Mae mwy na 7,000 o blant yn y system ofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Heddiw (dydd Llun, Ionawr 8), mae Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu awdurdodau lleol Cymru, wedi mynd ati gyda’r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth erbyn 2026, i ddarparu cartrefi diogel i bobol ifanc leol.

Yn eu hymgyrch newydd, ‘Gall pawb gynnig rhywbeth’, bydd y sefydliad yn defnyddio’u hased mwyaf – gofalwyr maeth presennol – i rannu profiadau realistig o ofal maeth ac archwilio’r nodweddion dynol bach ond arwyddocaol sydd gan bobol all wneud byd o wahaniaeth i berson ifanc mewn gofal.

Rhwystrau

Mae Maethu Cymru wedi siarad â dros 100 o bobol i ddatblygu’r ymgyrch, gan gynnwys gofalwyr maeth, gweithwyr cymdeithasol, athrawon, aelodau’r cyhoedd, a’r rhai sy’n gadael gofal.

Amlygodd ymatebion y grwpiau hyn dri pheth allweddol sy’n atal darpar ofalwyr rhag ymholi, sef:

  • diffyg hyder yn eu sgiliau a’u gallu i gefnogi plentyn mewn gofal
  • y gred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw
  • camsyniadau ynghylch y meini prawf i ddod yn ofalwr.

Gyda’r wybodaeth hon, mae Maethu Cymru wedi defnyddio straeon go iawn gofalwyr yng Nghymru i ddangos bod maethu awdurdodau lleol yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn dod â chyfleoedd hyfforddi a datblygiad proffesiynol helaeth.

“Roedd gennym ni eisoes yr holl sgiliau oedd eu hangen arnom i ddod yn ofalwyr maeth – ac mae angen i fwy o bobol wybod bod ganddyn nhw’r sgiliau hefyd,” meddai Cath a Neil, sy’n ofalwyr maeth hirdymor yn Wrecsam.

Mae eu hamynedd a’u dyfalbarhad wrth oresgyn yr ansicrwydd bwyd sy’n cael ei deimlo gan eu plant maeth wedi ysbrydoli un o hysbysebion yr ymgyrch yn uniongyrchol.

Nod eu stori yw dangos mai meddylgarwch, tosturi ac ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y plentyn yw’r ‘sgil’ pwysicaf sydd ei angen arnoch fel gofalwr.

“Mae cryn dipyn o blant sy’n dod i’n gofal yn poeni o ble mae eu pryd nesaf yn dod. Felly, rydym yn gosod y bwrdd yn y bore. Yna mae’r plentyn hwnnw’n gwybod pan ddaw adref y bydd pryd o fwyd yn aros amdano.

“Rwyf wedi agor fy nghartref i blant gyda dim ond oriau o rybudd – y cyfan tra’n gweithio’n llawn amser.”

Cyfuno gofal â gwaith arall

O ran ffordd o fyw, mae camsyniad treiddiol ynghylch gwaith amser llawn a diffyg maethu yn bosibl.

Fodd bynnag, mae bron i 40% o ofalwyr maeth yn cyfuno maethu â gwaith arall, ac mae gan y nifer uchaf erioed o gyflogwyr – gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Admiral, a John Lewis Partnership – bolisïau maethu cyfeillgar ar waith i gefnogi gweithwyr.

Mae Gwynfor, gofalwr maeth o Ynys Môn, wedi bod yn maethu gyda’i wraig Barbara ers 2016.

Tan yn ddiweddar, roedd yn cydbwyso gwaith llawn amser gyda gofal maeth brys.

“Roeddwn i’n gweithio i’r Post Brenhinol,” meddai.

“Byddwn yn dechrau am 6yb, yn mynd â’r plant i’r ysgol, yna’n mynd yn ôl i’r gwaith ac yn gorffen mewn pryd i gasglu’r plant o’r ysgol.

“Dim ond mater o gydbwyso pethau oedd o, ac roedd yn ddefnyddiol iawn cael cyflogwr cefnogol.”

Ysbrydolodd profiad Gwynfor mewn gofal brys hysbyseb yr ymgyrch yn amlygu y gall y pethau bach wneud gwahaniaeth mawr, hyd yn oed ar fyr rybudd.

“Rydyn ni wedi cael ychydig o alwadau brys,” meddai.

“Un tro, bu’n rhaid i mi ruthro i’r siopau ar ôl gwaith i brynu dillad gan fod y plentyn yn cyrraedd am 10 o’r gloch y noson honno.

“Rydyn ni hefyd wedi cael plant yn cyrraedd dyddiau cyn eu pen-blwydd, felly rydyn ni wedi gorfod darganfod yn gyflym sut maen nhw eisiau dathlu, a pha flas o gacen maen nhw’n ei hoffi, wrth gwrs!

“I chi, efallai mai carafán yn unig ydyw.

“Ond mae eich gwyliau cyntaf yn brofiad nad oes neb yn ei anghofio.”

Ystyried y manteision

Mae 53% o bobol ifanc mewn gofal yn 11 oed neu’n hŷn.

Mae Maethu Cymru yn awyddus i bobol ystyried manteision maethu plentyn yn ei arddegau, a’r gwahaniaeth y gall ei wneud i’w rhagolygon.

Mae Sharon a Theo o Abertawe wedi bod yn maethu pobol ifanc yn eu harddegau ers dros ddegawd.

