Mae menywod yn dweud eu bod nhw wedi’u siomi gan ymateb Llywodraeth Cymru i’w pryderon am driniaethau canser gynaecolegol.

Wrth ymateb i adroddiad gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, dywed Llywodraeth Cymru fod y “mwyafrif helaeth o’r rhai sy’n derbyn gofal canser gynaecolegol yn adrodd am lefelau uchel o fodlonrwydd cleifion â gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gyson”.

Yn ôl y pwyllgor, mae’r sylwadau wedi peri “syndod a siom” i rai o’r bobol roddodd dystiolaeth i ymchwiliad gwreiddiol y pwyllgor.

Dywed Sioned Cash o Ynys Môn – gollodd ei mam, Judith Rowlands, yn fuan ar ôl i’w thystiolaeth gael ei dangos i’r Pwyllgor – fod sylwadau Eluned Morgan, yr Ysgrifennydd Iechyd, yn “gosod naws sy’n diystyru bod yna unrhyw broblemau o gwbl”.

Ychwanega Claire O’Shea, sydd â math prin o ganser o’r enw Leiomyosarcoma y Groth, ei bod hi hefyd yn amheus o’r honiadau.

“Fel claf, nid oes, ar unrhyw adeg, unrhyw gwestiwn wedi cael ei ofyn i mi am fy moddhad â’r gwasanaethau a gefais,” meddai.

“Dw i’n siomedig iawn gyda naws [yr ymateb] a’r diffyg ymrwymiadau pendant i unrhyw newid trawsnewidiol i fynd i’r afael â’r heriau a bodloni anghenion menywod yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.”

Bob blwyddyn, mae tua 1,200 o bobol yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol yng Nghymru, ac mae tua 470 o bobol yn marw yn sgil y math yma o ganser bob blwyddyn.

Mae’r cyfraddau marwolaeth yn uwch yng Nghymru na chyfartaledd y Deyrnas Unedig.

‘Un o’r ymchwiliadau mwyaf emosiynol’

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod ar lawr y Senedd brynhawn heddiw (dydd Mercher, Mai 15), pan fydd Eluned Morgan yn cael ei galw i ymhelaethu ar rai o’i hymatebion ac i ystyried adborth y menywod.

Russell George, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd, ydy Cadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, a dywed ei fod yn gobeithio y bydd Eluned Morgan yn ystyried sylwadau’r menywod ac yn cynnig “rhywfaint o sicrwydd” i’r rhai fu’n rhannu eu profiadau.

“Yn yr ymateb gan Lywodraeth Cymru mae sawl maes y mae angen edrych yn ofalus ac yn fanylach arnynt yn ystod y ddadl hon,” meddai cynrychiolydd etholaeth Sir Drefaldwyn yn y Senedd.

“Mae’r oedi i gyflawni Cynllun Iechyd Menywod Cymru, y gwaith i adfer gwasanaethau ar ôl y pandemig Covid-19 a’r nifer annerbyniol o bobl sy’n cael diagnosis drwy gael eu derbyn fel achosion brys oll yn peri pryder.

“Yn arwyddocaol, er i Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn 24 o argymhellion ein hadroddiad, naill ai’n llawn neu’n rhannol, nid yw ei hymateb yn ymrwymo i ddarparu unrhyw gyllid ychwanegol.

“Yn bersonol, yr ymchwiliad hwn fu un o’r ymchwiliadau mwyaf emosiynol i mi fod yn rhan ohono yn fy amser fel Aelod o’r Senedd.

“Hoffwn ailadrodd fy ngwerthfawrogiad a’m diolch i’r holl fenywod anhygoel a’n cynorthwyodd gyda’n gwaith.

“Rwy’n gobeithio y bydd ein hadroddiad yn sicrhau’r newidiadau y mae dirfawr eu hangen i wella profiadau menywod yn y dyfodol.”