Mae menter newydd gan Drafnidiaeth Cymru’n helpu i fagu hyder pobol â nam ar eu golwg wrth iddyn nhw deithio.

Mae Cymdeithion Teithio bellach ar gael ym mhrif orsafoedd Cymru, gan gynnwys Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd, yn ogystal ag Amwythig a Chaer.

Fis yma, fe fu aelodau o Guide Dogs Cymru yn cyfarfod â’r tîm Cymdeithion Teithio, sydd wedi cael hyfforddiant arbenigol, er mwyn deall eu rôl.

Mae’r cynllun newydd yn rhan o gynllun ehangach i fagu hyder teithwyr, sy’n anelu i gefnogi pobol nad ydyn nhw’n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd, neu sydd angen cymorth ychwanegol wrth deithio.

Mae’r tîm yn cydweithio â grwpiau cymorth lleol er mwyn magu profiad, gwybodaeth a hyder.

‘Byd o wahaniaeth’

“Mae’r fenter wych yma yn rhoi cymorth ychwanegol i bobol â nam ar eu golwg,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Trafnidiaeth Cymru.

“Gall gwybod fod cymorth ar gael gwneud byd o wahaniaeth.”

Yn ôl Andrea Gordon, Rheolwr Materion Allanol Guide Dogs Cymru, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn “hanfodol” i bobol â nam ar eu golwg neu sydd wedi colli eu golwg, er mwyn “byw byw fel maen nhw’n dymuno”.

“Gall cael ci tywys agor byd hollol newydd o bosibiliadau teithio annibynnol ond, o ran teithiau trên, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar y perchennog i gael mynediad i’r orsaf a dod o hyd i’w trên,” meddai.

“Efallai y bydd angen help neu gyngor arnyn nhw hefyd yn ystod eu taith.

“Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun Cymdeithion Teithio yn helpu i wneud teithio ar drên yn brofiad gwell iddyn nhw.”