Mae merch fferm o Geredigion wedi trigo ymhell, gan helpu ffoaduriaid yn Ffrainc, blasu bywyd yn yr Almaen a gweithio gyda’r heddlu ym Mirmingham.

Ac erbyn hyn mae Elliw Dafydd nôl yn ei milltir sgwâr ac yn gyrru’r gwaith o ddatblygu a phrynu ysgol gynradd Cribyn, pentref bychan tua saith milltir o Lanbedr Pont Steffan, er budd y gymuned leol.