Byddai uno’r holl fudd-daliadau sydd ar gael drwy Lywodraeth Cymru dan un System Fudd-daliadau Gymreig yn codi ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael, yn ôl un felin drafod.
Mae ymchwil diweddaraf Sefydliad Bevan yn dangos mai dim ond dau ym mhob saith person yng Nghymru sy’n gwybod am fudd-daliadau sydd wedi’u datganoli i Gymru.
Er bod nifer o’r grymoedd dros fudd-daliadau yn nwylo San Steffan, mae gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol bwerau dros grantiau a budd-daliadau fel Prydau Ysgol am Ddim a Gostyngiad Treth Cyngor.
Llynedd, fe wnaeth ymchwil gan Policy Practice, ar ran Sefydliad Bevan, ddangos nad ydy tua £75m yn cael ei wario bob blwyddyn yng Nghymru, gan nad ydy pobol yn hawlio’r arian drwy fudd-daliadau a grantiau.
“Be’ fydden i’n hoffi gweld yw bod yr holl wahanol grantiau a budd-daliadau sydd ar gael ar y foment, pethau fel cymorth gyda’r dreth gyngor neu ginio ysgol am ddim, i gyd yn cael eu tynnu i un man,” meddai Dr Steffan Evans, Pennaeth Polisi (Tlodi) Sefydliad Bevan, wrth golwg360.
“O brofiad y person sy’n gwneud cais am y budd-dal, fyddan nhw ond yn gorfod llenwi un ffurflen, a byddan nhw’n cael gafael ar bopeth wedyn o’r man yna; os ydyn nhw eisiau gwneud cais am gymorth gyda’u treth cyngor lleol, eu bod nhw hefyd yn gallu cael mynediad i bopeth arall yn yr un man.”
Byddai uno’r holl fudd-daliadau yn codi ymwybyddiaeth ac yn cael gwared ar y cymhlethdod yn y system, meddai.
“Rydyn ni’n gwybod fod yna nifer fawr o bobol ddim yn gwybod ar hyn o bryd beth maen nhw’n gymwys amdano, achos bod cymaint o gymhlethdod yn y system.
“Dywedodd un person wrthym ni fod yna gymaint o wahanol gynlluniau efo gymaint o wahanol enwau, does dim cliw gyda nhw ble i ddechrau.
“Mae yna lwyth o dystiolaeth yn dangos y mwyaf o ffurflenni cais sydd a’r mwyaf cymhleth ydy’r ffurflenni cais, y lleiaf tebygol ydyn nhw i fynd drwy’r broses a chwblhau’r gwaith hynny.”
Adolygu’r meini prawf
Ar ben hynny, mae angen edrych eto ar y meini prawf ar gyfer ambell fudd-dal, meddai Dr Steffan Evans, gan gyfeirio’n benodol at gymorth i brynu gwisg ysgol a chael cinio ysgol am ddim.
Incwm o £7,400 y flwyddyn ydy’r trothwy ar gyfer cael gwisg ysgol a chinio ysgol am ddim.
“Un o’r gwendidau ar y foment yw bod lot o’r meini prawf wedi cael eu sefydlu ar lefel incwm sy’n fixed,” meddai.
“Os oes unrhyw un yn eich cartref yn ennill mwy na £7,400 y flwyddyn, dydych chi ddim yn gymwys i dderbyn y cymorth gyda gwisg ysgol.
“Pan gafodd y cap yna ei gyflwyno gyntaf, byddai rhywun wedi gorfod gweithio 17 awr ar isafswm cyflog cyn eu bod nhw’n mynd dros y trothwy yna.
“Wrth ein bod ni wedi gweld chwyddiant, mae cyflogau pobol wedi codi. Os oes rhywun bellach yn gweithio ar isafswm incwm bydden nhw ond yn gorfod gweithio 13.5 o oriau cyn eu bod nhw bellach ddim yn gymwys amdano fe. Mae hwnna’n fwlch sylweddol, yn amlwg.
“I roi hwnna mewn cyd-destun, bellach, byddai unrhyw riant sy’n gweithio digon o oriau i fod yn gymwys am ofal plant am ddim yn rhy gyfoethog i gael cymorth gyda’u gwisg ysgol neu i gael cinio ysgol am ddim.
“Yn ôl diffiniad Llywodraeth Cymru o ‘riant sy’n gweithio’, does yna ddim un ‘rhiant sy’n gweithio’ bellach yn gallu cael cinio ysgol am ddim neu gymorth gyda gwisg ysgol.”
Ychwanega Steffan Evans fod angen mecanwaith fyddai’n caniatáu i’r meini prawf gael eu hadolygu bob blwyddyn.
“Does yna ddim yr un mecanwaith mewn lle gyda lot o’r budd-daliadau yma, ac mae hwnna’n rywbeth sydd ddigon rhwydd i’w roi mewn lle, ac mae’n rywbeth mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn galw ar Lywodraeth San Steffan i’w wneud gyda’u budd-daliadau nhw.
“Mae yna elfen yna o roi ar waith rai o’r pethau rydyn ni’n gofyn i San Steffan eu gwneud.”
‘Dweud eu stori unwaith’
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau allweddol, gan gynnwys Sefydliad Bevan, i greu system fudd-daliadau mwy cydgysylltiedig yng Nghymru, lle mai dim ond unwaith fyddai’n rhaid i berson ddweud eu stori er mwyn cael mynediad i’w hawliau.
“Byddwn yn gwneud cyhoeddiad yn fuan ar sefydlu Siarter Budd-daliadau Cymru a hoffem ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ar y gwaith hwn hyd yn hyn,” meddai.