Mae mwy na miliwn o bobol bellach wedi llofnodi deiseb yn galw am dynnu CBE cyn-Brif Weithredwr Swyddfa’r Post oddi wrthi yn sgil ei chysylltiad â sgandal Swyddfa’r Post.

Cafodd cannoedd o is-bostfeistri eu cyhuddo ar gam o ddwyn arian yn sgil sgandal Horizon, ac mae drama deledu newydd ar y mater wedi ailsbarduno trafodaethau.

Paula Vennells oedd Prif Weithredwr Swyddfa’r Post pan wnaethon nhw gyhuddo tua 700 o is-bostfeistri o ddwyn, a gwadu bod problemau gyda system gyfrifo Horizon.

Yn eu plith roedd sawl is-bostfeistr o Gymru, gan gynnwys Noel Thomas o Ynys Môn, gafodd ei garcharu ar gam.

Cafodd ei enw e, ac enwau 38 arall, eu clirio yn 2021 gan y Llys Apêl, ac er ei fod bellach wedi derbyn rhywfaint o’i iawndal, mae’n dal i ddisgwyl am y gweddill.

‘Gwneud iawn’

Gan fod y ddeiseb wedi cyrraedd mwy na miliwn o lofnodion, bydd rhaid i anrhydedd CBE Paula Vennells gael ei drafod yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi cadarnhau ei fod yn edrych ar fesurau i glirio enwau’r is-bostfeistri gafodd eu cyhuddo yn y sgandal.

Wrth ymateb, dywed Joel James, llefarydd Partneriaethau Cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, fod hynny i’w groesawu.

“Gyda channoedd o bobol wedi cael eu cyhuddo ar gam a’r sgandal wedi cael effaith mor negyddol arnyn nhw, mae’r llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad cywir i ddod o hyd i ffordd i wneud iawn am y cam ddioddefodd gymaint o bobol,” meddai.

Dydy cyhuddiadau 600 o’r 700 is-bostfeistr gafodd eu cyhuddo o ddwyn, twyll a chadw cofnodion ffug heb gael eu gwyrdroi gan y llys eto.

Sgandal Swyddfa’r Post: Galw am Gyfraith Hillsborough er mwyn atal ymchwiliadau anonest

Catrin Lewis

Mae Aelod o’r Senedd wedi galw am gyflwyno’r gyfraith er mwyn atal ailadrodd anghyfiawnderau fel sgandalau Swyddfa’r Post a Hillsborough

100,000 o lofnodion ar ddeiseb i dynnu CBE cyn-Brif Weithredwr Swyddfa’r Post yn ôl

Mae drama am yr helynt, arweiniodd at garcharu Noel Thomas, yr is-bostfeistr o Fôn, wedi’i darlledu’r wythnos hon