Mae ymddiheuriad yr Ysgrifennydd Cartref am wneud “jôc” am sbeicio diod ei wraig yn “rhy hwyr o lawer”, yn ôl Arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
Daw sylwadau Liz Saville Roberts wedi i James Cleverly ymddangos ar Sky News a BBC Radio 4 fore heddiw (dydd Mawrth, Ionawr 2) yn ymddiheuro.
Bu’n wynebu galwadau i gamu i lawr o’i swydd ar ôl iddo ddweud, yn ystod digwyddiad yn Downing Street, ei fod yn rhoi “ychydig bach o Rohypnol yn niod” ei wraig bob nos.
Ychwanegodd nad oedd “yn anghyfreithlon, mewn gwirionedd, os mai dim ond ychydig bach” o’r cyffur yr oedd yn ei ddefnyddio.
Dywed Liz Saville Roberts ei fod yn “ddigalon” a’i fod yn dangos diffyg cymhwysedd i barhau yn ei swydd.
‘Mae’n amlwg ei fod wedi achosi brifo’`
Wrth siarad ar Sky News, dywedodd James Cleverly bod ei “jôc” wedi brifo pobol.
“Wrth gwrs, rydych chi’n gwybod, fy mod i’n difaru ac fe wnes i ymddiheuro ar unwaith,” meddai.
“Roedd yn ymddiheuriad o’r galon.
“Mae’n ddrwg gen i oherwydd mae’n amlwg ei fod wedi brifo pobol, ac mae’n bosib ei fod wedi tynnu sylw oddi wrth y gwaith yr oeddem yn ei wneud i fynd i’r afael â sbeicio i helpu menywod, yn bennaf, sy’n dioddef o sbeicio, ac rwy’n difaru hynny.
“Ond rwy’n gwbl benderfynol o barhau â’r gwaith rwyf wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd,” ychwanegodd.
Diffyg cymhwysedd
“Mae o’n ddigalon,” meddai Liz Saville Roberts wrth golwg360.
“Dw i’n meddwl bod [yr ymddiheuriad] yn rhy hwyr o lawer – fe wnaeth o ddigwydd sawl diwrnod yn ôl.
“Mae o’n dangos lefel o ddiffyg cymhwysedd gan y llywodraeth.
“Roedd meddwl am y fath yna o fisogynistiaeth fel jôc – hyd yn oed mewn cyd-destun preifat – yn dangos lefel o ddiffyg barn a diffyg cymhwysedd.
“Mae’n debyg bod yr Ysgrifennydd Cartref wedi byw mewn gobaith bod y cylch newyddion yn mynd i droi fel maen nhw wedi gwneud yn y gorffennol, a bod pobol yn mynd i anghofio’r peth.
“Ond dydy pobol ddim yn anghofio pethau.”
‘Hen bryd i’r criw yma fynd’
Yn ôl Liz Saville Roberts, mae’n bryd am newid pŵer yn llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.
“Yr hyn sy’n digwydd rŵan ydy bod y dystiolaeth o ddiffyg cymhwysedd, diffyg difrifoldeb, diffyg datrysiad a diffyg addasrwydd y llywodraeth yma i fod mewn grym yn gynyddol.
“Mae o’n hen bryd i’r criw yma fynd.
“Roedd rhaid iddyn nhw ddod â David Cameron yn ôl i gael o’n un o’r swyddi mawr.
“Mae’r cyfnod yn dirwyn i ben ac mae angen gwyro.
“Ond wedi dweud hynny, dw i ddim yn meddwl bod Keir Starmer yn mynd i wneud dim gwahanol i’r Ceidwadwyr achos dyna mae o’n dweud ei fod o am wneud – gwneud yr union yr un peth â’r Ceidwadwyr.
“Mae’r angen am newid yng Nghymru yn ddybryd fwy byth.”