Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Vaughan Hughes, sydd wedi marw’n “annisgwyl o sydyn”, yn ôl ei ferch, y gwleidydd Heledd Fychan.

Roedd yn 76 oed.

Yn ddarlledwr, cyflwynydd, cynhyrchydd teledu a chynghorydd sir, roedd yn ohebydd newyddion gyda rhaglen Y Dydd cyn symud i fyd cynhyrchu ar ôl sefydlu’r cwmni Ffilmiau’r Bont.

Roedd yn dal i fod yn gyd-olygydd cylchgrawn Barn.

‘Diolch am bopeth’

“Er ei fod yn wael, fe ddaeth y diwedd yn annisgwyl o sydyn gyda Dad dal i weithio ar y rhifyn nesaf o Barn ddoe ac yn mwydro gyda fi tan yn hwyr neithiwr,” meddai Heledd Fychan ar Facebook wrth dalu teyrnged i’w thad.

“Mi wna’i drysori’r ffaith mai ein geiriau olaf wrth i ni ffarwelio neithiwr oedd ein bod ni’n caru’n gilydd.

“Roedd yn Dad cariadus a chefnogol imi ar hyd fy mywyd, ac wedi gwirioni’n lân bod yn Daid i Twm. Mi wnawn ni ei golli’n aruthrol.

“Bydd gymaint mwy i’w ddweud amdano eto… ond am rŵan, diolch i bawb fu’n ffrind i Dad drwy ei fywyd.

“A diolch i Dad am bopeth.”

Teyrngedau

Yn enedigol o Fôn, bu Vaughan Hughes yn gynghorydd Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ynys Môn rhwng 2012 a 2022, gan gynrychioli ward Llanbedrgoch (Lligwy nawr).

“Ar ran Plaid Cymru rwy’n anfon pob cydymdeimlad at deulu ac annwyliaid Vaughan Hughes wedi’r newyddion trist am ei farwolaeth yn gynharach heddiw,” meddai’r arweinydd Rhun ap Iorwerth.

“Rydan ni’n meddwl yn arbennig am ei ferch Heledd Fychan fel cyfaill ac aelod o grŵp y Blaid yn y Senedd.

“Mae Vaughan yn gadael gwaddol sylweddol ar ei ôl.

“Fel newyddiadurwr, darlledwr a golygydd bu’n ffigwr dylanwadol ym myd materion cyfoes Cymreig am ddegawdau.

“Ac fel Cynghorydd Sir Plaid Cymru yn Ynys Môn sicrhaodd ei fod yn gallu ddefnyddio’i brofiad helaeth o weithio ar lwyfanau cenedlaethol, er budd ei fro a Chymru.

“Bydd colled fawr ar ei ôl.”

Mae wedi’i alw’n “Gymro i’r carn” gan Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Trist yw darllen bod Vaughan Hughes wedi’n gadael,” meddai.

“Bu’n gyflwynydd HTV a chynghorydd Plaid Cymru yn Ynys Môn.

“Roedd Vaughan yn Gymro i’r garn.

“Pob cydymdeimlad â’i ferch Heledd a’r teulu oll.”

Roedd yn aelod o Bwyllgor Llên Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, ac mae’r Eisteddfod wedi talu teyrnged iddo hefyd.

“Heno rydyn ni’n cofio am Vaughan Hughes ac yn diolch am ei gyfraniad fel aelod ffyddlon o bwyllgor llenyddiaeth Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, gan anfon ein cydymdeimladau dwysaf at Angharad, Heledd, y teulu a’u ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai’r mudiad.