Daeth cadarnhad y bydd Paula Vennells, cyn-Brif Weithredwr Swyddfa’r Post, yn dychwelyd ei CBE.
Mae hi wedi bod dan y lach eto’n ddiweddar yn dilyn darlledu drama gan ITV sy’n trafod helynt rhaglen gyfrifo Horizon, arweiniodd at garcharu tua 700 o is-bostfeistri ar gam ar ôl iddyn nhw gael eu cyhuddo o ddwyn arian trwy dwyll.
Daeth i’r amlwg yn ddiweddarach mai rhaglen gyfrifiadurol Horizon gan Fujitsu oedd ar fai, ac mae rhai o’r bobol gafodd eu carcharu wedi’u cael yn ddieuog erbyn hyn, gyda rhai ohonyn nhw wedi derbyn iawndal ac eraill yn dal i aros.
Roedd Vennells wrth y llyw rhwng 2012 a 2019, ac roedd mwy nag 1.2m o bobol wedi llofnodi deiseb yn pwyso arni i ddychwelyd ei hanrhydedd.
Mae hi wedi “ymddiheuro’n daer” am ei rhan yn yr helynt.
Daeth i’r amlwg bellach hefyd ei bod hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer rôl Esgob Llundain ar ôl mynd i weithio i’r Eglwys.
Sgandal Swyddfa’r Post: Miliwn o bobol am i CBE Paula Vennells gael ei dynnu oddi wrthi