Mae Jeremy Miles a Vaughan Gething eisiau bod yn Brif Weinidog Cymru…

Wrth i 2023 ddod i derfyn daeth y newyddion y bydd cyfnod Mark Drakeford fel arweinydd Llafur Cymru hefyd yn dirwyn i ben, a hynny wedi pum mlynedd wrth y llyw.

Er bod y Prif Weinidog eisoes wedi awgrymu ei fod yn agosáu at ddiwedd ei yrfa wleidyddol, mae erbyn hyn wedi cadarnhau y bydd y bydd yn gosod y ffidil yn swyddogol yn y to ym mis Mawrth 2024.