Rhaid i Brif Weinidog nesaf Cymru flaenoriaethu a mynnu cyllid teg gan San Steffan, yn ôl Plaid Cymru.
Daw’r alwad wrth i Jeremy Miles a Vaughan Gething frwydro i olynu Mark Drakeford yn y Senedd, a gydag etholiad cyffredinol ar y gorwel yn San Steffan hefyd.
Ond dydyn nhw ddim wedi galw am setliad cyllid teg hyd yn hyn, a dydy Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur yn San Steffan, ddim wedi gwneud yr alwad ar lefel y Deyrnas Unedig chwaith.
Ar y cyfan, mae yna ymdeimlad nad yw Cymru’n cael ei chyllido’n deg drwy Fformiwla Barnett, gafodd ei sefydlu yn y 1970au i ddarparu cyllid i’r gwledydd datganoledig yn y Deyrnas Unedig.
Cafodd hyn ei amlinellu yng Nghomisiwn Holtham, a’i gefnogi gan undebau llafur a neb llai na’r Arglwydd Joel Barnett ei hun.
‘Blwyddyn newydd, ond caledi’n parhau’
“Mae blwyddyn newydd wedi dechrau ond mae caledi’n parhau i ormod o deuluoedd sy’n ei chael hi’n anodd yn ystod argyfwng costau byw’r Ceidwadwyr,” meddai Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.
“Un o’r materion mwyaf brys sy’n wynebu Cymru ydy’r cytundeb cyllido annheg rydyn ni’n ei gael gan Lundain.
“Mae hynny’n golygu nad oes gennym ni ddigon o arian i’w fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ein heconomi, ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol na’n hysgolion.
“Mae hynny’n wir am y Llywodraeth Geidwadol bresennol, ond does dim ymrwymiad gan Keir Starmer y byddai’n cywiro’r anghyfiawnder hwnnw chwaith, nac yn talu i Gymru y £2bn neu fwy sy’n ddyledus o ganlyniad i brosiect rheilffyrdd HS2.
“Hyd yn oed yn fwy siomedig, dydy’r un o’r darpar ymgeiswyr i fod yn Brif Weinidog nesaf Cymru wedi awgrymu y bydden nhw’n gwneud cyllido tecach yn flaenoriaeth pe baen nhw’n ennill yr etholiad am yr arweinyddiaeth.
“Os ydy’r ddau ymgeisydd Llafur o ddifri am drawsnewid Cymru, yna rhaid i fynnu cyllid tecach gan eu bos Keir Starmer ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf fod yn flaenoriaeth.”