Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai Nia Bennett yw cadeirydd newydd eu Bwrdd Ymddiriedolwyr a Rheoli.

Mae’n cymryd yr awenau fel cadeirydd yr Urdd gan Dyfrig Davies, sy’n camu o’r rôl ar ôl chwe mlynedd wrth y llyw.

Yn ogystal, mae dau berson ifanc wedi’u penodi’n ymddiriedolwyr ifainc.

Derbyniodd yr Urdd 22 o geisiadau gan bobol ifanc 18-25 oed ledled Cymru oedd yn awyddus i wasanaethu Bwrdd Ymddiriedolwyr y mudiad, ac Emily Pemberton a Deio Siôn Llewelyn Owen sydd wedi’u penodi.

Croesawu’r cadeirydd newydd

Cafodd Nia Bennett ei geni yn Bolton yng ngogledd-orllewin Lloegr, a’i magu yn Llanfairpwll ar Ynys Môn.

Wedi cyfnodau’n byw yn Aberystwyth, Y Felinheli a Brwsel, ymgartrefodd yng Nghaerdydd, lle magodd hi dri o blant.

Gweithiodd ym maes Cynhwysiant ac Adnoddau Dynol cyn cael ei phenodi’n Gyfarwyddwr Corfforaethol.

Erbyn hyn, mae hi’n Gyfarwyddwr cwmni effectusHR, ac yn ymgymryd â gwaith prosiectau Adnoddau Dynol ac Anogi Uwch Reolwyr.

Bu iddi ymgymryd â sawl rôl wirfoddol gyda Chylch Meithrin Nant Lleucu yn y Rhath yng Nghaerdydd, a bu’n Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol y Berllan Deg.

Yn ogystal, bu’n aelod o Banel Adnoddau Dynol yr Urdd ers 2011, ac yn gadeirydd y panel ers 2018.

Cafodd ei hethol yn aelod o Bwyllgor Gwaith Gweithredol yr Urdd yn 2020, ac yn ymddiriedolwr yn 2021.

“Rwy’n awyddus i sicrhau bod yr Urdd yn gwbl gynhwysol, yn ymestyn ei gyrhaeddiad ac yn parhau i ddatblygu a gweithredu ar syniadau ein pobol ifanc,” meddai.

“Drwy gynnig cyfleoedd i bawb – beth bynnag eu cefndir – i ehangu eu sgiliau a’u profiadau, rydym yn cyfrannu at ddatblygiad Cymry’r dyfodol, a thrwy hynny dyfodol Cymru.”

Penodi dau berson ifanc i Fwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd

Daw Emily Pemberton o Grangetown yng Nghaerdydd, ac mae’n gweithio fel Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth, a Gwrth-hiliaeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Yn aelod o’r Urdd ers dyddiau ysgol, cyfrannodd at Neges Heddwch ac Ewyllys Da’r Urdd 2023, a thrwy hynny bu’n ymweld ag Alabama union 60 mlynedd ar ôl ffrwydrad Eglwys y Bedyddwyr ar 16th Street yn Birmingham, er mwyn adeiladu ar y berthynas rhwng y ddinas a Chymru.

“Diolch i’r Urdd, gawsom ni brofiadau unigryw iawn yn Alabama wrth i ni ddysgu a dod yn ymgyrchwyr dros wrth-hiliaeth ar y lefel rhyngwladol,” meddai.

“Dydw i methu meddwl am unrhyw brofiad arall gall fod mor werthfawr i unigolyn o fy nghefndir fel menyw Du Cymraeg.

“Dw i wedi fy ysbrydoli gan yr hyn sydd gan yr Urdd ar waith, a hoffwn barhau i godi statws yr agenda cydraddoldeb er mwyn gweithio tuag at Gymru lle mae’n pobol ifanc yn ddinasyddion byd-eang, yn profi cenedl well, ac yn ffynnu.”

Yn wreiddiol o gyrion Pwllheli ym Mhenrhyn Llŷn, mae Deio Siôn Llewelyn Owen bellach yn byw yn y brifddinas, a fe yw Is-Lywydd Iaith Diwylliant a Chymuned Cymru cyntaf Undeb Myfyrwyr Caerdydd, lle mae hefyd yn ymddiriedolwr yn yr Undeb ac ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae ei brofiadau o fod yn aelod o’r Urdd yn amrywio o glybiau ar ôl ysgol i gystadlaethau chwaraeon, cystadlu yn yr eisteddfod fel disgybl ysgol gynradd a myfyriwr prifysgol.

“Mae cael bod yn aelod o’r Urdd dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy i fi, ac wrth gamu fewn i’w ail ganrif o fodolaeth, rwyf am weld y Mudiad yn parhau i ffynnu ac ehangu gorwelion cynifer o blant a phobl ifanc â phosib,” meddai.

‘Parchu lleisiau ein hieuenctid wrth wraidd ein strwythurau newydd’

Yn ôl Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd, mae penodiadau Emily Pemberton a Deio Siôn Llewleyn Owen yn golygu bod 38% o aelodau byrddau’r mudiad bellach rhwng 18 a 25 oed.

“Rydym yn falch iawn o groesawu Nia Bennett i gadeirio Bwrdd yr Urdd ac i adeiladu ar y cyfraniad enfawr a wnaed gan Dyfrig Davies, sydd wedi cefnogi’r Urdd drwy newidiadau Llywodraethiant sylweddol,” meddai.

“Hoffwn hefyd estyn croeso cynnes i Emily a Deio i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Mudiad.

“Wrth i’r Urdd ddatblygu a ffynnu, mae’r penodiadau newydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau â’n taith o fod yn sefydliad blaengar.

“Mae amrywiaeth o safbwyntiau, ystwythder yn ein penderfyniadau ac ystod eang o sgiliau perthnasol yn hanfodol i gyflawni ein strategaeth ‘Urdd i Bawb’.

“Yn dilyn deunaw mis o drafod, ymgynghori a diwygio mae strwythur Llywodraethiant newydd yr Urdd eisoes yn ei le.

“Drwy agor y rhwyd yn ehangach rydym wedi croesawu dros 70 aelod newydd i’n Byrddau Strategol, er mwyn sicrhau fod gennym yr arbenigedd angenrheidiol i gefnogi gwaith y Mudiad wrth symud ymlaen.

“Mae parchu lleisiau ein hieuenctid wrth wraidd ein strwythurau newydd, felly yn ogystal â phenodi dau Ymddiriedolwr Ifanc newydd, mae 38% o aelodau ein Byrddau bellach rhwng 18 a 25 oed ac yn ganolog i drafodaethau a chyfeiriad yr Urdd i’r dyfodol.”