Mae cynghorydd yng Ngwent oedd unwaith yn fòs ar Mark Drakeford yn dweud y bydd yn rhaid i Brif Weinidog nesaf Cymru ddadlau dros “ddychwelyd” rhagor o bwerau i Gymru.

Yn ystod blynyddoedd cynnar datganoli, roedd Paul Griffiths yn ymgynghorydd arbennig i’r Prif Weinidog Rhodri Morgan ar y cyd â Mark Drakeford, gyhoeddodd yn gynharach ym mis Rhagfyr ei fod yn camu o’r neilltu o fod yn arweinydd Llafur Cymru ac yn Brif Weinidog, ac yntau’n rhan o dîm o bedwar o ymgynghorwyr cyn iddo yntau geisio cael ei ethol i swydd gyhoeddus.

Ar y cyd, fe wnaeth y Cynghorydd Paul Griffiths – fu’n ddirprwy arweinydd Cyngor Sir Fynwy ers Mai 2022 – a’r Prif Weinidog yn helpu Rhodri Morgan i lunio polisïau penodol i Gymru oedd yn creu rhaniad rhwng llywodraethau Llafur yng Nghaerdydd a Llundain, lle’r oedd Tony Blair yn Brif Weinidog.

Daeth y polisi’n adnabyddus fel “dŵr coch clir” – ymadrodd gafodd ei fathu gan Mark Drakeford – ac a gafodd ei briodoli i araith Rhodri Morgan yn Abertawe yn 2002 oedd wedi’i bwriadu fel ffordd o ddiffinio Llafur yng Nghymru fel plaid oedd i’r chwith o Lafur Newydd Tony Blair.

Ond chafodd yr ymadrodd mo’i ddefnyddio gan y cyn-Brif Weinidog, fu farw yn 2017.

“Cafodd yr araith ei drafftio gan Mark a fi, a dw i’n cofio gweld copi a chyfrannu at agweddau ohoni, a chytunodd Rhodri iddi,” meddai’r Cynghorydd Paul Griffiths.

“Roedden ni wedi ei threialu hi i’r papurau, a methodd Rhodri â thraddodi’r llinell, felly roedd newyddiadurwyr yn pwyntio’r bys at Mark a fi.”

Tensiwn posib

Tra bod angen i Rhodri Morgan wahaniaethu rhwng ei egin lywodraeth a’r Llywodraeth Lafur yn Downing Street, mae’r Cynghorydd Paul Griffiths yn credu y bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog ddal i reoli tensiwn posib gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig – hyd yn oed pe bai Syr Keir Starmer, arweinydd Llafur, yn dod yn Brif Weinidog yn 2024, fel mae nifer yn ei ddisgwyl.

Dyna pham fod y Cynghorydd Paul Griffiths yn dweud ei fod e’n cefnogi Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Aelod o’r Senedd dros Gastell-nedd, i olynu ei gyn-gydweithiwr ym mhrif swydd wleidyddol y genedl.

“Dw i’n credu mai un her y bydd Llywodraeth Cymru ddatganoledig yn ei wynebu o hyd yw diffinio safle Cymru o fewn y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Bydd tueddiad o hyd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, boed yn llywodraeth Lafur neu Geidwadol, i geisio crafu unrhyw setliad datganoli presennol yn ôl.”

Yn ôl y Cynghorydd Paul Griffiths, mae Jeremy Miles – fu’n gwasanaethu yn y cabinet blaenorol fel Cwnsler Cyffredinol, prif ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys arwain ar drafodaethau Brexit â San Steffan wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd – wedi dangos fod ganddo fe lygad “craff” a “gafael ar faterion cyfansoddiadol sy’n creu argraff”, sy’n ei wneud e’n addas i fod yn Brif Weinidog.

Mae Brexit wedi arwain Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wneud penderfyniadau gwario yng Nghymru fyddai wedi cael eu gwneud yng Nghaerdydd pan oedd arian yn cael ei ddarparu gan Ewrop, ac mae’r Cynghorydd Paul Griffiths yn credu y bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog nesaf barhau i ddadlau’r achos i Lywodraeth Cymru gael rheolaeth.

“Mae’n debygol y bydd Llywodraeth nesa’r Deyrnas Unedig yn llywodraeth Lafur dan arweiniad Keir Starmer, ond dydy hynny ddim yn golygu bod rhaid i Brif Weinidog Llafur yng Nghymru roi’r gorau i fod yn gadarn a dadlau’r achos dros ddychwelyd pwerau i Gymru.

