I ddechrau daethant am yr Iddewon

ac ni godais fy llais –

achos doeddwn i ddim yn Iddew.

Yna daethant am y comiwnyddion

ac ni godais fy llais –

achos doeddwn i ddim yn gomiwnydd.

Yna daethant am yr undebwyr llafur

ac ni godais fy llais

gan nad oeddwn yn undebwr llafur.

Yna daethant amdanaf –

a doedd neb ar ôl

i godi llais ar fy rhan i.

(cyfieithiad Aled Lewis Evans yn Geiriau Gorfoledd a Galar gan D Geraint Lewis (Gwasg Gomer, 2007)

Martin Niemöller (1892-1984), diwinydd a gweinidog, sydd biau’r geiriau uchod. Bu Niemöller yn ddraenen ym mhawen Adolf Hitler (1889-1945). Droeon a thro, rhwng 1934 a 1937, cafodd ei arestio gan y Natsïaid gan iddo, yn sgil ei genedlgarwch mawr, orfod codi llais yn erbyn polisïau’r gyfundrefn wyrgam honno. Wedi wyth mis, yn aros yr achos llys, yng ngharchar Moabit, Berlin yn 1937, cafodd ei gyhuddo a chafwyd Niemöller yn euog o frad. Cafodd ei anfon i wersyll crynhoi Sachsenhausen. Yno y bu yn gwbl ddigwmni – mewn solitary confinement – hyd nes iddo gael ei symud i Dachau yn gynnar yn 1941. A hwythau’n dechrau deall fod y rhyfel eisoes wedi ei golli, bu’r SS yn symud y peryclaf o’r carcharorion gwleidyddol i Tirol, Awstria. Eu bwriad oedd lladd y rhain cyn diwedd y rhyfel, ond daeth y diwedd hwnnw’n gynt na’r disgwyl. O’r herwydd, llwyddodd Niemöller i oroesi. Daeth i fod ymhlith yr amlycaf o arweinwyr yr Eglwys Lutheraidd yn yr Almaen, ac yn fawr ei ddylanwad ledled byd.

Yn 1937, ryw wythnos cyn ei garcharu, pregethai Niemöller ar y testun “…Chwi yw goleuni’r byd” (Mathew 5:14a). “Oni themtir ni weithiau i ddwyn y gannwyll i mewn a’i chadw’n ddiogel nes i’r storm fyned heibio, rhag ofn iddi ddiffodd?” gofynnodd. Ond peidiwn â gwneud hynny! Oni ddywed Iesu, “Ni oleuais i’r gannwyll i chi ei dodi dan lestr i’w diogelu. Rhowch y gannwyll ar ganhwyllbren, a gadewch y canlyniadau i mi.” (Dachau Sermons 1945; Harper & Brothers).

Perthnasol i 2024

Mae’r geiriau’n berthnasol, yn frawychus o berthnasol, i ddechrau 2024. Credodd Niemöller, ac yntau yng nghanol storm enbyd, na allai gwyntoedd geirwon y storm honno fygwth – heb sôn am ddiffodd – y fflam a losgai ar gannwyll ei ffydd yn Nuw.

Mae storm yn bygwth fflam ein ffydd heddiw. Mae i grefydd enw drwg. Amheuir crefydda a chrefyddwyr: peryg ydyw, a pheryglus ydym. Cwbl naturiol, felly, fuasai tewi ac ymguddio: cadw a chynnal fflam ein ffydd, hyd nes i’r storm dawelu. Hawdd ddigon, â’n ffydd allan mewn tywydd mawr, yw i grefydd greu ymneilltuwyr ohonom.

Mewn storm fel hon, mae mwy o alw arnom nag erioed i ddatgan mai pobol Duw ydym: nid Duw herfeiddiol, llym; nid Duw sy’n gwthio’i awdurdod arnom yn swrth, ac felly’n caniatáu i ninnau wthio’n cred ar eraill, doed a ddelo, costied a gyst; ond y Duw sy’n mynnu symud pob pellter i fod gyda ni, ynghanol ein bywyd fel y mae, i’n cymell i droi ein ffydd ynddo yn ffordd iach o ymwneud ag eraill; cyfaill a gelyn, dieithryn a chymydog. Duw ydyw, sy’n gosod arnom bwysau’r Deyrnas. Nyni yw cenhadon ei bwrpas cariadlawn, ei weithwyr mewn cymdeithas.

Do, daeth storm: caiff fflam eiddil ein ffydd ei bygwth gan wyntoedd geirwon a moroedd mawr. Nid dwyn y gannwyll i mewn a’i chadw’n ddiogel nes i’r storm fyned heibio mo’r ffordd ymlaen, er mor real, a naturiol, yr awydd i wneud hynny.

Mae helbulon ein cyfnod yn un o ddau beth: yn esgus i bobol Duw ymneilltuo, neu yn sialens i ni ddod i’r amlwg, gan ddatgan yn eglur ac ar goedd mewn eglwys, synagog a mosg mai Duw cariad yw, a chelwydd yw pob peth gaiff ei lefaru, ei bregethu, ei gredu a’i wneud sydd yn groes i hyn.

Ddydd Iau nesaf (Ionawr 11) yn 1791 y bu farw William Williams, Pantycelyn. A ninnau ynghanol storm, cydiwn yng ngwres, golau a her y geiriau hyn o’i eiddo:

Enynnaist ynof dân

Perffeithiaf dân y nef

Ni all y moroedd mawr,

Ddiffoddi mono ef … (CFf.314)