i ganiatau hyn i ddigwydd, felly nid yw’n fater dadleuol.

“Mewn gwirionedd, mae wedi’i gefnogi gan y mwyafrif helaeth o’r cyhoedd yng Nghymru, a gwyddom drwy gyflwyno cofrestr fanwerthu y gallai hyn gael effaith fuddiol iawn ar iechyd pobol, yn enwedig plant yng Nghymru.

“Mae’r gwaith sydd wedi’i wneud gan ASH Cymru yn dangos fod ysmygu yn gaethiwed plentyndod gyda’r mwyafrif o ysmygwyr wedi dechrau ysmygu pan oedden nhw’n blant.

“Dros y blynyddoedd, mae rheoleiddio a chyfreithiau ar hyrwyddo a phris sigaréts wedi chwarae rhan enfawr mewn rheoli tybaco.

“Ond yn y farchnad heddiw, gyda’r ffrwydrad mewn allfeydd manwerthu anghofrestredig ac ymchwydd mewn fêps ymysg yr ieuenctid, mae angen dull newydd o weithredu a rhaid i ni gwrdd â maint yr her gynyddol hon.

“Hyd yn hyn, mae mynd i’r afael ag argaeledd sigaréts a fêps wedi bod yn wael iawn.

“Bydd cofrestr fanwerthu i Gymru yn helpu i fynd i’r afael â’r bwlch hwnnw.”

‘Eithaf brawychus’

“Yn fy rôl fel Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd, rwy’n ymweld â’n hysgolion lleol, cynradd ac uwchradd, yn rheolaidd,” meddai John Griffiths.

“Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn arbennig, mae wedi dod yn eithaf brawychus clywed gan athrawon a myfyrwyr eu hunain am nifer y bobol ifanc sy’n defnyddio sigaréts a fêps.

“Maen nhw wedi dod yn llawer rhy hawdd i’w cael, yn gyfreithiol ac yn anghyfreithlon.

“Mae angen amddiffyniadau cryfach ar waith.

“Yn syml, dydyn ni ddim yn gwybod beth sydd yn y fêps anghyfreithlon sy’n cael eu gwerthu i’n pobol ifanc.

“Cefais sioc o ddysgu’n ddiweddar am rai o’r metelau peryglus sy’n cael eu canfod ynddyn nhw.

“Byddai cyflwyno Cofrestr Manwerthu Tybaco a Nicotin yn gam pwysig wrth weithredu i amddiffyn ein pobol ifanc.”