Mae Dr Rhodri Llwyd Morgan wedi’i benodi’n Brif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’n olynu’r Athro Pedr ap Llwyd, sy’n ymddeol ar ôl pum mlynedd yn y swydd.
Bydd y Prif Weithredwr newydd yn dechrau yn ei swydd yn y gwanwyn, gan symud o fod yn Gyfarwyddwr y Gymraeg, Diwylliant Cymru a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae ganddo fe brofiad helaeth o’r sector addysg uwch, y Gymraeg a diwylliant, ac o ddatblygu a chyflwyno cynlluniau uchelgeisiol, yn ôl y Llyfrgell Genedlaethol.
Roedd yn gyfrifol am brosiect Bywyd Newydd i’r Hen Goleg ar ran Prifysgol Aberystwyth, sydd ar waith ar hyn o bryd ac a fydd yn newid yr adeilad rhestredig Gradd 1 yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol.
Roedd hefyd yn gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Mudiad Meithrin am chwe mlynedd, ac yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg (Llywodraeth Cymru) am ddeng mlynedd.
Cafodd ei addysg yn ne sir Ceredigion, ac enillodd radd mewn Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, ynghyd â Diploma mewn Llyfrgellyddiaeth, cyn cwblhau Gradd Meistr a Doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
‘Un o sefydliadau blaenllaw y genedl’
“Heb os mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o sefydliadau blaenllaw y genedl, ac mae’n fraint enfawr i gael fy mhenodi yn Brif Weithredwr,” meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan.
“Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weithio gyda staff, ymddiriedolwyr, a phartneriaid y Llyfrgell ac i hyrwyddo’i chenhadaeth ymhlith pobol Cymru a thu hwnt.
“Oes, mae heriau i fynd i’r afael â nhw, a’r amlycaf yn eu plith yw’r wasgfa ariannol sy’n effeithio ar bawb.
“Ond mae yna gyfleoedd yn ogystal wrth hybu ein diwylliant yn ei holl amrywiaeth cyfoethog ac wrth fynd ag arbenigedd ac adnoddau anhygoel y Llyfrgell i feysydd ac i gynulleidfaoedd newydd.”
‘Unigolyn sy’n deall y Llyfrgell a’i harwyddocâd’
Mae Ashok Ahir, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol, wedi croesawu Dr Rhodri Llwyd Morgan i’r swydd.
“Rydym yn falch iawn o benodi Rhodri Llwyd Morgan yn y rôl allweddol hon ac yn edrych ymlaen yn fawr fel Bwrdd at gael cydweithio i barhau i siapio y Llyfrgell ar gyfer y dyfodol,” meddai.
“Mae’n unigolyn sy’n deall y Llyfrgell a’i harwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol, ac sydd yn brofiadol mewn arwain ar lefel uchel mewn nifer o feysydd.
“Bydd ei brofiad fel arweinydd yn dangos y ffordd i’n staff ymroddedig mewn cyfnod o newid i’n sefydliad ac i’r sector.”