Mae dros 17,000 o anifeiliaid wedi cael eu hailgartrefu yng Nghymru dros y degawd diwethaf, yn ôl yr RSPCA.

Daw’r newyddion wrth i’r elusen sy’n hyrwyddo lles anifeiliaid ddathlu eu pen-blwydd yn 200 oed eleni.

Ledled Cymru, mae tîm o achubwyr RSPCA yn achub anifeiliaid ac yn ymchwilio i greulondeb, a hefyd yn cynnig cyngor lles a chymorth i berchnogion anifeiliaid anwes sydd mewn angen.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y canolfannau wedi dod o hyd i gartrefi newydd ar gyfer 17,669 o anifeiliaid dros gyfnod o ddeng mlynedd hyd at ddiwedd 2022.

Yn ogystal, maen nhw wedi helpu perchnogion anifeiliaid anwes drwy ddarparu 40,041 o ysbaduriaid – i atal beichiogrwydd diangen a hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol – a 24,944 o ficrosglodion i helpu anifeiliaid anwes coll ddychwelyd at eu perchnogion.

Nawr, wrth i’r RSPCA ddechrau dathlu eu pen-blwydd yn 200 oed, mae’r elusen eisiau ysbrydoli miliwn o fudiadau cryf ar gyfer anifeiliaid, wrth i’r elusen anelu at “greu byd gwell i bob anifail”.

Y ffigurau diweddaraf

Dros y Deyrnas Unedig, mae’r RSPCA wedi ailgartrefu 405,839 o anifeiliaid anwes ers 2013, gan ddefnyddio 140 o ganolfannau dros Gymru a Lloegr.

Mae hyn yn cyfateb i unarddeg anifail bob dydd.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae 615,000 o anifeiliaid wedi bod yn gleifion yn ysbytai’r elusen ar gyfer llawdriniaethau achub bywyd a thriniaethau lles.

Ond mae esgeuluso a chefnu ar anifeiliaid ar ei lefel uchaf ers tair blynedd.

Yn 2023, derbyniodd yr RSPCA 72,050 o adroddiadau am gefnu ar anifeiliaid a’u hesgeuluso, sy’n uwch nag yn 2022, 2021 a 2020.

‘Her’ yr argyfwng costau byw

Er bod yr elusen yn wynebu biliau uwch a llai o gyfraniadau oherwydd yr argyfwng costau byw, maen nhw’n benderfynol o fynd i’r afael â’r her, yn ôl Dermot Murphy, Comisiynydd Arolygiaeth yr RSPCA.

“Mae gennym hyd yn oed mwy o anifeiliaid sydd angen cymorth yn dod i mewn i’n gofal – ond ar yr un pryd mae ailgartrefu wedi bod yn gostwng yn sydyn, gan olygu bod miloedd yn llai o anifeiliaid achub yn cael eu mabwysiadu ac mae ein canghennau a’n canolfannau yn llawn ac yn agos i fyrstio,” meddai.

“Rydym hefyd yn wynebu biliau cynyddol a llai o gyfraniadau oherwydd yr argyfwng costau byw sy’n un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu lles anifeiliaid ar hyn o bryd – ac mae’r caledi economaidd hwn yn parhau i’n 200fed penblwydd

“Ond rydym yn benderfynol o ymateb i’r her a helpu anifeiliaid anwes a pherchnogion anifeiliaid anwes sydd ein hangen yn fwy nag erioed.

“Dyna pam rydym ar hyn o bryd yn gofyn i gefnogwyr ymuno ag Achub y Gaeaf trwy gyfrannu i helpu ein timau achub i gyrraedd y miloedd o anifeiliaid sydd eu hangen yn daer.

“Mae anifeiliaid bellach yn wynebu heriau mwy nag erioed o ganlyniad i ffermio ffatri, newid hinsawdd, rhyfel a’r argyfwng costau byw.

“Yn ein 200fed flwyddyn rydym am ysbrydoli miliwn o bobol i ymuno â’n mudiad i wella bywydau anifeiliaid.

“Rydyn ni wedi bod yn newid diwydiannau, cyfreithiau, meddyliau, a bywydau anifeiliaid ers 200 mlynedd.

“Gyda’n gilydd, mae yna weithredoedd, bach a mawr, gallwn eu cymryd i greu byd gwell i bob anifail.”