Bydd yr awdurdodau’n dechrau gorfodi’r terfyn cyflymder 20m.y.a. newydd o heddiw (dydd Llun, Ionawr 8).
Bydd gyrwyr sy’n cael eu dal yn goryrru mewn parthau 20m.y.a. yn cael dewis rhwng cwrs cynghori neu dderbyn dirwy.
Daeth deddf newydd Llywodraeth Cymru i rym ym mis Medi, ond fe fu cyfnod o addasu’n cael ei weithredu ers hynny cyn gorfodi’r terfyn newydd.
Dim ond y gyrwyr mwyaf peryglus fydd yn cael eu herlyn yn y lle cyntaf.
Mae gwrthwynebwyr i’r terfyn cyflymder newydd yn dal i ddadlau bod y ddeddf yn ddryslyd, ond mae Llywodraeth Cymru’n dweud y bydd yn lleihau marwolaethau, sŵn a llygredd aer ac yn annog mwy o bobol i gerdded neu seiclo.
‘Dal i aros am adolygiad’
“Mae pedwar mis wedi mynd heibio ers i Blaid Cymru gyflwyno gwelliant i’r Senedd, ac ennill y bleidlais, gan ennill ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i adolygu effaith terfynau newydd, grymuso awdurdodau lleol i wneud eithriadau pellach,” meddai Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.
“Mae’r cyfyngiadau newydd nawr yn cael eu gorfodi – ac rydyn ni’n dal i aros am adolygiad.
“Mae Plaid Cymru wedi cefnogi’r egwyddor o barthau 20m.y.a. eang yn gyson, ond rydym hefyd wedi ei gwneud yn glir bod rhai mannau lle nad yw’r terfyn newydd yn teimlo’n rhesymol, ac mae’n bwysig bod cymunedau wedi’u grymuso i weld y terfynau hynny’n cael eu hadolygu.
“Rhaid iddi fod yn broses barhaus.
“Nid ydym yn gweld unrhyw arwydd o sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu’r adolygiad yn unol â’r bleidlais glir hon yn y Senedd.
“Mae angen i ni weld hyn yn digwydd.
“Mae’n ymwneud ag adeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd.”