Bydd gŵr o’r gogledd yn mynd â chymorth dyngarol a meddygol i Wcráin yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae Dafydd wedi bod yn Wcráin sawl gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, ond “mae’n debyg mai hon ydy’r dasg fwyaf peryglus”.

Y tro hyn, bydd yn mynd i Dnipro, dinas fawr yn nwyrain Wcráin, gan fynd â chymorth meddygol a bwyd i bentrefi ger afon Dnipro sydd wedi bod yn cael eu bomio ers dechrau’r rhyfel, ac ymweld ag ysbytai.

“Rydyn ni wedi arfer efo sielio ac ati, ond mae’n debyg mai hon ydy’r dasg fwyaf peryglus i ni ei gwneud,” meddai Dafydd, sydd ddim am rannu ei gyfenw â golwg360.

“Y tro diwethaf aethon ni ag ambiwlans lawr [i Wcráin], fe wnaeth yr hen ddynes yma roi llwyth o afalau i ni.

“Doedd ganddi ddim byd arall.

“Roedd ei phentref wedi cael ei fomio, ac roedd y plant wedi treulio mis o dan ddaear.

“Roedd yna geffyl wedi cael ei anafu gan shells, a marw, felly fe wnaethon nhw fyw ar y ceffyl am bron i fis.

“Roedd yr hen ddynion yn mynd allan yn y nos pan oedd hi’n dywyll i bysgota, ac roedden nhw’n byw ar y pysgod fel arall.

“Ar y ffordd, roedden ni’n gwneud sawl peth – ar un daith, aethon ni ag anrhegion Nadolig i’r plant.

“Yr hen ddynes roddodd yr afalau i ni, does ganddi hi ddim byd o gwbl, felly aethon ni â bocs o bob math o bethau iddi.

“Roedd hi’n emosiynol iawn, maen nhw’n hoffi’r syniad nad ydy’r byd wedi anghofio amdanyn nhw.”

Ambiwlans yn llawn cymorth

Yr Wcreiniaid “fel teulu”

Mae Vladimir Putin, arweinydd Rwsia, yn dweud y bydd mwy o ymosodiadau ar Wcráin nawr, ac mae taflegrau wedi bwrw rhai o ddinasoedd mwyaf y wlad dros yr wythnos ddiwethaf.

Hyd yn hyn, mae dros 10,000 o sifiliaid wedi cael eu lladd a 18,500 wedi cael eu hanafu yn Wcráin ers i Rwsia ymosod ar y wlad ym mis Chwefror 2022.

“Un o’r dynion yn y pentrefi sy’n cyfieithu i ni, mae’r holl ddynion fuodd o yn yr ysgol efo nhw wedi marw,” meddai Dafydd wedyn.

Tanc ddaeth Dafydd a’r criw ar ei draws yn ystod un o’u teithiau

Wrth fynd o amgylch Wcráin, mae Dafydd wedi dod i adnabod pobol ac wedi dod yn ffrindiau â rhai yno, ac yn pwysleisio fod pawb yn hynod ddiolchgar am y cymorth a’u cyfeillgarwch.

“Rydyn ni wedi gwneud ffrindiau ag un teulu, ac maen nhw’n wych – mae’r ddynes yn ddiflino yn dosbarthu cymorth dyngarol,” meddai.

“Maen nhw’n licio dangos pethau i ni fel ein bod ni’n dyst i’r hyn sy’n mynd ymlaen, ac yn yr ysgol yma wedi’i bomio – fyddai’r un o’r plant wedi byw oni bai bod nhw yn y seler – maen nhw, holl fenywod y pentref, wedi defnyddio cragen yr ysgol i gynhyrchu rhwydi cuddliw.

“Rydyn ni wedi dod yn ffrindiau efo’r Wcreiniaid yno. Maen nhw wedi dod fel teulu.

“Maen nhw’n bobol neis iawn ac yn ddiolchgar iawn.

“Wrth gerdded drwy’r stryd, rydyn ni’n sefyll allan, ac mae hen fenywod yn dod aton ni a diolch i ni – sydd ychydig yn embarrassing – ond maen nhw eisiau dangos eu gwerthfawrogiad i bobol Prydain.

“Ac maen nhw wedi clywed am Gymru, sy’n fonws!”