Mae angen Prif Weinidog ar Gymru sy’n “fodlon cymryd cyfeiriad newydd beiddgar a dewr”, yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi i’r ddau yn y ras i olynu Mark Drakeford amlinellu eu haddewidion ar gyfer y rôl.
Dros y penwythnos, amlinellodd Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, ei gynlluniau pe bai’n cael ei ethol yn Brif Weinidog Cymru.
Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, hefyd wedi rhannu ambell addewid, ond mae mwy i ddod, meddai.
Yn ôl Jane Dodds, nawr yw’r amser am ddewrder a gweledigaeth newydd i Gymru gan y Prif Weinidog nesaf.
Addewidion Jeremy Miles
Ymhlith cynlluniau Jeremy Miles mae gwario mwy o arian ar ysgolion, a chynnig cymorth ymarferol i dorri amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy sefydlu canolfannau triniaeth orthopedig arbennig.
Wrth lansio’i ymgyrch yn swyddogol yn Abertawe, amlinellodd e chwe addewid o ran yr economi, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ysgolion, tai, trafnidiaeth a chryfhau democratiaeth yng Nghymru.
Y chwe addewid fydd ei flaenoriaethau ar gyfer Llywodraeth Lafur Cymru hyd at y tymor nesaf yn y Senedd, sef:
- hwb i economi werdd
- buddsoddi mewn addysg
- torri amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
- tai da yng nghymunedau Cymru
- gwella trafnidiaeth a chostau teithio
- llais cryfach i bobol Cymru a chryfhau datganoli
‘Siarad gwag’
Un sydd wedi ymateb yn chwyrn i’r addewid i fuddsoddi mewn addysg yw Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dyma siarad gwag gan y dyn wnaeth dorri’r gyllideb addysg tra yn gyfrifol amdani,” meddai.
“Mae e wedi peryglu dyfodol ein pobol ifanc drwy fethu â mynd i’r afael â’r argyfwng recriwtio athrawon, gweithredu cwricwlwm diangen, ac mae wedi methu â rhoi diwedd ar drais mewn ysgolion.
“Byddai’r Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi’r genhedlaeth nesaf yn gyntaf ac yn darparu 5,000 o athrawon ychwanegol.”
Addewidion Vaughan Gething
Hyd yn hyn, mae Vaughan Gething wedi rhannu cip ar ei weledigaeth, gan ddweud na fyddai fyth yn preifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol pe bai’n Brif Weinidog.
Mae hefyd yn addo na fyddai gwariant y pen ar ofal iechyd yng Nghymru fyth yn disgyn o dan lefelau gwariant Lloegr.
Daw hyn wrth iddo gyhoeddi Cyfamod Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru, sef yr egwyddorion fyddai’n sail i holl bolisïau iechyd Llywodraeth Lafur Cymru yn y dyfodol.
Mae ei weledigaeth hefyd yn cynnwys canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymreig a chanlyniadau er mwyn creu Gwasanaeth Iechyd cwbl unigryw i Gymru, ar sail egwyddorion Aneurin Bevan, sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Yn ogystal, mae’n cyfeirio at gyhoeddi cytundeb partneriaeth newydd gyda’r Gwasanaeth Iechyd, cleifion, undebau a llywodraeth leol er mwyn ateb yr heriau o fewn y maes.
Mae disgwyl y bydd polisïau iechyd a gofal cymdeithasol pellach yn cael eu cyhoeddi gan yr ymgeisydd dros yr wythnosau nesaf.
‘Nid y weledigaeth ar gyfer y dyfodol y mae pobol ei angen yn daer’
Un arall sydd wedi beirniadu gweledigaeth y ddau yw arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.
“Mae dechrau blwyddyn newydd yn dod â chyfle am optimistiaeth o’r newydd,” meddai Jane Dodds.
“A gyda Phrif Weinidog newydd yn cymryd yr awenau yn y gwanwyn sydd i ddod, dylai cyfle i ddull newydd o ymdrin â sut mae Cymru’n cael ei rhedeg fod o gwmpas y gornel mewn theori.
“Yr hyn yr ydym wedi’i glywed gan y ddau ymgeisydd hyd yma yw y byddant yn cymryd yr un dull “steady as she goes“.
“Mwy o dincian, mwy o reolaeth, ac nid y weledigaeth ar gyfer y dyfodol mae pobol ei hangen yn daer.
“Nid ydym am weld mwy o geidwadaeth gan Lafur Cymru, yr hyn sydd ei angen arnom yw Prif Weinidog sy’n barod i gymryd cyfeiriad newydd beiddgar a dewr ar gyfer ein gwlad.
“Mae angen gweledigaeth newydd arnom ar gyfer economi ffyniannus, dechrau newydd i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol, democratiaeth arloesol, a chreu cenedl o ail gyfleoedd lle mae pawb yn cael cyfle i fwrw ymlaen.
“Mae angen bargen deg arnom ar gyfer pob cornel a phob person ar draws ein gwlad.
“Ers llawer rhy hir bellach, mae’r Blaid Lafur wedi sefyll o’r neilltu ac wedi gwylio wrth i’n gwlad, ein llywodraeth, a’n senedd gael eu llusgo i’r mwd gan Lywodraeth Geidwadol yn y Deyrnas Unedig.
“Mae angen Plaid Lafur arnom, ar ddau ben yr M4, sy’n barod i sefyll i fyny a mynnu bod Cymru’n cael ei chyfran deg.
“Dim mwy o dincian am esgusodion a chwilio amdanyn nhw; nawr yw’r amser am ddewrder.”