Byddai Jeremy Miles yn dechrau adolygiad o’r polisi 20m.y.a. yn ei wythnos gyntaf fel Prif Weinidog, pe bai’n cael ei ethol.
Mae Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg Cymru, a Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, yn y ras i fod yn arweinydd nesaf y Blaid Lafur yng Nghymru ac yn Brif Weinidog.
Cyhoeddodd Mark Drakeford ei fod yn camu lawr o’r ddwy rôl ar ôl pum mlynedd cyn y Nadolig.
Bydd y broses o ddod o hyd i arweinydd newydd a’r Prif Weinidog nesaf yn dod i ben erbyn diwedd tymor y gwanwyn.
‘Darparu gwasanaethau cyhoeddus dibynadwy’
Heddiw (Ionawr 2), mae Jeremy Miles, sy’n Aelod o’r Senedd dros Gastell-nedd, wedi amlinellu’r pum peth fyddai e’n eu gwneud yn ei wythnos gyntaf fel Prif Weinidog.
Yn ogystal â dechrau adolygiad o’r newid cyfyngder cyflymder ffyrdd i 20m.y.a, fydd wedi bod mewn grym ers tua chwe mis erbyn i’r ras arweinyddol ddod i ben, byddai’n penodi menywod i o leiaf hanner swyddi’r cabinet.
Byddai hefyd yn dechrau’r gwaith o sefydlu Uned Gyflawni newydd yn Llywodraeth Cymru a dechrau trafodaethau newydd gyda chleifion, cyrff iechyd ac undebau iechyd ynghylch sut i helpu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Ynghyd â hynny, byddai’n rhoi cyfarwyddyd i sefydlu Cyngor Economaidd Cenedlaethol newydd i gynghori’r llywodraeth ar bolisïau strategol i sicrhau ffyniant economaidd a chynaliadwy.
Mae disgwyl i Jeremy Miles fanylu ar ei agenda yn yr wythnosau nesaf.
“Rhaid i hon fod y flwyddyn pan rydyn ni’n cael gwared ar Lywodraeth Dorïaidd y Deyrnas Unedig,” meddai.
“Mae eu diffyg cymhwysedd, cyni a chamreolaeth economaidd wedi cyfyngu ar gyllidebau Llywodraeth Cymru, sy’n golygu caledi i bobol a’r gwasanaethau y maen nhw’n dibynnu arnynt.
“Fodd bynnag, dydy hynny ddim yn tynnu oddi wrth y ffaith fod angen i’r Prif Weinidog a’r Llywodraeth nesaf ganolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus da, dibynadwy i bobol Cymru.
“Mae hynny’n golygu llywodraeth sy’n adlewyrchu ein cymunedau, sy’n amddiffyn a gwella gwasanaethau cyhoeddus yn ddiflino ac sy’n agored i graffu a beirniadaeth adeiladol.”
‘Dwy Lywodraeth Lafur’
Yn y cyfamser, wrth groesawu’r flwyddyn newydd, dywed Vaughan Gething, ar X, Twitter gynt, fod Cymru angen i’r Blaid Lafur fod yn barod i ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn San Steffan.
Bydd yr Etholiad Cyffredinol nesaf yn cael ei gynnal rywbryd cyn Ionawr 2025.
“Gadewch i ni wneud 2024 yn flwyddyn pan rydyn ni’n cael gwared ar y llywodraeth Dorïaidd drychinebus hon,” meddai Vaughan Gething.
“Mae Cymru angen i’n plaid fod yn barod i ennill o’r dechrau’n deg.
“Fel arweinydd Llafur Cymru byddwn i’n gweithio’n ddiflino gydag aelodau a chefnogaeth, gyda gweledigaeth am yr hyn all dwy Lywodraeth Lafur lwyddo i’w wneud, ochr yn ochr.”