Bydd 2024 yn “flwyddyn hollbwysig i ddyfodol Cymru”, meddai Arweinydd Plaid Cymru wrth drafod ei amcanion ar gyfer y flwyddyn.
Daw sylwadau Rhun ap Iorwerth wedi i Mark Drakeford, arweinydd Llafur Cymru a Phrif Weinidog Cymru, gyhoeddi ei fod yn camu o’i rôl ar ôl pum mlynedd wrth y llyw.
Bydd y broses o ddod o hyd i arweinydd newydd i’r Blaid Lafur yn dod i ben erbyn diwedd tymor y gwanwyn, ac “mae’n bwysicach nag erioed bod sylw’n cael ei roi ar eu record o lywodraethu” wrth baratoi i ethol arweinydd nesaf yng Nghymru, meddai Rhun ap Iorwerth.
Ymysg ei amcanion eraill ar gyfer y flwyddyn mae parhau i ddadlau dros roi mwy o bwerau i Gymru dros faterion fel ynni a’r economi, a pharhau i ddadlau o blaid ymchwiliad Covid i Gymru.
Mwy o bwerau i Gymru
Mae disgwyl i enw’r Arweinydd Llafur Cymru nesaf cael ei roi i’r Senedd cyn egwyl y Pasg, a gydag Etholiad Cyffredinol ar ei ffordd cyn diwedd Ionawr 2025, mae Rhun ap Iorwerth yn cwestiynu a fydd holl bleidiau Llundain yn trin Cymru’r un ffordd.
“Wrth i aelodau’r blaid Lafur baratoi i ethol eu harweinydd nesaf yng Nghymru ac, yn ddiofyn, ein Prif Weinidog nesaf, mae’n bwysicach nag erioed bod sylw’n cael ei roi ar eu record o lywodraethu,” meddai.
“Bum mlynedd ar hugain yn ddiweddarach ers etholiadau cyntaf erioed y Senedd yn 1999, mae pobol, a hynny’n ddealladwy, yn awyddus i weld newid yng Nghymru.
“Awydd dechrau newydd.
“Dyna pam, ers dod yn Arweinydd, rwyf wedi bod yn benderfynol o ddangos sut mae uchelgais Plaid Cymru ar gyfer Cymru yn ein gosod ar wahân i bob plaid arall.
“Ar lefel y Deyrnas Unedig, rydym wedi dioddef blynyddoedd o reolaeth Geidwadol hunanwasanaethol.
“Ni all hyn fynd ymlaen.
“Ond wrth i’r argyfwng costau byw barhau i frathu, mae ofn gwirioneddol y gallai newid llywodraeth yn San Steffan o las i goch wneud fawr ddim i leddfu’r baich ar aelwydydd cyffredin yng Nghymru.
“Gyda Starmer yn cerdded yng nghysgod Sunak pan ddaw’n fater o’r economi, iechyd a thaclo’r argyfwng hinsawdd, bydd Plaid Cymru yn gweithio’n ddiflino i ddychwelyd y tîm mwyaf posib o ASau i San Steffan i wneud yr achos i’n cenedl gael mwy o reolaeth dros ei dyfodol.
“Ein nod yw adeiladu ar record ragorol ein Haelodau Seneddol a pharhau i ddadlau dros i Gymru ddal mwy o bwerau dros yr economi, adnoddau naturiol, lles, ac ynni fel y gallwn ryddhau’r potensial yr ydym i gyd yn gwybod sydd gan ein cenedl.
“Pe bai’n cael ei ethol, dyma fyddai’r prawf cyntaf i Keir Starmer yn Brif Weinidog – a yw’n barod i wyro oddi wrth uniongrededd y Torïaid o wadu Cymru ei chyfran deg o gyllid a chydraddoldeb pwerau â’r Alban?
“Neu a fydd yn troedio llinell San Steffan, gan brofi unwaith eto bod holl bleidiau Llundain yn trin Cymru’r un ffordd?”
‘Nid yw brwydro dros ddyfodol Cymru erioed wedi bod yn fwy o frys’
Bydd “llawer o brofion” ar gyfer y Prif Weinidog nesaf yn y Senedd eleni, meddai Rhun ap Iorwerth.
“Gydag Ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig yn ymweld â Chymru yn y gwanwyn, bydd Plaid Cymru yn parhau i ddadlau o blaid Ymchwiliad Cymreig i roi’r atebion i’r cyhoedd y maent yn eu haeddu – yn enwedig y teuluoedd mewn profedigaeth. Ni ddylid caniatáu i lywodraethau osgoi craffu priodol.
“O ran yr economi, iechyd ac addysg, mae yna fynydd i’w ddringo er mwyn sicrhau ffyniant, torri amseroedd aros, a chodi safonau yn ein hysgolion mewn modd sy’n cefnogi athrawon ac yn gadael i ddisgyblion ddysgu hyd eithaf eu gallu.
“Er gwaethaf yr heriau, mae Plaid Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar yr hyn y gall Cymru fod.
“Rwy’n hyderus wrth i Blaid Cymru barhau i rannu ein gweledigaeth o degwch ac uchelgais i Gymru, y bydd mwy a mwy o bobl yn uniaethu â’n neges obeithiol nad dyma’r gorau all bethau fod i Gymru.”
Yn nes ymlaen yn ystod mis Ionawr, bydd Plaid Cymru’n amlinellu eu cynlluniau ar gyfer dyfodol economi Cymru.
Fel rhan o hynny, mae Rhun ap Iorwerth yn awyddus i weld y berthynas rhwng gwledydd Prydain yn cael ei “hailosod”.
“Ddeng mlynedd ers refferendwm annibyniaeth yr Alban, mae San Steffan yn parhau i ddangos diffyg parch tuag at bobl Cymru a’r Alban,” ychwanega.
“Mae Plaid Cymru yn parhau i fod yn benderfynol o eirioli dros annibyniaeth, a chyflwyno achos perswadiol i’r rhai sy’n chwilfrydig am ei phosibiliadau.
“Felly dymunaf flwyddyn newydd dda ichi oll.
“Beth am wneud penderfyniad i’n helpu i gyflwyno’r achos dros y Gymru newydd honno, drwy ymuno â Phlaid Cymru?
“Byddem wrth ein bodd yn eich cael chi’n rhan o’r gwaith.
“Nid yw brwydro dros ddyfodol Cymru erioed wedi bod yn fwy o frys, ac mae gwneud pethau gyda’n gilydd yn bwysicach fyth.”