“Datblygodd Rhodri Morgan berthynas waith dda â Tony Blair, ond fel nododd Rhodri mae angen i unrhyw arweinydd yn y dyfodol ddadlau’r achos i Gymru gael rheoli ei thynged ei hun o fewn y Deyrnas Unedig.

“Roedd yn rhaid cynnal nifer o drafodaethau rhwng Rhodri Morgan a Tony Blair er mwyn pennu sefyllfa Cymru, a dw i’n credu bod gan Jeremy Miles y sgiliau i wneud hynny, a’r cefndir cyfreithiol a chyfansoddiadol i greu llwyfan da i gael parhau â’r trafodaethau hynny.”

Y ras arweinyddol

Tra bod Rhodri Morgan yn cael ei ystyried yn un oedd i’r chwith o’r Prif Weinidog ar y pryd, mae Jeremy Miles a Gweinidog yr Economi Vaughan Gething, yr ymgeisydd arall i fod yn arweinydd, yn y tir canol o fewn y blaid.

Mae gan Jeremy Miles gefnogaeth y rhan fwyaf o Aelodau Llafur y Senedd; arweinwyr cynghorau, gan gynnwys Jane Mudd yng Nghasnewydd, arweinydd Sir Fynwy Mary Ann Brocklesby – sy’n galw ei hun yn sosialydd – ac aelodau asgell chwith megis Beth Winter a Carolyn Thomas; ynghyd â rheiny yn y canol megis Alun Davies, Aelod Llafur o’r Senedd dros Flaenau Gwent.

Mae gan ei wrthwynebydd Vaughan Gething gefnogaeth ffigurau dylanwadol o fewn y blaid, megis arweinydd Cyngor Torfaen Anthony Hunt, sy’n gadeirydd pwyllgor gwaith Llafur Cymru; cyn-Aelod Seneddol Torfaen, Paul Murphy oedd wedi gwasanaethu yn llywodraethau Tony Blair a Gordon Brown; ac efallai mai’r amlycaf ohonyn nhw yw Jessica Morden, Aelod Seneddol Dwyrain Casnewydd, sy’n Ysgrifennydd Seneddol Preifat Syr Keir Starmer ac felly’n uwch-gynorthwyydd iddo.

Gallai hynny awgrymu rhaniad tebyg i’r 1990au o ran yr arweinyddiaeth, pan oedd Tony Blair wedi ceisio’n barhaus i atal Rhodri Morgan rhag arwain y blaid yng Nghymru.

Dywed y Cynghorydd Paul Griffiths fod yna “densiwn o hyd” rhwng Llywodraeth ganolog y Deyrnas Unedig a gweinyddiaethau datganoledig, a bod “Tony Blair yn sicr eisiau rheoli datganoli cyhyd ag y gallai, ac fe wrthwynebodd Rhodri Morgan hynny”.

Ac yntau wedi profi perthnasau rhynglywodraethol llywodraethau Llafur drosto fe ei hun, fe wnaeth y Cynghorydd Paul Griffiths, adawodd ei rôl yn ymgynghorydd arbennig yn 2007, ailadrodd ei ffydd yn Jeremy Miles.

“Dw i’n credu bod ganddo fe’r sgiliau fydd yn ei alluogi fe i ddadlau’r achos dros Gymru o fewn y Deyrnas Unedig,” meddai.

Ac yntau wedi helpu i siapio saith allan o wyth mlynedd gyntaf datganoli, ar ôl cael ei benodi yn 2000, dywed y cynghorydd ei fod e’n cadw at yr hyn mae’n ei ystyried yn llwyddiant i lywodraeth ddatganoledig a “dŵr coch clir”, er ei fod e’n teimlo’n “rhwystredig” ynghylch oedi yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac yn disgrifio lefelau isel o gyrhaeddiad o ran canlyniadau PISA rhyngwladol fel rhywbeth i “ddysgu oddi wrtho”.

Mae cynghorydd Cas-gwent yn cyfeirio at reolaeth leol o addysg, sy’n wahaniaeth amlwg o gymharu â model yr academïau gafodd ei gyflwyno yn Lloegr gan lywodraeth Tony Blair, fel un o lwyddiannau datganoli ac o ran sut mae “Llafur Cymru’n adlewyrchu bywyd cymunedol yng Nghymru yn ein gwreiddiau sosialaidd”.