“Mae pobol ifanc yn eu harddegau yn fwy annibynnol; gyda phlant iau maent yn fwy heriol yn gorfforol,” meddai’r cwpwl.

“Yn ddiweddar buom yn maethu siblingiaid, mae un yn unarddeg, a’r llall yn ddeunaw.

“Symudodd sibling hŷn ymlaen yn ddiweddar, a gwnaethom eu helpu i gael fflat cyfagos.

“Wrth gwrs, rydyn ni dal wrth law i helpu.

“Maen nhw newydd ddechrau yn y brifysgol, sy’n wych, ac rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad sy’n braf.”

Mae’r cwpwl, sy’n berchen ar bedair carafán, yn eiriolwyr cryf dros seibiannau byr yn y Deyrna Unedig gyda phlant maeth, gan helpu pobol ifanc i brofi pethau newydd a meithrin atgofion mewn ‘cartref oddi cartref’.

“Fe wnaethon ni brynu ein carafán gyntaf pan wnaethon ni faethu ein plentyn yn ei arddegau cyntaf.

“Roedden ni’n arfer mynd i lawr yno drwy’r amser – roedden nhw wrth eu bodd.

“Mae’r plant iau rydyn ni wedi’u maethu yn hoff iawn o’r rhyddid maen nhw’n ei gael yn y maes carafanau.

“Oherwydd eu bod nhw’n garafanau sefydlog, mae teuluoedd, fel ni, yn eu defnyddio nhw drwy’r amser, fel bod y plant yn gallu gwneud ffrindiau maen nhw’n eu gweld bob tro maen nhw’n mynd lawr yno.

“Mae fel cymuned fach a dweud y gwir.”

Cymru ar flaen y gad

Mae Cymru ar flaen y gad ym maes gwasanaethau plant.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.

Gwnaeth y newidiadau sy’n cael eu cynnig yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’.

Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw, ac mae’r angen am ofalwyr maeth awdurdodau lleol yn fwy nag erioed.

“Mae gennym ni rai gofalwyr maeth anhygoel ledled Cymru, sy’n gwneud gwaith aruthrol yn cynnig cyfleoedd sy’n newid bywydau, sicrwydd a sefydlogrwydd a chamu i’r adwy pan fydd ei angen fwyaf ar ein plant,” meddai Alastair Cope, Pennaeth Maethu Cymru.

“Fodd bynnag, mae angen recriwtio mwy o bobol i faethu ar gyfer eu hawdurdod lleol.

“Mae maethu gyda’ch tîm Maethu Cymru lleol yn golygu bod gennych chi fynediad at wybodaeth a chefnogaeth leol bwrpasol, pecyn dysgu a datblygu gwych ac yn bwysicach fyth, gallwch chi helpu plant i aros yn eu cymuned leol eu hunain, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sydd ganddyn nhw’n agos.

“Mae gan Faethu Cymru gynllun uchelgeisiol i recriwtio 800 o ofalwyr maeth newydd a’r rheswm am hynny yw ein bod ni eisiau i bob un o’n plant sydd ei angen, allu cael cartref addas, y gofalwr maeth cywir ar eu cyfer.

“Rhywun i’w cefnogi, i sefyll wrth eu hymyl ac i osod y bwrdd ar eu cyfer bob bore.

“Rwy’n falch o’n gofalwyr maeth a’r cyfan maen nhw’n ei wneud i’n plant, ac rydw i eisiau annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn, y gallwch chi gynnig rhywbeth hefyd a’ch annog chi i gysylltu â’ch tîm Maethu Cymru lleol.”

‘Pob plentyn yn haeddu cartref diogel a chefnogol’

“Mae pob plentyn yn haeddu tyfu i fyny mewn cartref diogel a chefnogol,” meddai Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol.

“Mae yna lawer o blant yng Nghymru sydd ag anghenion gwahanol, sy’n methu byw gyda’u rhieni biolegol, ac sydd angen gofal.

“Rwy’n gwybod efallai nad yw’r penderfyniad i ddod yn ofalwr maeth bob amser yn un hawdd, ond mae’n un a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau llawer o blant.

“Trwy faethu gyda Maethu Cymru, gallwch ddarparu cartref lleol i blant lleol gan roi sefydlogrwydd, cynefindra ac ymdeimlad o berthyn iddynt.

“Trwy ymrwymiad parhaus ein teuluoedd maeth ledled Cymru, mae plant a phobol ifanc yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt, i ddatblygu a ffynnu.

“Rydym am wneud y gronfa o rieni maeth sydd ar gael yng Nghymru mor amrywiol â phosibl, i gefnogi anghenion amrywiol y plant yn ein gofal.

“Os oes unrhyw un erioed wedi meddwl am fod yn ofalwr maeth – beth bynnag fo’ch rhyw, hil, rhywioldeb, trefniadau byw, oedran, a statws cyflogaeth – byddwn yn eich annog i gysylltu â Maethu Cymru am ragor o wybodaeth.”

Mae’r ymgyrch yn dechrau heddiw (dydd Llun, Ionawr 8) ar draws rhaglenni teledu, ffrydio, radio, digidol a thu allan i’r cartref.

Mae digwyddiad lansio hefyd yn cael ei gynnal ym marchnad Casnewydd ddydd Iau, Ionawr 18.