Mae Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan yn ystyried sut i gyflymu apeliadau’r rhai gafodd eu carcharu ar gam yn sgil helynt Horizon a Swyddfa’r Post.

Daw hyn ar ôl darlledu’r ddrama Mr Bates vs The Post Office ar ITV dros yr wythnos ddiwethaf.

Bydd Alex Chalk yn cyfarfod â barnwyr heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 9) i drafod y mater, wrth i Lywodraeth San Steffan wynebu galwadau i weithredu.

Rhwng 1999 a 2015, cafwyd mwy na 700 o weithwyr Swyddfa’r Post yn euog o dwyll o ganlyniad i nam ar system gyfrifiadurol oedd yn trefnu cyfrifon.

Ers i’r mater ddod o dan y chwyddwydr eto’n ddiweddar, fe fu nifer o gyn-Ysgrifenyddion Cyfiawnder yn galw am gyflwyno deddfwriaeth er mwyn dileu euogfarnau’r gweithwyr, ac mae Kevin Hollinrake, Gweinidog y Post, wedi cyfarfod ag Alex Chalk i drafod y sefyllfa hefyd.

Ymhlith y camau sy’n cael eu hystyried mae cyflwyno deddf sy’n cefnogi’r egwyddor fod unigolion yn ddieuog, yn hytrach na chymryd eu bod nhw’n euog o’r cychwyn cyntaf.

Mae nifer o’r rhai gafodd eu heffeithio eisoes wedi derbyn iawndal, ond mae disgwyl rhagor yn y dyfodol, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd ai cwmni Fujitsu, cynhyrchwyr y rhaglen gyfrifiadurol, fydd yn talu’r swm o arian neu’r trethdalwr.

Hyd yn hyn, dim ond 93 o euogfarnau sydd wedi cael eu gwyrdroi, er i nifer fawr o is-bostfeistri gael eu carcharu neu eu gorfodi i fynd yn fethdal, ac yn yr achosion gwaethaf bu i rai ohonyn nhw ladd eu hunain o ganlyniad i’r straen.

Yn y cyfamser, mae Mel Stride yn dweud y byddai Llywodraeth San Steffan yn cefnogi’r Pwyllgor Dileu Anrhydeddau pe baen nhw’n penderfynu tynnu CBE Paula Vennells, cyn-Brif Weithredwr Swyddfa’r Post, oddi arni. Mae deiseb yn galw am hynny wedi denu miloedd o lofnodion.

Ac mae Syr Ed Davey, oedd yn weinidog y post ar adeg y sgandal, hefyd dan bwysau i ateb cwestiynau ynghylch y mater.

Sgandal Swyddfa’r Post: Miliwn o bobol am i CBE Paula Vennells gael ei dynnu oddi wrthi

Paula Vennells oedd Prif Weithredwr Swyddfa’r Post pan wnaethon nhw gyhuddo 700 o is-bostfeistri o ddwyn, a gwadu fod problemau gyda’r system gyfrifo