Mae enwebiad am wobr y Stage Awards yn “dipyn o gamp” i’r Theatr Genedlaethol ac yn hwb fawr i’r Cyfarwyddwr Artistig ar ddechrau ei ail flwyddyn o greu gwaith…

Cyn y Nadolig fe glywodd cwmni Theatr Genedlaethol Cymru eu bod nhw wedi eu henwebu am wobr ‘Cynhyrchydd y Flwyddyn’ gan The Stage Awards.