Mae’r cwest i farwolaeth Christopher Kapessa wedi clywed ei fod e wedi cael ei wthio i mewn i afon.

Bu farw’r bachgen 13 oed ar ôl cael ei dynnu o afon Cynon ar Orffennaf 1, 2019, a doedd e ddim yn nofiwr hyderus, yn ôl ei fam Alina Joseph.

Daeth y gwasanaethau brys o hyd iddo fe a’i dynnu o’r dŵr cyn ei gludo i’r ysbyty ym Merthyr Tudful, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei fam yn cyhuddo’r heddlu o hiliaeth sefydliadol yn y modd yr aethon nhw ati i ymchwilio i farwolaeth ei mab, gan honni bod yr ymchwiliad wedi dod i ben yn sydyn ar ôl iddyn nhw benderfynu mai damwain oedd y digwyddiad.

Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn 2022 nad oedd cyfiawnhad dros erlyn llanc oedd wedi’i amau o wthio’r bachgen i’r afon, ond fe wnaeth ei fam herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys a cholli’r achos hwnnw yn y pen draw.

Tystiolaeth gerbron y cwest

Mae’r cwest wedi clywed bod Christopher Kapessa a chriw o’i ffrindiau wedi penderfynu mynd i’r afon, a bod nifer ohonyn nhw wedi neidio i’r dŵr.

Roedd y bachgen i’w weld ar ymyl y dibyn, ac yn cael ei wthio i mewn gan lanc arall.

Ond clywodd y cwest nad oedd nifer o’r criw yn gwybod nad oedd e’n gallu nofio, a’u bod nhw wedi mynd i “banig” ond nid ar unwaith.

Neidiodd tri bachgen arall i mewn i’r afon i geisio’i achub, ac aeth un i’r ysbyty ar ei feic i geisio cymorth.

Wrth ddisgrifio’r weithred o’i wthio i’r afon, dywedodd un o’r criw nad oedden nhw o’r farn ei bod yn weithred faleisus.

Mae disgwyl i’r cwest yn Llys Crwner Pontypridd bara deng niwrnod.